Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

r i - ■.-;. PP| SWYDDOGOL UWCH DEML ÜBDD AMIBYNOhìY TEILWYE DA YN NGIYMRU. RHIF. RHIF. 11 O'R GYF. NEWYDD. 32 O'R HEN GYF. TACHWEDD 1, 1875. [Pris Ceiniog. DEONGLIADAETH YSGRYTHYROL. " Nid gweddaidd i frenhinoedd, 0 Lemuel, nid gweddaidd i fren- hinoedd yfed gwin; nac i benaduriaid ddiod gadarn : Rhag iddynt yfed ac ebargofi y ddeddf ; a newidio barn yr un o'r rhai gorthrymedig. Rhoddwch ddiod gadarn i'r neb sydd ar ddarfod am dano ; a gwin i'r rhai trwm eu calon. Yfed efe fel yr anghofied ei dlodi; ac nas meddylio am ei flinfyd mwy."—Diar. xxxi., 4—7. Nid oes dim yn bwysicach ar yr adeg bresenol i ddir- westwyr a Christionogion, na phenderfynu yn bwyllog beth yw dysgeidiaeth y Bibl ar bwnc y diodydd meddwol. Os yw y Bibl yn groes i Iwyrymataliad dyna holl adeilad y dirwestwyr wedi myned i'r llawr ; eithr os yw y Bibl yn cefnogi yr arferiad, mae y pwnc wedi ei benderfynu yn meddwl pob dyn sydd yn edrych ar yr Hen Lyfr fel gwir Air Duw. Mynych y defnyddir y ddwy adnod ddiweddaf sydd uwch ben ein hysgrif fel rheswm dros yfed diodydd meddwol, dan amgylchiadau neillduol; tra na chly wir byth son am y ddwy flaenaf. Yn wir, digon tebyg y rhyf- eddai y rhai ddefnyddiant y ddwy olaf gyda'r fath fwyn- had, pe deallent fod y ddwy flaenaf mewn undeb â hwynt. Mae yn ddigon posibl fod dirwestwyr yn osgoi y ddwy olaf, yr un modd ag y mae yfwyr a chymedrolwyr yn cau eu llygaid ar y ddwy flaenaf. Rhaid i bawb addef, fodd byflag, fod cywirdeb perffaith rhwng y pedair adnod â'u gilydd; ac mai trais arnynt ydyw pob esboniad nad yw yn cydnabod yr egwyddor hon. Mae y 4edd a'r 5ed adnod yn hollol eglur, a chwbl gyson âg athrawiaeth Uwyrymataliaeth. Mae y cyfieithiad Cymraeg o'r adnodau hyn yn cydfyned â'r Hebraeg ynrhagorol, a gadael allan y gair "gweddaidd," tra y gwelir fod gair cyffeíyb yn ddealladwy, a bod ein cyfieithwyr wedi taraw ar y gwir ystyr. Mae ychwaneg- iad gan y Deg a thriugain nas gellir cyfrif am dano heb dybied mai gwaith rhyw gopi'wr ar ymyl y ddalen ydoedd yn gyntaf, a'i fod ar ol hyny wedi ymlusgo i mewn i'r testyn. Gosodir yr ychwanegiad o flaen yr adnod;— " Mewn pwyll gwna bob peth, mewn pwyìl ŷf win. Mae y tywysogion yn dueddol i ddigofaint, bydded iddynt beidio yfed gwin gan hyny, fel na byddo iddynt anghofio doeth- ineb pan yu yfed, a bod yn analluog i iawn-farnu y gweiniaid." Gwelir nad yw y darlleniad hwn yn gyson âg ef ei hun, gan fod y rhan gyntaf yn caniatau, a'r olaf yn gwahardd yfedgwin, Darllena y Saesneg fel y canlyn :—" Gochel O Lemuel, frenhinoedd, brenhinoedd meddaf, y rhai a yfont win, a thywysogion y rhai a yfont ddiod gadarn; rhag trwy ddamwain i ti anghofio datgan y gyfraith, a thrwy angof roddi i fyny achos un o blant y tlodion." Mae y Targum yn darllen fel hyn:—" Cadw dy hun ymhell oddiwrth frenhinoedd, Lemuel, oddiwrth frenhin- oedd a yfont win, a rhai nerthol a yfont ddiod gadarn ; rhag i ti ddigwydd yfed a gwyro dy achos, a newid barn» edigaethau yr un o blant y tlodion," Mae yr holl ddarlleniadau yn cyfuno i wahardd gwin i frenhinoedd a phenaduriaid, gan roddi—mewn sylwedd— yr un rheswm am hyny, sef y perygl o anmharu y gallu angenrheidiol er iawn weinyddiad y gyfraith ymysg eu deiliaid—y perygl o " anghofio y ddeddf, a newidio barn yr un o'r rhai gorthrymedig." Yr oedd yr arferiad yn yr hen amseroedd, fel y gwelir oddiwrth wahanol ranau o'r Hen Destament, i'r llywodraethwyr yn bersonol gymeryd rhan fiaenllaw yn ngweinyddiad y gyfraith ; ac at hyny y cyfeirir yma. Priodolir yr un effaith yn hollol i'r gwin a waherddir yma ag a gynyrchir yn ein dyddiau ni gan win- oedd a diodydd meddwol—dyrysu y cof, cymylu y deall, a gwyro y farn. Ac y mae llawn cymaint o rwymau ar bob dyn ofalu am dano ei hun yn yr ystyr hyn ag sydd ar frenhinoedd. Mae gan bob un gylch mor bwysig i droi ynddo. a dyledswyddau mor anhawdd i'w cyfìawni fel nas gall weithredu yn briodol o gwbl heb ben iach, meddwl clir, a barn bwyllog a goleu. Felly gallwn yn hollol deg a chyfreithlawn estyn cymhwysiad yr adnod at bob dyn, a darllen—Nid gweddaidd i ddykiok yfed gwin a diod gad- arn; rhag iddynt yfed ac ebargofi eu dyledswyddau; a gwneyd cam â'u cyd-ddynion dan ddylanwad terfysg meddyliol, wedi ei gynhyrfu gan ddiodydd meddwol. Adnodau y 6 a'r 7. Yr unig wahaniaeth meddir, rhwng y darlleniad Hebraeg a'r Gymraeg yma ydyw, fod y flaenaf, fel y gwelir ar ymyl y ddalen, yn darllen " chwerw eu henaid," am trwm eu calon." Mae yr hen gyfieithiadau yn dilyn yr Hebraeg ynbur ffyddlawn. Nid oes anhaws- der yn y byd i benderfynu ystyr y geiriau ddefnyddir. Mae yr holl anhawsder mewn penderfynu ysbryd ac amcan y cyfarwyddyd roddir yn y 6ed adnod. A ydym i ddeall yr adnod fel gorchymyn dwyfol ? os felly, cynhwysa drwydded i foddi tristwch mewn diodydd syfrdanol! Gwyr pawb cyfarwydd â'r Ysgrythyrau nad oes ynddynt rith o sail i athrawìaeth felly? pddieithr fod yr adaod hon yn fforddio y cyfryw„