Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I4%f ,^'t^yî Uwch Deml SWYDDOCOL Urdd Y Temlwyr Da Yn Nghymru. RHIF. 7 O'R GYF. NEWYûD. RHIF. 29 O'R HBN GYF. GORPHENAF 1, 1875. [Pris Ceiniog. UNO'R BYDDINOEDD. GAN Y GOLYGYDD. Yn y cynllun milwrol a fawbwysiadwyd gan ein Senedd amser yn oì, ac sydd yn awr yn cael ei gario allan yn raddol yn y wlad, fe geisid cysylltu ynghyd y gwahanol fathau o filwyr, a ífurfio canol-leoedd milwrol (military centres), ymhob un y bydd catrawd o'r fyddin reolaidd, ac roewn cysylltiad â hono amrywiol rengoedd o'r cartreflu (militiaj ac o'r gwirfoddolwyr (volunteers), a'r holl wa- hanol fathau o adnoddau milwrol. Mae yn ddiameu fod egwyddor y cynllun hwn yn ddoeth, a bod amryw fan- teision pwysig yn cael eu cyraedd trwyddo. Ond y mae wedi rhedeg i'n meddwl ni fod eisiau milìtary centres dirwestol, a cheisio cyfuno y gwahanol rengoedd, ac yr ydym yn methu gweled paham nad allai ac na ddylai y gyfrinfa o Demlwyr Da fod yn centre yn y fan lle mae, o leiaf yn absenoldeb unrhyw ganolbwynt arall. Ac yr ydym wedi taro ar ddernyn yn y British Temperance ■àdvocate am fia Mehefin sydd yn dyfod at y mater hwn : " Tra y mae y trefniad Temlyddol gyda'i beirianwaith am- rywiol, ei wasanaeth, ei ddefodau, ei urddwisgoedd, ei gerddoriaeth, ei draethodau, a'i ddadleuon; yn gallu ad- dynu y gwŷr a'r merched ieuainc sydd yn llafurio yn y félin a'r gweithdy, o'r tu ol i'r counter a'r de.sk, neu sydd yn llenwi cylchoedd uwch, ond nid mwy pwysig mewn bywyd, ac felly yn cyflenwi y ddolen gysylltiol rhwng y Band of Hope a chymdeithasau y rhai mewn oed, fel y byddo y rhai a addysgir yn y cyfrinfaoedd a'r temlau, ac wedi llyncu ei dysgeidiaefch a'i dylanwadau pur, yn myned allan i'r priffyrdd a'r croesffyrdd, i'r halls a'r lleoedd cyf- arfod, a chan ymuno â'r rhai sydd wedi bod yn llafurio, ac sydd eto yn llafurio yn ngwyneb llawer o ddigalondid a gwrthwynebiad ao erledigaeth fe ddichon hefyd i ddal i fyny wirioneddau dirwest i boblogaeth loddestawl. A dyma yn sicr yr hyn a ddylid ddisgwyl oddiwrth y rhai sydd yn perthyn i Ürdd y Temlwyr Da, ac iddynt fyned allan nid yn unig fel Temlwyr, ond fel cenhadon dirwest, oblegid ai nid dirwest yw sylfaen Temlyddiaeth ? Ai ni ddylent gan hyny, trwy bob moddion anrhydeddus gad- amhau y sylfaen hon ? Os gwnaifE y Temlwyr hyn bydd ì'r urdd gymeryd gofal o honi ei hunan. Nis gall yr adeilad ddymchwel tra y bydd y sylfaen yn aros yn ddíogel." Y mae y brawddegau uchod yn hirion braidd, ac nid ydym yn ymrwymo i dderbyn y'r hyn oll a gymerir yn gamataol, ond yr ydym yn teimlo awydd i fabwy siadu y casgliad â'n holl galon. Y mae yn ein gwlad hen ddir- westwyr a chrefyddwyr, sydd gystal dirwestwyr a neb o honom ninau, ac sydd hefyd, ni a gredwn, yn foddlon i wneyd eu goreu dros ddirwest, wedi gwneyd 11? wer, a hoff"- ent wneyd eto. Ond nid ydynt am ymuno â ni, oherwydd rhyw resymau neu gilydd, nis gwaeth i ni yn awr pa un ai da neu ddrwg. Yn awr oni ellir cael rhyw fath o un- deb rhwng ein cyfrinfaoedd â'r rhai hyn. Nid ydynt yn ein herbyn, na, cynorthwyant ni â'u holl galon, mor bell ac y gallont heb ymuno â ni. Pa niwed gan hyny fyddai i'r gyfrinfa ymffurfio yn ganolbwynt, a cheisio dwyn y rhai hyn dan dipyn o drefn yn yr hen ddull ? Nid an- fantais i'r fyddin reolaidd ydyw y militia ond mantais, y maent wrth gefn i amddiffyn y wlad, tra y bydd y lleill yn ymladd, a mynych y gwelir. rhai yn llith.ro oddiwrth y militia at y milwyr. Felly pe bai modd cael yr holl ddirwestwyr i drefn, ni byddai yn un anfantais i ni, dang- osent trwy hyny eu bod o'n plaid, a chydweithredent, a diameu y llithrai llawer ohonynt atom wedi cael ychydig o flas ar weithio. Byddai hyn yn gryfder mawr i ni. Yn awr tra yr ydym yn fyddinoedd gwasgaredig y mae y gelyn yn cael mantais arnom, gadawer i ni gan hyny agoshau at ein gilydd, a byddwn yn gryfach, a bydd ein gelyn yn wanach. Yn awr, pa fodd i wneyd hyn ? Pe byddai,.fel y gwel- wyd mewn rhai manau, yr hen ddirwestwyr yn codi eu cymdeithas â llyfr, ymddangosent a theimlent fel dpposition, a dichon fod ofni gwneyd drwg fel hyn yn cadw rhai heb wneyd dim—maent yn ofni gwneyd drwg. Yn awr, oni allai y gyfrinfa fabwysiadu llyfr dirwestol, a rhoddi i lawr yn hwnw enwau pawb sydd yn ddirwestwyr, ond nas gellir yn awr eu cael yn Demlwyr. Dyweder hefyd fod pwyllgor yn edrych ar ol y llyfr hwn yn wastad i roddi ynddo bawb a geir yn chwaneg, a thynu o hono bawb a doro yr ym- rwymiad. Gallai y dirwestwyr hyn wneyd casgliad achlysurol er cynorthwyo yr achos dirwestol. A dyweder fod pwyllgor arall i'r diben o gydweithredu gyda Chyngrair y Deyrnas Gyfunol—yn wir, y mae gan lawer o gyfnnfa- oedd hyn, sef Pwyllgor Gwleidyddol. Ac am a wyddom ni nad allem gael llyfr arall i roddi ynddo bawb fyddo yn proffesu cydymdeimlad â ni mor bell ag i addaw peidio yfed mewn tafarndy, ac yn nghwmni|y meddwon. Diehon y dywed rhai ein bod yn myned yn rhy bell. Wel, nis gwyddom am hyny, ond yr y.dym yn teimlo awydd angerddol i geisio cael yr adranau hyn at eu güydd, ac yr ydym yn |credu y byddai hyny yn llawer tuag at gaei