Skip to main content

miittû} SWYDDOGOL TJwch Deml Anníbynol Urdd Y Temlwyr Da Yn Nghymru. rw 18 ns RHIF. 6 O'R GYF. NEWYDD. RHIF. 28 O'R HEN GYF. MEHEFIN 1, 1875. [Peis Ceiniog. LLADD Y BRENHINOEDD. GANYPAfiCH. H. C.WILLIAMS (HYWBL CERNYw), (b.), COBWEN. " Yn ddiffygiol ac eto yn eu herlid hwy." Yb ydym yn cael i Abraham y patriarch gael ei fendithió pan yn dychwelyd o ladd y Irenhinoedd gan Meìchisedec, offeiriad y Duw Goruchaf. Yr oedd Abraham, mae'n ddi- ameu, i'w gyfiawnhau am y cwrs a gymerodd yn amgylch- iadau neillduol y dyddiau hyny. Eelly, yr ydym ninau fel Dirwestwyr a Themlwyr Da i fod yn filwyr, i gymeryd rhari yn yr ymgyrch, ac i benderfynu y rhoddwn ein holl egnion ar waith i ladd y brenhinoedd cedyrn sydd wedi bod yn eistedd ar eu gorseddau rhwysgfawr, ac yn gormesu i'r fath raddau dychrynllyd ar eu deiliaid twylledig. Enwn rai o'r brenhinoedd ag yr ydym wedi ymgyfamodi i'w dinystrio. I.—Alcohol.—Ehyfedd y fath deyrnas eang, deiliaid lliosog, a dylanwad mawr sydd gan y brenhin creulon hwn. Mae ei deyrnasiad wedi bod yn faith iawn. Dylanwadodd ar Noah ar ol ei ddyfodiad allan o'r arch, ac wedi gosod ei draed ar y byd newydd, ac er cystal dyn oedd Noah ar- weiniodd ef ar gyfeiliorn, a gwnaeth ef yn ynfyd-ddyn yn ngolwg ei blant ei hun. Yn hen chwedloniaeth y Groeg- iaid á'r Rhufeiniaid dwyfolir ef dan yr enwau Bachus a Dionysius. Mae gan y cenhedloedd hyn draddodiadau rhyfedd yn ei gylch. Dywedir ei f0d wedi cymeryd ei seddle unwaith mewri llong, ac wedi troi yr hwylbrenau a'r rhwyfau i seirph gwenwynig, a'i hunan i lew; ei fod wedi perii eiddew dyfu ar ochrau y llestr, wedi creu swn per- oriaeth yn yr awyr, gwallgofi y morwyr, ac effeithio arnynt i'r fath raddau fel y taflasant eu hunain i'r môr. (Gwel ' Smith's Classical Dictionary.') Hawdd credu y rhanau diweddaf. Mae yn teyrnasu mewn rhwysg yn ein gwlad ni yn bresenol, o John o'Groat i'r Land's End, drwy bob dinas, tref, pentref, a chwmwd o'r bron. Ceir hefyd nifer o dywysogion eraill sydd yn ei gynorthwyo y rhaid i ni ymladd yn lew yn eu herbyn. Dyna un. II.—Rhagfám.—Mae gan hwn orsedd mewn llawer calon. Dyn wedi penderfynu ymlaen llaw beth a wna gredu, a beth ni wna. Nid yw yn agored i argyhoeddiad. Cwyd furiau cedyrn rhyngddo a'r gwirionedd, a gesyd or- chudd tew ar lygaid ei feddwl rhag i belydrau goleuni ym- weled âg ef. Y mae rhagfarn yn elyn chwerw i ni. Llawer o chwedlau rhyfedd a daenodd am ein cymdeithas, megia ei^ bod yn gosod dirwest yn lle yr efengyl, ein bod yn arwaia dynion at Babyddiaeth, ac yn eu cludo ar hyd llinell danddaearol i Eufain. Y mae nodi y pethau hyn ar unwaith yn ddigon i'w gwrthbrofi i ddarllenydd y TfiML- YDD. III.—Anwybodaeth.—Mae hwn yn dywysog cadarn, ond yn elyn ffyrnig i wirionedd a daîoni. " Mamaeth duwiol- deb yw anwybodaeth " medd hen ddywediad cyfeiliornus. Dylai y dirwestwyr mewn modd neillduol gyhoeddi rhyfel yn erbyn anwybodaeth, a gwneyd eu goreu i'w ymlid allan o'r wlad. Bged i'r disgyblion ieuainc yn ein cymdeithas ymegnio at gyraedd gwybodaeth gywir o sefyllfa y cwestiwn yn ein gwlad. Sylwer ar y miliwnau punau a wastreffir yn flynyddol gyda'r diodydd meddwol, y miloedd eneidiau a ddinystrir bob blwyddyn gan ei effeithiau, y teuluoedd lawer a yfant wae o'r achos, a'r miloedd tai sydd yn y deyrnas hon na ellir yn briodol ysgrifenu y gair cartref uwchben y drysau. Credaf yn däiysgog mai fel y byddo llawer yn cyniweirio, a gwybodaeth yn amlhau ar y pwnc pwysig hwn, y bydd yn fantais annhraethol i'n hachos. IV.—Grym Arferiad.—Dyma deyrn eto ag y mae yn gofyn rhyw nerth unedig i allu gwrthsefyll ei ddylanwad. Dywed hen chwedl Ddwyreiniol fod rhyw frenin unwaith wedi caniatau i'r Un Drwg ei gusanu ar ei ddwÿ ysgwydd, ac ar unwaith cododd dwy sarph oddiyno, y rhai, gan eu newyn a'u gwanc, a ymosodasant ar y dyn, gan geisio bwyta i'w ymenydd. Yntau a geisiai eu hysgwyd ymaith oddiwrtho, pan, er ei ddychryn a'i syndod, y cafodd eu bod yn rhan o hono. Peth fel hyn yw arferiad. Dyna yr hen feddwyn wedi penderfynu newid ei frenin, ac am dymor yn llawn addewidion da am ei hapusrwydd dyfodol; ond Och ! y mae yn teimlo fod y sarph o chwant yn rhan o hono ei hunan. Rhaid iddo dynu y llygad de, a thori y fraich dde, mewn trefn i enill buddugoliaeth. Cysurus meddwl fod llawer yn alluog i wneyd yr aberth hwn. Dyma y brenhinoedd sydd genym i ymosod arnynt. Addefwn eu bod yn nerthol dros ben, a chanddynt filwyr lawer yn barod i'w cynorthwyo. Yr ydym er hyny, fel Gedeon a'i dri chanwr a geid yn erbyn y Midianiaid, " yn ddiffygiol, eto yn eu herlid hwynt." Cawn lawer iawn o bethau i'n gwangaloni. Disgwyliwn am gydym- deimlad cyfeillion, a llaw o gymorth yn yr ornest,^ ac yn lle hyny cawn wên wawdlyd, a'n galw yn ffyliaid a ffanaticiaid am ein trafferth ! Edrychwn atyr eglwys, a cheir rhai yno yn barod i daflu dwfr cer ar ein holl gyn- lluniau. Crefwn am help dinaswyr, a chwarddant am ein pen. Curwn wrth ddorau y Senedd, ac erfyniwn gyn- orthwy y 659 sydd yno wedi eu hanfon gan yr etholwyr