Skip to main content

mip% SWYDDOGOL Uwoìi Benü Annibynol "ördd Y lenüwyr Da Yn Nghymru. RHIF. 3 O'B, GYF. NEWYDD. RHir. 25 O'B HEN GYF. MAWETH 1, 1875. [Pris Ceiniog. GWEOLDEB MEDDWL. GAN Y PARCH. G. PARRY (TECWYN), LLANBERIS. Gwirionedd a ddysgir gan reswm a datguddiad yw, fod y naill greadur yn ymddibynu ar y Hall, a bod yr oll yn dibynu ar y Creawdwr am eu cynhaliaeth, eto ffaith deilwng o'n hystyriaeth yw, mai bod i feddwl, i farnu, ac i roddi cyfrif drosto ei hun ydyw dyn, fel pe byddai ddidoledig oddiwrth bob creadur arall. Ý mae tuedd gref mewn dyn i ymgripio at anffaeledigrwydd—amcana osod argraff o hyn ar bob peth a wna. Yr unig wahaniaeth rhwng Pio Nono a'r rhelyw o ddynolryw ydyw, ei fod ef mewn gwell mantais i roddi datganiad cyhoeddus i'r duedd hon. Ehaid cydnabod fod yr un ysbryd yn fyw mewn cymdeithas drwyddi. Pio Nono y\v pob dyn. Y mae y gwahaniaeth yn y gallu i roddi datganiad effeithiol i'r duedd hono. Y mae bod dyn yn agored i gyfeiliorni yn rheswm dros iddo beidio ag ymddiried i'w farn ei hun, eto gall un yn cadw ei olwg yn ormodol ar hyn anghofio gwirionedd arall, gwirionedd llawn mor bwysig iddo ef ei hun ac i gymdeith- as. Gall anghofio fod yn rhesymol iddo ef ymchwilio i'w farn ei hun. Olrhain a chwilio affl yr hyn sydd gywir ymhob lle ydyw ein dyledsAyydd ni, a chymeryd mantais ar bob goîeuni a dywyno ar ein dirnadaeth er ein cyn- orthwyo i ffurfio ein barn. Yr ydym yn dueddol weithiau i olíwng ein gafael o'n meddylddrychau ein hunain, am mai yr eiddom ni ydynt, hyd nes y gwypom i ryw wr mawr, neu o leiaf un a elwir fel'y ddigwydd dweyd yr un peth. Gwell ydyw, cyn gollwng gafael o'n meddylddrychau ein hunain roddi prawf teg arnynt. Nid hardd ar ddyn yw meddwl yn rhy fawr o hono ei hun. Nid teg ychwaith iddo dybied yn rhy fach am ei alluoedd. Y mae y naill mor ddinystriol a'r Uall. Dylai y dyn ei hun ymdrechu ymddwyn yn dega chyfiawn ato ei hunan, a dylai cymdeithas hefyd wneyd yr un r>eth. Os adroddir i wr ei ff'aeleddau rhag iddo ymchwyddo paham na chrybwyllir ei rinẃedclau rhag iddo ddigaloni. Aagen niawr dyn ydyw ei gael at y gwir, ac mewn canlyniad i roddi ystyriaeth briodol ,'i'w nerth meddyliol, a'r amcan goruchel i ba un y cynysgaeddwyd ef â'r fath alluoedd. Eiddo dyn ei hun yw eì feddwl, rhaid i'r meddwl hwnw ddeall drosto ei hun, a pha un bynag ai ei eiddo ei hun ai arall a fabwysiada fel barn a rheol i'w feddyliau, rhaid iddo drosto ei hun roddi cyfrif. Nid oes dim yn eglurach na'r ffaith nas gall dyn fwyn- hm ond yr hyn y llafuria am danos Nis gall fwynhau ond a feddiano, nis gall feddianu ond a ddeall, nis gall ddeall ond trwy lafurio—rhaid olrhain ac ymchwil cyn y gellir deall, a rhaid deall cyn y gellir meddianu a mwyn- hau—mewn trefn i gyraedd hyn dylai ymddiddan yn rhydd â'i gyfeillion, ymofyn â'r hen a'r dysgedig fel yr ychwanego ei drysorau; ond yn benaf rhodded arbenigrwydd i'wfeddwl ei hun, yna wedi meddwl, pwyso meddyliau eraill, barnu mor gywir ag y gall yn unol â thystiolaeth ei gydwybod, bydded yn wrol i weithio allan ei argyhoeddiad. Nid yw dyn yn alluog i ddeall ei alluoedd ond trwy ymroddi i feddwl, ac nid yw yn alluog i ddeall ei nerth ond trwy ei roddi ar brawf. Y mae ambell un yn tybied fod ei allu- oedd yn llai na'i gyfeillion am nad yw yn gallu dirnad mor gyflym, ond pe yr ymwrolai, feallai y rhagorai yntau mewn nerth. Cyflym yw tyfiad y blodeuyn, ond arafaidd yw tyfiad y dderwen, ac y mae ei nerth yn gyfatebol. Gall pawb o honom ragori mewn rhywbeth, gan hyny pwnc mawr presenol pob un o honom ydyw, astudio ei hun. dyma secret llwyddiant. Y mae i'r "Gwroldeb meddwl" hwn ei nodweddion. Deuant i'r golwg mewn dau beth neillduol,—Gwrthsefyll temtasiynau a gweithgarwch. Y mae y nodweddion hyn yn ymdoddi y naill i'r llall. Tra y byddo y meddwl yn gweithredu yn ymosodol yn erbyn temtasiynau a hudoliaethau y mae yn yr act hon yn caeglu nerth i weithio—i f od yn wasanaethgar yn holl gylchoedd cymdeithas, y mae yr ymdrech yn trainìng i ddadblygu a meithrin y gwroldeb hwn. Nid yw rhwystrau namya symbylau i'w gymell ymlaen, defnyddia yr oll megis bara i adnewyddu ei nerth. Mantais i'r gwroldeb hwn ydyw eí^ yru allan i'r byd. Ehoddi digon o scope iddo. Gadael' iddo anadlu mewn eangder. Ehoddi cyfleusdra iddo i dynu allan ei nerth i ymdrechu âg anhawsderau, i actio y gwahanol rinweddau a berthyn iddo. Mantais iddo ydyw hyn, oblegid y ffordd i feddwl fyned yn gawraidd ydyw ei gadw mewn arfau yn barhaus. Y mae bod in arms yn ymladd âg anhawsderau yn feithrinfa i'r gwroldeb hwn. Y mae adnoddau yn perthyn i'r meddwl na ddeuant i'r golwg ond trwy hyn. Y mae tarddle bywyd y goeden o'r golwg yn y ddaear, ond y mae y Creawdwr wedi cyfaddasu y goleuni, y gwres, y gwlaw, yr holl elfenau i dynu j bywyd hwnw allan. " Ymestyna y canghenau, ac ymledant i gofleidio yr elfenau hyn, ac y mae corff y pren yn cryf- hau, a'i wraidd yn dyfnhau; felly am y bywyd meddyhol, y mae y bywyd hwn yn guddiedig, ond y mae ymdrechu âg anhawsderau yn peri iddo ymagora thaflu ei nerth allan, y mae ei adnoddau yn ymddadblygu? ac y mae hyn yn