Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TTwch Deml Ânnibynol TTrdd ■ P-y i .wyr Da Yn Nghymru. RHIF. 2 O'R GYF. NEWYDD. RHIF. 24 O'R HBN GYF. CHWEFEOE 1, 1875. [Pris Ceiniog. MEDDWT YN BECHOD. GAN Y PARCH. E>. OLITER, TREFIYNON. Nid gwaith hawdd iawn ydyw darostwng hen arferiadau a gwrthweithio hen syniadau, a byddwn weitbiau yn clywed rhai yn dweyd mai gwaith ofer iawn ydyw ymdrechu gwrthweithio dylanwad y fasnach feddwol, a pherswadio dynion i ymwrthod â'r diodydd sydd yn nieddwi. Yr ydym yn ymwybodol mai araf iawn y rnae pob diwygiad yn cymeryd lle, ond yr ydym yn cael fod pob diwygiad sydd yn seiliedig ar wirionedd a chyfiawnder yn llwyddo er gwaethaf pob dylanwad gwrthwynebol. Y mae meddwdod, ysywaeth, yn y dyddiau presenol yn beth mor gyffredin nes ydym i raddau wedi cynefino âg ef, ac y mae tuedd mewn llawer o honom i edrych arno fel rhyw ddrwg ag y mae yn rhaid i ni gyd-ymddwyn âg ef. Ac feallai fod tuedd ynom ninau sydd wedi ymrestru yn ei erbyn pan yn siarad am dano i gyfyngu ein hunain yn ormodol at ei effeithiau, ac i esgeuluso ei ddangos fel pechod—fel un o'r pechodau mwyaf gwàrthus. Y mae tywydd oer y gauaf yn ddigon anhyfryd, yn enwedig i'r gweithwyr hyny sydd yn gorfod bod allan yn nanedd y rhew-wynt, ond ymdrechir cyd-ddwyn â r tywydd, gan ei fod yn un o drefniadau deddfau llywodraethol ein byd. Yn awr ni ddylem edryeh ar feddwi yn yí ystyr yna. Y mae meddwi yn ddrwg ynddo ei hun, pe na buasai yn dwyn tlodi, angen, a gwarth ar ddynion. Y mae yn dros- edd cymdeithasol yn yr un ystyr ag y mae lladrata a thyngu anudon yn drosedd—yn taro yn erbyn pob diwyll- iant a rhinwedd ; ac er fod rhai o'n seneddwyr a'n gwlad- Weinẁyr yn dechreu dyfod i edrych arno fel drwg yn yr ystyr yma, eto ymddangosant. yn hollol analluog i gael allan fesurau eíîeithioì i'w gyfarfod. Y mae ein seneddwyr yn wan, gan nad oes yn y wlad deimlad cryf a chyffredinol i edrych ar feddwdod fel trosedd, yn annibynoì ar ei effeithiau andwyol a niweidiol. Y mae ein gwendid yn gorwedd yn hyn, ein bod yn dueddol i edrych yn fychan ac yn ysgafn ar yr act o feddwdod. Y mae y weithred o ladrata ar unwaith yn gosod yr un a'i cyflawnodd y tuallan i bob ymddiriedaeth, sylw, a pharch gan gym- deithas, ond nid felly gyda'r weithred o feddwi. O ! dyn fine, da, cymwynhsgar ydyw, ond ei fod yn yfed llymaid yn ormod weithian. Dyna ddywedir am y meddwyn yn aml. Nid felly y dylem edrych arno. Y mae dyn trwy gymeryd gormod o'r diodydd meddwol yn lladd y gallu y ^ae y Byenin Mawr wedi ei roddi iddo i lywodraethu ei hunan ac i ddewis rhwng drwg a da, a dylem ddal y dyn meddw yn gyfrifol, nid yn unig am y drwg y mae yn weithredol yn ei gyflawni, ond hefyd am y drwg oedd ef yn agorcd i'w gyflawni oni bai fod amgylchiadau rhaglua- iaethol wedi gosod rhwystrau ar ei ffordd. Dyna ddau ddyn wedi meddwi yn yr un tafarndy ar yr un adeg. Y mae un, oherwydd rhyw neillduolrwydd perthynol i ffurf- iad ei ymenydd, yn cael dylanwadu arno gan y diodydd meddwol er ei wneyd yn ysgafn a ffol; ond am y llall, oherwydd rhyw neillduolrwydd perthynoli'wgyfansoddiad, y mae y diodydd yn effeithio yn wahanol—yn ei wneyd yn gwerylus ac yn gâs—yn barod i ffraeo â phawb, ac feallai i niweidio rhywrai a lladd rhywun yn y diwedd. Y mae un yn myned yn rhydd, heb yn gymaint a chael ei gyhuddo o drosedd, tra y mae y llall yn cael ei gyhuddo, ei gondemnio, a'i grogi. Yn awr, y mae yn ymddangos i ni fod y ddau yr un mor euog. Yr oedd euogrwydd gwirioneddol hwnAv oedd wedi lladd ei gyd-ddyn yn gorwedd yn y ffaith ei fod yn fwriadol wedi cymeryd y diodydd meddwol i orchfygu ei reswm, yr hwn oedd wedi cael ei roadi iddo gan Dduw i'w reoleiddio yn ei fywyd. Yr oedd y Hall na wnaeth niwed i neb wedi cyflawni yr un drwg, a'r un mor euog. 'Does dim diolch iddo ef na chyflawnodd yr un trosedd a'r llall—i gyfansoddiad ei ymenydd y mae i briodoli y cwbl. Trwy ddinystrio am dymor, a hyny yn wirfoddol, ei reswm, yr oedd yn rishio ei fywyd ei hun a bywyd ei gymydogion hefyd. Dyna gadben steamer ar afon Lerpwl yn tori y Hyw, yn gadael y steamer i redeg lle y myno, ond yn ffodus y mae yn taro ar graig cyn gwneyd niwed, ond nid i'r cadben y mae diolch am hyny. Y mae pob dyn sydd yn meddwi yn gwneyd rhywbeth yn debyg i hynyna, ac am hyny fe ddylai gael ei gosbi ar yr un egwyddor ag y mae cadben y steamer jn cael ei gosbi," er feallai na chyflawnodd ddim niwed. ond nid iddo ef y mae diolch am hyny ond i am- gylchiadau. Ehaid i gymdeithas eto ddioddef llawer iawn os na wnawn ni roddi heibio yr hen arferiad o edrych yn ysgafn ar feddwi, a dechreu edrych arno a'i gasâu fel trosedd ysgeler, ac hefyd i gyfraith ein gwlad ymddwyn at bob meddwyn fel troseddwr. Mewn gwirionedd y mae llawer o'r troseddau sydd yn cael eu cyflawni mewn meddwdod yn cael eu cyflawni pan y mae y dyn mewn stâd o ddideimladrwydd. Y mae euogrwydd ytrosedd yn gorwedd wrth ddrws y dyn hwnw ddarfu o'i wirfodd yfed y diodydd meddwol nes ei ddwyn i stad o ddideimladrwydd. Meddyliwoh am fachgen yn rhy ddiog i weithio, ac ey