Skip to main content

IDIIRWEJSaîOlLj, Dan Nawdd Uwch Deml Annibyûol Urdd T Temlwyr Da Tn Nghymra. CYF. II., RHIF 28.] IONAWR 1, 1875, [Peis Ceiniog. PWYSIGRWYDD LLENYDDIAETH I'R URDD DEMLYDDOL. Maü Llenyddiaeth erbyn diwedd y bedwaredd ganrii ar bymtheg wedi dyfod yn aliu aruthrol yn y wlad hon, ac yn wir, ymhob gwlad wareiddiedig dan haul. Pan gofìom fod cynifer o athrofeydd yn y wlad, a phob un o honynt yn cynwys rhai efrydwyr galluog, y fath ar oi addysgiaeth briodol droant allan yn awdwyr mwy neu lai enwog; fod nifer cyhoeddwyr anturiaethus yn cynyddu yn barhaus ; J fod y cyfieusderau i ledaenu llenyddiaethmor lliosog, abod y papyr, bellach, mor rad—-naturiol disgwyl i ddylanwad llenyddiaeth gael ei deimlo yn gyffredinol. Ni bu cyfnod erioed yn hanes y byd mor doreithiog yn nifer ei gynyrch- ion llenyddol a'r oes bresenol. Cyhoeddwyd tua phum' mil o lyfrau, ar wahanol faterion, yn y wlad hon, y flwyddyn ddiweddaf yn unig, ac yr oedd y pump a'r deng mlynedd diweddaf yn bur gyffelyb. Mae tuag 800 o gylchgronau, o bob math, yn cylchredeg trwy y Deyrnas, heblaw 15,000 o newyddiaduron ! Mae nifer y cyfrolau a'r cop'iau werthir bron uwchlaw dirnadaeth. Mae yn bur amlwg, dan yr amgylchiadau, fod Ilwyddiaut neu afiwyddiant pob achos yn ein tir yn ymddibynu i raddau helaeth ar faint a natur J defnydd wneir o lenyddiaeth, er ei gyfodi i sylw, ei gymeradwyo, a'i amddiffyn. Nid oes un achos mwy teilwng o gefnogaeth y Wasg na'r I achos Dirwestol, ac nid oes achos ar y ddaear mewn mwy ' o angen am ei gwasanaeth. Mae rhan helaeth o'r Wasg yn y wlacl hon, yn enwedig, yn hynod ddiffygiol a chyfeiliorn- us mewn perthynas i'n hachos, tra y mae rhan arall yn hollol elynol, naill ai oddiar fuddiant personol, neu ofal am blaid neillduol. Os ymfoddlona Temlwyr a Dirwestwyr cânt eu dirmygu a'u camddarlunio gan y cyfryw yn bar- haus ; ond os byddant ffyddlawn i'w hachos, nid yn unig distewir y goganwyr a'r crach-feirniaid, ond goleuir y werin, a gorfodir y papyrau gelynol, yn y pen draw, i ddadleu ac amddifîyn ein hachos. Nid er mwyn y rhai oddi allan, yn unig, pa fodd bynag, y mae Ilenyddiaeth yn bwysig i'r Urdd; mae ei sefyllfa fewnol yn gwneyd Uenyddiaeth yn angenrheidrwydd an- hebgorol. Er fod yn Nghymru ugeiniau o filoedd yn Demlwyr Da, camgymeriad dybryd %-ddai meddwl fod yr holl Demlyddion wedi eu hyfforddi yn drylwyr yn egwydd- orion ac amcanion ein Hurdd. Mae y nifer iiosocaf o honynt wedi dyfod i fewn i ddysgu. Ar y cyntaf cymerant dipyn o amser i ddysgu cyfansoddiad yr Urdd; mae yr achos Dir- westol yn ei wahanoi agweddau ar ol drachefn, Er fod gan y nifer amlaf o'n haelodau syniadau lled glir am brif amlinelîau y mudiad, diau fod diffyg mawr yn eu gwybod- aeth o barth i'r manylion. Nid yw meusydd llenyddiaeth eto ond yn ìled agor eu golygfeydd prydferth o flaen corff mawr aelodaeth yr Urdd. Yr ydyrn yn credu yn ddibetrus fod nifer ìliosog o ddynion gwir dda wcdi gadael Dirwest o bryd i'w gilydd am nad oeddynt wedi eu haddysgu yn drwyadl yn ei haíhrawiaethau ; a chymer yr un anfîawd ìe eto gyda Themlyddiaeth os esgeulusir moddion gwybod- aeth. Pan oedd yr Urdd yn newydd, a phob peth o'i hamgylch yn ddieithr, gallesid esgusodi yr aelodau am beidio gwneyd ymchwiliad manwl i egwyddorion hanfodol; erbyn hyn mae pob esgus wedi ei symud, a rhaid i'r Urdd fyned yn ddwfn neu feihu myned rhagddi. Darllen—a meddwl bid sicr—ydyw y brif, os nad yr unig ffordd i fyned i mewn i unrhyw bwnc gyda thrylwyr- edd. Mae yn hawddach cofio meddylddrychau ar ol eu gweled ar bapyr nag ar ol eu clywed oddiar dafod. Gellir troi yn ol mewn llyfr ac edrych eilwaith ar yr un frawddeg, a chymharu y naill ran a'r llall, fel y galler cael golwg eang a chyflawn ar yr holl fater mewn ymdriniaeth. Mae anianyddiaeth Dirwest, er engraiíft, yn gyfryw bwnc anhawdd i'w feistroli, fel nas gellir hebgor llyfrau wrth ymwneyd âg ef. Mae yr un peth yn wir am ddeongl- iadaeth â gwleidiadaeth yn eu perthynas a'u hachos;— perthyna i bob un o honynt agweddau dyrus; felly rhaid wrth hamdden a phwyll i'w hastudio—ac nid mewn brwd- frydedd cyfarfod cyhoeddus yr ydys yn debyg o wneyd hyny. Nid porthi meddylgarwch yn unig, ond ei enyn yn ogystal yw amcan Ilenyddiaeth uwchraddol. Mae yn an- mhosibl darllen ysgrifeniadau galluog heb deimlo fod y meddy/l yn ymagor, y dychymyg yn rhedeg ar ei adenydd, a'r serch yn ymdoddi fwyfwy i'r pwnc. Fel y mae tan- wydd yn enyn tân felly y mae llenyddiaeth bur yn enyn meddylgarwch; fel yr egyr yr haul lygad y dydd, felly yr egyr ìlenyddiaeth ìygad y meddwl. ' Heblaw gweinyddu addysg, a chenhedlu meddylgarwch, mae gan lenyddiaeth hefyd i ddarparu cyfleusdra i ddadleu materion amheus. Mae llawer cwestiwn wedi ei benderfynu yn meddyliau ar- weinwyr yr Urdd ag y cymer flynyddoedd i'w benderfynu mor foddhaol yn meddwl corff mawr yraelodau. Y mae hefyd gwestiynau newyddion yn cyfodi yn barhaus, ar y rhai nid oes gan neb farn addfed nes iddynt gael eu dadleu yn deg, ol a blaen, yn y Wasg; yn raddol ymaddfeda barn a theimlad, gyda golwg arnynt^ a deuir i benderfyniad teg, modd y galler gweithredu yn ei ol. Fel y mae ymborŵ