Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mitetüj DIEWESTOL, 0 Dan Wawdd üwch Deml Annibynol Urdd Y Temlwyr Da Yn Nghymru. CYF. II., BHIF 21.J TACHWEDD 1, 1874. [PRIS CENIOG. FFYDDLONDEB I'B YMBWIMIAD. GAN Y BEAWD WATEIN POWELL, D.G.W.C.T., ABEHDAR. Y mae y pwysigrwydd o íod yn ffyddlon i'r ymrwymiad i'w weled pan ystyriom fod hyny yn hanfodol i ddefnydd- ioldeb pob Temlydd yn y Deml. pa faint bynag o ddrwg sydd yn nghalon dyn, nis gall weithredu yn groes, iV gyd- wybod drwy dori ar draws ei ymrwymiadau cymdeithasol a moesol, heb fod hyny yn dylanwadu yn ol arno ef ei hun. Fe ddywed y rhai sydd yn meddu dealltwriaeth lled berffaith o'r natur ddynol y gellir canfod euogrwydd neu ddinìweid- rwydd yn y wyneb. Y niae edrych yn wyneb y lloírudd yn sefydlog, a gwylied ei holl ysgogiadau yn ddigon er cael allan pa un ai euog ai dieuog ýdyw. Y mae euogrwydd, í'el rheol, yn mynu datguddio ei hnn mewn rhyw ffurf' neu gilydd. Fel y mae y magnel (cannon) weithíau wrth ladd y gelyn fan draw yn dinystrio ei hun hefyd, y mae nerth yr ergyd yn recoilo nes achosi dinystr deublyg. Yn gyffelyb, hel)law bodanffyddlondeb i unrhyw ymrwymiadau cymdei'th- asol yn taraw yn erbyn llwyddiant y gymdeithas neu ycym- deithasau hyny, drwy ùdylanwadu yn niweidiol ar eraill. y mae dylanwad y weithred yn recoilo, ac, íel rbeol, yn troiyn ddinystr i ddefnyddioldeb ac yni y person ei hun o blaid y gymdeithas y perthyn iddi. Priodol y dywedodd un gwr gaduog a da, " It is better to be a true man on the side of wrong, than to be a false man on the side of right." Y mae y frawddeg yma yn llawn o wirionedd, ac y mae iddi ystyr ddwfn. Pa fodd y mae yn well bod yn ddyn cywir o blaid yr hyn sydd anghywir, na bod yn 'ddyn anghywir o blaid yr hyn sydd gywir ? Gofynai lawer o ofod i ni egluro hyn, oblegid, fel yr awgrymwyd y mae dyfnder ar ddyfnder o ystyr ì'r frawddeg hon. Oud y mae yn well bod yn ddyn cywir o blaid yr hyn sydd anghywir, na bod yn dd'yn ang- hywir o blaid yr hyn sydd gywir, au y rheswm syml ond pwysig yma, sef, am fod yn anmhosibl i ddyn wneyd cyf- iawnder â'r peth cywir y mae yn ei bleidio heb fod yn gywir ei hun. Gwell bod yn anmheuwr gonest na feod yn Grist- ion twyllodrus, oblegid cyn y mae yn bosibl i ddyn wneyd cyfiawnder, y mae yn rhaid iddo fyned i mewn i'w' hysbryd, a chyn y mae yn bosibl iddo fyned i mewn i'w hysbryd y ^ae yn rhaid iddo eu byw. Y mae y pwysigrwydd o fod yn ffyddlon i'r ymrwymiad i'w ganfod hefyd pan fed'dyliom fod dylanwad y cyfryw ymddyg- T rílrl-^ ag y mae yn myned ° dan wräidd Jlwyddiant lemìyddiaetb. " p0b teyrnas wedi ymranu yn ei herbyn ei hun ni saif." Y mae genym enghreifftiau lawer o effeith- iau niweidiol anffyddlondeb i ymrwymiadau cymdeithasol a moesol yn hanes y gwahanol gymdeithasau a ffurfiwyd i'r amcan o wella sefyllfa foesol cymdeithas. Ai nid dyma sydd wedi proíi ei hun y rhwystr mwyaf ar fîordd Uwyddiant yr achos hyd yn bresenol ? Dynion yn proffesu egwyddor- ionjdirwestol, ond eto heb fyw yr egwyddorion ? Y peth cyntaf, a'r penaf hefyd, y mae holl reolau a ffurfiau Temlydd- iaeth yn argymhell ar bob Temlydd ydyw ffyddlondeb i'r ymrwymiad. Iaith y rheolau manwl, yr anogaethau gwerth- jfawr, a'r apeliadau difrifol a gynwysa y gwahanol ranau o'r gwasanaeth a ddarllenir gan swyddogion y Deml wrth dderhyn yr ymgeisydd yn aelod ydyw, " Byddwch ffydd- lawn," ac yn y fan yma y gorwedd cuddiad cryfder dir- gelwch llwyddiant a pharhad gogoniant Temlyddiaeth Dda, sef, yn ffyddlondeb pob Temlydd i'w ymrwym- iad, a hyn ydyw dirgelwch llwyddiant pob cymdeithas. Y ffordd y mae un o anffyddwyr galluocaf yr oesau yn cyfrif am Iwyddiant boreuol Cristionogaeth ydyw bywyd diwyrni y rhai a broffesant eu hegwyddorion. Os felly bydded i ni adnewyddu ein nerth, a grymysu ein penderfyniad o ddydd i ddydd i gario allan ein hegwyddorion, ac i ddal fyny urddas Temlyddiaeth, a thrwy hyny fe ddaw y byd i gredu ac i deimlo fod y Temlwyr Da yn ddynion o ddifrif ac nad ydynt yn meddwl bwrw eu harfau i lawa hes enill buddugoliaeth gyflawn. CYLCHLÎTHYB CHWARTEROL YR U.D.B.D. Trwy diriondeb Tad y trugareddau, galluogir fi unwaith eto i'ch anerch er budd ein hachos goruchel a'n Hurdd ardderchog, gan obeithio yn ddifrifol nad yw eich zel yn oeri na'ch ymdrechion yn llaesu, yn enwedig wrth gofio y daioni wnaeth ein Hurdd eisoes yn Nghymru, ac wrth edrych ymlaen ar y daioni sydd ganddi eto i'w gyflawni ya. y dyfodol. Onid oes meddwon wedi eu sobri gan Demlyddiaeth yn eich cymydogaeth? Onid oes lliaws wedi eu gwaredu oddiwrth y brotedigaeth danllyd a'r trueni anaele sydd yn canlyn'( Ac onid oes Uawer eto i'w gwaredu a'u diogelu ? Os cadarnhaol y rhaid i'r atebion i'r gofyniad- au hyn fod, bjdded eich ymdrechion chwithau hefyd yn gadarnhaol, penderíynol, ac angerddol. Mae Duw yn gweled—cydwybod yn llefaru—a thrueiniaid yn ochen- eidio ! Gan hyny, gweithiwn a gweddiwn, Mae yn llawenydd geuyf ddeall fod Temlyddiaeth yn