Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cptitáífc 0"5Z"xJOK:c3-K-A.'wisr DIEWESTOL, 0 Dan Nawdd TJwch Deml Annibynol Urdd T Temlwyr Da Yn Nghymru. CYF. II., EHIF 19.J MEDI 1, 1874. [PEIS. CENIOG. RHAGORIAETH TEMLYDDIAETH DDA AR GYM- DEITHASAU DIEWESTOL EEAILL.. GAN Y BRAWD T. B. GRIFFITH, ALLT-DDU, PWLLHELI. Awdwr yr " Adroddiadur Dirwestol," 8çc. Ymhlitb yr amrywiol gynygion a wnaed ì sefydlu cym- deithasau dirwestol cawn fod y rhan fwyaf o honynt yn rhoddi Ue mawr i'r egwyddor arianol; hyny yw, yr oeddynt yn fath o " glwbiau arianol;" ac felly, o ganlyniad, ymunai lliaws â hwy heb yr un cymhelliad amgen na hunan lesìant. " Ymunent â dirwest," fel y sylwai un, ««yn unig er mwyn try8ori ar gyfer dydd o galedi;" a diameu genym mai dyma un rheswm paham y profodd cymaint o'r rhai hyny yn feth- iant. Mewn cymdeithasau o nodwedd felly, nid yw yr egwyddor ddirwestol yn cael y sylw dyladwy, gan mai liunan lesiant yn hytrach na dirwest a llwyrymwrthodiad a osodir megis ar drostanau y cyfryw, ac oddiar awyddfryd at hyny, ac oddiar gymhellion îs na chariad at egwyddor fawr a go- goneddus dirwest noeth yr ymunodd cannoedd, a'r rhai hyny a enciliasant yn ebrwydd o'r frwydr: ac yn ddiddadl dyma y rheswm paham nad yrnuDai cannoedd yn ychwaneg â Themlyddiaeth yn y dyddiau hyn.-^-diffyg ystyriaeth ar ran y canol oed, a dibrisdod ar ran yr ieueuctyd o wir werth a phwysigrwydd dirwest a llwyrymataliad,—pa beth bynag a ddywed ein gelynion, a pha wrthddadleuon bynag a ddygir yn ein herbyn gan ein gwrthwynebwyr, yr ydym yn meiddio dweyd yn-ëon yn eu hwyneb, os ydym yn ddichwaeth (?) a phlentynaidd, (?) y mae genym amcan gogoneddus ; ac yr ydym yn meiddio dweyd ychwaneg, " y mae ein hamcan yn cyfiawnhau ein moddion /" Er holl ymdrechion egniol y gwrth-demlwyr i brofi mai ffiloreg ydyw Temlyddiaeth, yr ydym yn credu yn ddiysgog mai dyma'r gyfundrefn sydd yn gwneyd mwyaf o gyfiawnder â'r egwyddor ddirwestol o'r holl gymdeithasau dirwestol a ymwelsant â'n gwlad ; oblegid ynddi hi nis gellir cael unrhyw symbyliad, mewn ystyr ar- ianol, a'n tueddai i ymuno â hi,—naill ai ymuno er mwyn dirwestiaeth, neu ynte, peidio ymuno o gwbl. A phe gofyn- id paham y mae rhai o'i haelodau yn tori eu hymrwymiad, gellid ateb mai ymuno a wnaethant oddiar ystyriaeth heblaw cariad at ddirwest. Disgwylient gael rhywbeth yn y Deml yn ateb i'w dychymyg a'u disgwyliadau eu hunain; ond erbyn dyfod, nid oedd yno ond Dirwestiaeth ! Dirwestiaeth!! Dirwestiaeth !!! megis gwedi eu cerfio ar ei muriau mewn llythyrenau euraidd. Erbyn hyn, yr oeddynt wedi eu siomi yn eu disgwyliadau a'u dychymygion; a chan nad oedd y peth hwnw i mewn, nid oeddym i ddisgwyl i'r cyfryw drigo yno ! Gwreiddyn Temlyddiaeth yw dirwest: a gellir dweyd am lawer, " A chan nad oedd iddynt wreiddyn hwy a wyw- asant." Ei hymgais penaf hi (fel y sylwai un) ydyw cael meddiant o'r galon, a thrwy gymhellion hono, yn hytrach na'r llogell, y bwriada i'w haeìodau gario ymlaen y gwaith mawr gyda'r amcan gogoneddus, sef, " Gwaredu y rhai a suddasant i domenau llygredigaeth, ac atal eraill rhag suddo." Ac yn wir, profiad y byd erbyn hyn ydyw nas gall dynion a ymunant â'u gilydd yn gymdeithasau, oddiar gymhellion hunanol ac iselwael, byth fod yn eíFeithíol a.llwyddianus mewn anturiaetbau moesol. Y mae hunan-ymwadiad a hunan-ymaberthiad yr un mor angenrheidiol er llwyddiant ag ydyw yr olew i olwynion y peiriant. Gellir dweyd am Demlyddiaeth Dda ei bod yn gynwysedig yn ei harwyddair, —dyma ei hanfod, " Ffydd, Gobaith, Cariad." Dyma ddylai fod arwyddair pob aelod o'r Úrdd. Dylai feddu " Ffydd " ac ymddiried nid yn unig yn y peiriant Temlydd- ol fel y cyfryw, ond hefyd yn y peirianwyr cysylltiedig âg ef; ac uwchlaw y cyfan, yn yr Hwn y mae "pob rhoddiad daionus a phob rhodd berffaith yn disgyn oddiwrtho." " Gobaith " am weled caerau Babel feddwol wedi ei chwalu hyd ei sylfaen. Er mor dywyll yr ymddengys yr awyrgylch o'n hamgylch rai prydiau, y mae llusren " gobaith" yn gwas- gar ei goleu llachar trwy'r gwyll a'r nifwl;—yn wir nid oes ond un awyrgylch yn ymherodraeth y Jehofa nas gall hon oleuo ynddi! Ond rhwymyn perffeithrwydd y cyfan yw " Cariad "—dyma'r gras mwyaf persawrus o'r oll, a gellir dweyd mai ar begynau euraidd cariad y mae Temlyddiaeth yn troi—cariad a'i cychwynodd ar ei thaith—cariad yw yr ager i'w gweithio ymlaen ar gledr (railj rhinwedd; a phan welir Temlyddiaeth wedi myned yn fethiant, nis gellir ei hystyried yn aíügen na hen beiriant ardderchog a'i ager wedi pallu, ond tra byddo awyrgylch amser heb ei anmhuro i'r fath radd- au fel nas gall dyngarwch a Christionogaeth anadlu ynddo, —mewn gair hyd nes yr elo yr awyr yn rhy heintus i gariad fyw ynddi, gall Temlyddiaeth Dda fyw hefyd : y mae y naill a'r Uall wedi ymbriodi, pan y bydd cariad farw, fe drenga Temlyddiaeth yn y fan—ei hiaith ydyw—" Lle cleddir di y cleddir finau." Ymddengys y teimlir gwrthwynebiad cryf at lymder a thrylwyrder ymrwymiad Temlyddiaeth Dda gan ryw ddos- barth, ond y ffaith alarus erbyn hyn ydyw, fod " yfed yn gyraedrol,"" peidio yfed gwirodydd," &c, wedi profì yn holl- ol aneffeithiol mewn miloedd o amgylchiadau cyn heddyw, fel " mai llwyrymwrthod â phob dipdydd meddwol ydyw yí