Skip to main content

PIẄ; DIEWESTOL, 0 Dan Nawdd UwchDeml Annibynol Urdd Y Temlwyr Da Yn Nghymiu. CYF. II., RHIF 18.J AW5T 1, 1874. [PEIS CENIOG. PA BETH DDAW 0 HONOM? GAN D.G.W.C.T., S.D. Cwestiwn yn cael ei ofyn gyda phryder dwys gan y neb fyddo yn teimlo dros gyflwr y claf, pan mewn rhyw gyfwng neillduol nas gellir dweyd yn iawn, pa un ai gwella ai peidio a wna, ydyw, " Pa beth a ddaw o hono ?" Mae yn awr yn argyfwng pwysig yn hanes Temlyddiaeth Dda yn iMghymru, ac y mae yn hynod briodol i ni aroá, ymbwyllo, ac ymofyn, " Pa beth ddaw o honom ni ?" Yr hanes yn fyr gan yr hanesydd am danom, yn ein cy- sylltiad â'r ddwy tìynedd a basiodd, ydyw fod y fflam Deml- yddol wedi goddeithio ein gwlad o benbwygilydd, wedi gwaredu cannoedd os nad miloedd o hen feddwon Cymru, ac wedi cadw miloedd eraill rhag myned yn fecfdwon. Gwnaeth Temlyddiaeth Dda dri pheth arbenig. 1. Gwaredu yr hen feddwon ; 2. Gwneyd dirwestwyr yn fwy selog ac effro gyda'u gwaith ; 3. Ac enill llu mawr ogymedrolwyr yn llwyr-ymwrthodwyr. Mae yn anhawdd penderfynu pa un yw yr orchest fwyaf a gyflawnodd. Diau mai ar y cvn- taf yr ydym ni yn fwyaf tueddol i sylwi, gan mai hw'ynt (y meddwon) oedd ddyfnaf ac amlycaf yn y camwedd. Önd yr ydwyf wedi cael profion diymwad tra " Ar yr Aden " trwy Gymru fod Temlyddiaeth wedi llwyddo i ddarostwng y dos- barth mwyaf ystyfnig ac anhydyn o wrthwynebwyr dirwest, sef y cymedrolwyr, y rhai oeddynt yn sefyll pob ystorm, ac yn dal yn'dalgryf yn ngwyneb pob goruchwyliaeth. Y mae genyf yn awr o flaen fy meddwl ŵr parchus, deallus, a chrefyddol—wedi ei ddwyn i fyny yn sect fanylaf yr yfwyr cymedro],ymhyfrydai mewn dadleu a chyndyn-ddadleu, hollt- ai y blewyn, ac edrychai gyda'r dirmyg mwyaf ar bawb a feiddiai awgrymu fod yn bosibl ei argyhoeddi i'r gwrth- wyneb. Tipyn o benwendid neu benboethni ydoedd y zel a ddangosid g\ da'r achos dirwestol. Yr oedd e'f yn anrhaeth- ol uwcblaw cymeryd ei arwain gan deimlad neu fympwy i fabwysiadu y Uwybr cul ac anhygyrch ar hyd yr'hwny cerddai Uawer o'i frodyr. Diystyr ydoedd ganddo sut ỳ barnai brodyr ag yr edrychai y wlad atynt fel awdurdod ac oraclau anffaeledig; yr oedd ef ei hun, yn ei farn ei hun goruwch pawb oll mewn deall a barn dda, ac yr oeüd bob amser yn byw ar delerau da gyda'i hunan. Dyna y gwr a enillwyd at Demlyddiaeth Dda, ar ol byw ddeugain mlynedd yn anialwch dyryslyd y llymeitwyr. Ỳ mae Mr. Croes-i'w- frodyr yn awr yn aelod defnyddiol, a bid siwr, yn swyddo°- cymeradwy gyda'n Hurdd ardderchog ni. Rhaid bod rhyw nerth anorchfygol yn yr Tjrdd cyn y buasai yn Uwyddo i anelu ei saeth i galon y dyn yna. Ond nid yw hwnyna ond un engraiift o lawer y gallaswn ei enwi sydd wedi ei glwyfo a'i droi o'r frwydr. Pel yna, y mae Temlyddiaeth nid yn unig wedi diwygio y meddwon, ond wedi argyhoeddi Üu mawr o gymedrolwyr oeddynt ddiogel a phenderfynol yn eu meddyliau eu hunan, o berygl eu sefyllfa, a'u dwyn i weithio yn galonog ymhlaid sobrwydd a rhinwedd. Gyda golwg ar yr hyn a wnaeth Teralyddiaeth yma a thraw, mae yn amheus genyf fi a oes unrhyw symudiad arall all ddangos ffrwyth mor doreithiog mewn cyn lleied o amser; a'r ffordd fwyaf eft'eithiol i siarad â rhyw fath o bobl, ydyw dangos iddynt agor eu llygaid a sylwi ar yr effeiíhiau. Mae rhaí yn dadleu â ni weithiau hefyd fel pe byddent awyddus i ddifodi yr effeithiau, er mwyn cysoni eu hymddygiadau yn ein gwrth- wynebu. Ond nis gaîlant. Ni fyrjegodd llawer mor haner a wnaeth y foneddiges hon iddynt, JRhoes wisg am eu cefnau, arian yn en Uogellau, ymborth yn eu eypyrddau, heddwch yn eu teuluoedd—'ie, a heddwch yn nghydwybodau uifer lliosog o honynt. Galluogwyd hwy i fyned i dý Dduw, Ue y cawsant afael ar rywbeth a droes yn elw tragwyddol iddynt. Ond ar ol yr holl lwyddiant a gofnodwyd, y cwestiwn yn awr ydyw, " Pa beth ddaw o honom ?" A bery y Uwydd- iant hwn yn hir ? Y mae arwyddion cryf mewn rhai aráal- oedd fod y darfodedigaeth wedi ymaflyd yn nghyfansoddiad aml i Gyfrinfa—y mae rhyw ddifrawder yn ymdaenedig dros yr aeìodau, a'r cyfryw ag y mae yn anhawdd rhoddi cyfrif am dano. Pa beth sydd i'w wneyd ? Pa beth ydyw yr achos o hono ? Cof genyf glywed y Brawd Malins yn dweyd yn Merthyr, wrth wrando ar y cynydd aruthrol oedd wedi cymeryd lle yn nifer Temlwyr Da Cymru—mwy felly nag a allasai un wlad arall ddangos mewn amser mor fyr—mai y perygl i Gymru ydoedd ymfoddloni ar a wnaed, a gadael i'r ganwyll gyneu allan—mewn gair, ofnai fod llawer o'r hyn a welai yn rhy debyg i íflachiad y fellten, yn ymddisgleirio ac yn diflanu. Yr oeddwn i yn meddwl ar y pryd fod hyny yn ddesgrifiad tra phriodol o honom fel cenedl, a bod perygl, fel yr awgrymodd y brawd hwnvv, i ni fyned ar dân yn rhy fuan, fel na byddai yn aros ond mŵg. Y mae edrych ar lawer cyfrinfa a fu unwaith yn llewyrchus mor amddiiad o fywyd yn ddigon a tharfu ysbrydoedd, a digaloni yr ychydig ffyddloniaid sydd yn ymlynu wrthynt yn barhaus. Y mae yn rhaid i mi gyfa'ddef, er fy mod yn egwyddorol ddirwestwr —nid oes neb mwy felly—mai prin y buaswn yn Demlwr oni buasai yr amcan mawr osodir o flaen yr aelodau i sobri y meddwon. Ni buasai dim swyn mewn teitl i mi, dim byd