Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cpiiẁ; crx"i-.c:EiGi-:R_A.-w:isr DIEWESTOL, 0 Dan Nawdd Uwch Deml Ânnibynol TJrdd T Temlwyr Da Yn Nghymru, CYF. II., BHIF 14. EBRILL 1, 1874. [PRIS CEINIOG- NERTH TEMLYDDIAETH YN EI HUNDEB. Gan y Parch. Morris Morgan, s.d., d.g.w.c.t., Aberdar. ,l Mewn undeb mae nerth." Cydnabyddir yr arwyddair hwn gan bawb mewn geiriau, ond gwedir ef yn rhy fynych mewn ymddygiadau ; ac felly mae y brofffts a'r weithred yn gwrthddywedyd eu gilydd, nes ei gwneyd yn anhawdd i'r edrychydd esbonio y dirgelwch. Mae yn hawdd deall, pa fodd bynag, pan welir dynion yn gwneyd un ffordd, ac yn dweyd fel arall, nad ydynt yn deall ystyr eu geiriau, nad oes ganddynt barch i wirionedd a ffyddlondeb. Mae nerth Temlyddiaeth yn ei hundeb. 1. Un o egwyddorion sylfaenol Temlyddiaeth ydyw Undeb'. Cydgasglu, cyfuno, a chyflunio personau o'r unsyniadau mewn un corff Uuniaidd, bywiog,.a grymus, ydoedd amcan cyntaf sylfaenwyr yr Urdd. Hwyrach fod Temlyddion wedi cyfeil- iorni ychydig wrth wneyd unffurfiaeth, i raddau gormodol, yn amod undeb. Nid yw hyny ond hen gyfeiliornad y mae pob diwygiwr wedi syrthio iddo, i raddau mwy neu lai, ond Iesu Grist ei hun. Ac y mae Temlyddiaeth yn hollol agored i gyfnewidiad er gwell yn yr ystyr hyn. Mae digon o fon- eddigion a boneddigesau diwylliedig a haelfrydig yn yr Urdd erbyn hyn i sicrhau ystyriaeth addfed a phwyllog i bob awgrym o duedd ddaionus. Ond dylid coSo fod y gymdeith- as yn ieuanc iawn yn Nghymru, ac y rhaid bod yn araf cyn penderfynu pa bethau fyddent yn wir welliantau. Priodol nefyd ydyw dwyn ar góf i'r frawdoliaeth nas gellir, yn *gyd- weddol âg egwyddorion dechreuol yr Urdd, roddi derbyn- iad i unrhyw gynllun fydd yn milwrio yn erbyn undeb, ac yn cefnogi ýmraniadau a phleidiau gelynol. Arwyddair *yr Urdd yn y dyfodoì, fel y gorphenol, yr un modd â'r wlad fawr yn yr hon ei ganed, fydd—codwn yr TJndeb—diogelwn yr Undeb—ymladdwn dros yr Undeb ! 2. Un o brif elfenau ei llwyddiant ydyw undeb. Brawd- oliaeth ydyw Temlyddiaeth, " Ië," meddai rhyw chwaer ddoniol, " a chwaeroliaeth hefyd." Digon gwir. Cofied ein brodyr hyn, a pheidiant er dim ag anghofio neu esgeuluso ein chwiorydd anwyl. Mae rhyw aderyn wedi chwibianu yn nghlust yr ysgrifenydd fod rhai brodyr yn anghofio mai go- goniant dynion yw merched, ac y dylai dynion ddyrchafu merched yn hytrach na dangos eu hunain. Heb i mi ym- droi yn hwy ar hyn y tro hwn, cofiwch, fy mrodyr anwyl, fod y meny wod yn famau, yn chwiorydd, yn ferched, neu yn wragedd, i ni oll, ac yri aml yn bob un-o'r pedwar. Eel brawdoliaeth, a chwaeroliaeth ynte, mae cydyt^deimlad a chydweithrediad teuluaidd i redeg trwy yr holl gymdeithas ; gall y gwan yn rhesymol ddis^wyl am gymorth y cryf, a chaiíf y cryf gyfieustra ihagorol i ymarfer. a dadblygu ei nerth wrth gynorthwyo ac ymgeleddu y gwan ; fel erbyn gosod yr oll at eu gilydd, nad ymddengys Temlyddiaeth yn wan o un cyfeiriad, gan y bydd undeb y cadarn a'r gwan yn gwneyd y ddau yn gadarn, yr un modd ag y mae aelodau gweiniaid y cawr yn catl eu cysgodi gan ei rai nerthol. Trwy ein hundeb mae syniadau, teimladau, gwladlywiaeth, ym- drechion a buddugoliaethau y Temlyddion yn cael eu gwneyd yn hysbys trwy yr holl fyd. Mae pawb yn barod i gymer- yd y maes ar yr un adeg, ac ymosod ar y gelyn gyda'r un arfau, ac y mae hyny yn sicrhau buddugoliaeth. Undeb sydd yn gwneyd teyrnas, eglwys, a chymdeithas yn nerthol a dylanwadol; tra y mae ymraniadau bob amser yn tueddu i wanychu pob gallu, a pharlysu pob ymdrech fawr a gogon- eddus. Sarhad dirfawr ar Demlyddiaeth fyddai rhoddi ar ddeall i'r wlad, ac yn enwedig i'n gelynion, fod ymraniad yn angenrheidiol oherwydd diffyg cydwelediad a chydymdeim- lad rhwng brodyr a chwiorydd, "Na fyneger hyn yn Gath" rhag i ferched Philistaidd teml y Dagon alcholaidd gael cyfle i'w dafiu mewn dirmyg i'n gwyneb, ac felly gwarthruddo a chywilyddio y rhai sydd yn ymdrechu adíeru gogoniant Eden i'r ddaear, sydd er's canoedd o oesau yn gorwedd dan felldith. 3. Nis gall undeb, serch hyny, fodoli ond yn Mnsawdd ddymunol cyfiawnder, dioddefgarwch, a chariad. Nid oes genyf hawl i ddisgwyl i neb fod mewn undeb â mi yn hwy nag y byddaf fi yn gwneyd chwareu teg âg ef. Mae parhad pob cymdeithas, undeb, neu deyrnas, yn sylfaenedig ar gyf- iawnder. Yn gynt neu yn hwy, rhaid i anghyfiawnder ym- ddangos, ac, fel Jonah, gael ei daflu i'r môr, neu i'r Uong a'r llwyth fyneJ i'r dyfnder, Os oes rhyw anghyfiawnder yn cael ei wneyd dan nawdd Temlyddiaeth yn Nghymru, rhaid symud yr anghyfîawnder ar unwaith, neu beryglu bodolaeth yr Urdd. Anghyfìawnder eglur fyddai dwyn ymlaen holl weithrediadau Uwch Deml Cymru yn Saesneg, tra mae corff yr aelodau yn Gymry, a llawer yn uniaith. Gormod o sar-f had ar Gymro yw siarad Cymraeg dan ddeddf goddefiad (toleration) yn ei wlad ei hun. Felly dylid diddymu pender- fyniad Merthyr ar y mater hwn. O'r tu arall, byddai yr anghyfiawnder yr un mewn ansawdd, er nad mewn swm, pe penderfynid yn Nghaernarfon nad oes dim rhagor o Saesneg i fod yn yr Uwch Deml na'r ychydig ddichon brodyr a chwiorydd Seisnig slarad ar faterion anghyfiaeth. Ôferedd fyddai i'r 150 neu 200 Temlau Seisnig sydd mewn undeb a'r Uwch Deml yn Nghymru ddanfon cynrychiolwyr o gwbl