Skip to main content

miiM} DIEWESTOL, 0 Dan Nawdd Uwch Deml Annibynol Urdd T r Da Yn Nghymru. CYF. I., EHIF 12. CHWEPEOB 1, 1874. [PRIS CEINIOG. DWEYD GORMOD? Gan y Parch. Daniel Rowlands, M.A., T.IT.G. Pan y mae dynion difrifol, sydd yn teimîo oddiwrth yr anrhaith y mae ymarfer â'r ddiod feddwol yn ei aehosi, yn datgan eu teimladau, gan rybuddio eu cydwladwyr i ym- wrthod yn llwyr â hudoliaeth sydd yn ei phroíi ei han mor ddinystriol, y mae rhywrai yn barhaus yn Darod iawn i'w cy- huddo o "fyned i eithaíìon," a " dweyd gormod." Ac weithiau yr ydym \n cael dynion da, y rhai y mae gwynebu drwg yn ei erchyllder yn peri poen iddynt, yn cydymdeimlo â'r gwrthwynebiad hwn; yn barod i gynghori mwy o gymedrolder ac arafwch; ac yn eu psrswadio eu hunain nad ydyw pethau mor ddrwg, wedi y cyfan; ac nad ydyw yn debyg o ateb nemawr ddiben i gyffroi rhagfarnau dynion sydd yn teimló yn bur dyner ar yr achos. Pell iawn ydym oddiwrth amddiffyn unrhyw erwinder afreidiol ar ran am- ddiffynwyr sobrwydd. Dylai ein dynoethiad o ddrygau ym- yfed gael ei wneyd yn barhaus " yn fwy mewn tristwch nag mewn digofaint." A dylem gofio mai ffordd anffaeledig i sicrhau methiant ein hymdrechion ydyw cynhyrfu rhagfarn y rhai y'byddwn yn ceisio eu henill. Ond wedi y cwbl, y mae dau neu dri o bethau yn werth eu cofio. Yn un peth, y mae gallu yr hudoliaeth sydd gan y ddiod ar ddynion y.fath fel y maent yn dyfod mor groen-deueu ag i deimlo pob ym- osodiad arni hi yn ymosodiad personol arnynt hwy. Heblaw hyny, a ydyw mewn un modd yn beth teilwng myned i feirniadu llais, tôn, chwaeth, a thymer y dyn sydd yn ceisio ein hachub o safn perygl mawr, tra yn gwbl ddiystyr o'r amcan pwysig sydd ganddo mewn golwg ? Y mae yr an- hawsder i fod yn " wise, amaz'd, temperate and furious, loyal and neutral, in a moment," yn ddiarhebol. A pha beth bynag a feddylio dynion, cyn neu wrth gael eu gwaredu, am erwiu- deb yr afael a gymerir arnynt, y; maent wedi hyny yn rhwym o deimlo yn ddiolchgar iawn wrth edrych ar werth y wared- igaeth ei hunan. Ac yn arbenig, y mae yn amheus iawn a all neb ddweyd gormod wrth geisio dynoetJii drygedd angJiyM- edroldeh. Yn wir, wedi y dynoethiadau cyflawnaf y mae yn bosibl i farwol ddyn wneyd o'r drwg mawr hwn, y mae ei anfadr/vydd anaele wedi y cyfan o'rgolwg, Ymhob cyfeiriad gallai Arweinydd anweledig ein cymeryd, gan ddywedyd, "Tyred, fab dyn, a mi a ddangosaf i ti ffieidd-dra mwy ! " Y mae i lawer o'r Temlwyr Da y dyddiau hyn yn ymddangos yn anesboniadwy ryfedd paham na wnai y rhai sydd yn y fagl ymdrech am fywyd a mynu dyfod allan; pa- ham na welai y rhai sydd yn cymeryd y llithrìgfa i ba le yn y pen draw y mae yn sicr o fyned â hwynt; paham na fydd- ai dirwestwyr ffyddlawn yn ymuno â'r ysgogiad Temlyddol, ac felly yn cymeryd eu Ue, fel cynt, ymlaen y frwydr, yn lle syrthio yn ol mewn math o seguryd anfoddog, gan adael y rhyfel i bobl eraill; ac yn enwredig, pa fodd y máe neb o'r dynion da, sydd yn pryderu am rinwedd a Uwyddiant eu cenedl, yn gallu setýll o'r neilldu i edrych ar ein hymdrech- ion gyda llygad oer, os nad i yinuno â'n gelynion i'n di- ystyru fel penboethiaid, &c, Y mae hyn oll yn ymddangos i liaws y dyddiau hyn yn ddieithr dros ben. f9 Ond nid oes ond un esboniad i'w roddi ar y cwbl—Nid ydynt yn g.allu anturio edrycli y drwg o angliymedroldeb yn ei wyneb, Pe gwnaent hyny ni phetrusent ddyfcd i'r penderfyniad ei fod mor ofnadwy fel y dylent wneyd eu goreu i'w wrthwynebu. Gwelent hefyd mai yr unig ffordd effeithiol i'w wrthwynebu ydyw llwyrymwrthod â'r diodydd meddwol. Ac os nad ydym yn camgymeryd yn fawr, gwelent, ymhellach, fod cyfaddasder Temlyddiaeth Dda i gyrhaedd hyny, ynghyd a'r dirfawr Iwyddiant sydd wedi bod arni, ynghyd a'r alwad sydd o'i mewn am wasanaeth effro pob dyn a allo wneyd rhywbeth er dwyn oddiagylch sobreiddiad y genedl, yn galw arnynt i ymuno â hi,—o leiaf, yn galw arnynt wneyd hyny, neu ddangos rhyw gynllun arall i wrthwynebu y drwg a fyddo yn debyg o fod yn fwy effeithiol. Y mae yr Alliancé News yn arfer cyhoeddi bob wythnos ychydig ddyfyniadau o'r newyddiaduron sydd yn dangos rhyw radd fechan o effeithiau dinystriol ymyfed. Ee.fyddai darllen rhyw nifer o'r ffeithiau ofnadwy hyn yn feddygîtìiaeth effeithiol i'r bobl dda sydd mor hoff o daeru yn barhaus ein bod yn dweyd gormod. Dyma ychydig ddetholion o'r hyn a gofnoda y papyr a grybwyllwyd am y ddwy wythnosgynt- af o'r flwyddyn hon :— JohnCatterall, prynwr anifeiliaid; cafwyd wedi boddi yn yr afon Wyre. Yr olwg olaf a gaed arno oedd yn gadael y dafarn, ä than eíFaith diod. —William Daley, llafurwr, Liverpool; wedi myned yn wallgof gan y ddiod, a marw dan ei heffeithiiiu. Yn ' feddw ymron bob nos."—John Eennedy, cigydd, Liverpool; a ddÿgwyd adref o'r dafarn mor feddw fel nad allai siarad na sefyll. Gosod- wyd ef ar wellt mewn ystabl, lle, ymhen ychydig oriau, y cafẁyd ef yn farw.' Eheithfarn, " wedi marw trwy fygiad yn cael ei ddwyn oddiamgylch trwy yfed i ormodedd."—Robert Stépt(en- son, Liverpool; yr agerbeiriant wedi myned drosto pan yn feddw. —Alice M'Gee, Preston ; yn hen wraig, ac yn feddw, wedi llosgi a marw; ei gŵr hefyd yn feddw, ac yn cael ei gyhuddo ganddi o'i gosod ar dân trwy ddymchwelyd potel o parafhn ar lawr a'i danio.—James Thirdle, Manchester ; yn feddw ac yn ymosod ar ei wraig, ond yn cael ei rwystro i hyny gan ei fab-yn-nghyfraith, flobinson; wrth ymdrechu yn erbyn Eobinson, syrthiodd, ac aeth ei fraich o'i lle ; bu farw bore dranoeth.—Dyn wedi ton ei