Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PXTO O^TLOIECa-IR^WIISr DIE-WESTOL, 0 Dan Nawdd Uwch Demí Ánnibynol TJrdd Y Temlwyr Da Yn Nghymru. CYF. I., BHIF 11. IONAWE 1, 1874. [Peis Ceiniog A FYDD BYW TEMLYDDIAETH DDA? GAN Y BR. PATICH. M. MOUGAN, S.D.,D.G.W.C.T., ABERDAR. Dyma gwestiwn ofynir yn aml, gan wahanol bersonau, ac i amrywiol ddybenion. Atebir ef gan wahanol bersonau_ yn ol eu teimladau, syniadau, a safleoedd. Mantais bersonol lliaws, fel y mae yn drist addef, fyddai marwolaeth y gym- deithas odidog hon. Wedi hyny, cai yfwyr cryfion fwy o lonydd i ddilyn eu harferion blysig; teimlai proffeswyr gwlybion esmwythder dymunol yn eu mynwes; diflanai, i raddau, hynodrwydd annymunol llawer swyddog eglwysig yn nghanol ei frodyr, gan na syfrdanid ei glustiau bellach •gan ymadroddion cryfion Temlwyr penboeth (fel y dewisa eu galw); dylifai cyfoeth adnewyddol i goffrau y tafarnwyr, a chan na fyddai yr ymosodiad arnynt mor enbyd, caent ychwaneg o hamdden i fwyta, yfed, gwledda, cysgu, chwareu, a meddwi. Byddai sefyllfa îelly yn nefoedd o'r fath a garai lliaws o honynt. O'r tu arall, byddai marwolaeth Temlyddiaeth yn y pen draw yn golled ddirfawr i bawb. Wylai miloedd ffrydiau dibaid o ddagrau heilltion a phoethion pe gwelent argoelion dynesiad angeu yn nghyfansoddiad yr angyles deyrngarol, dosturiol, rinweddol, a nefol hon ! Marw Temlyddiaeth ! Na ato Duw i'r fath ddiwrnod wawrio hyd nes, o leiaf, y diorseddir Bacchus, ac ysgubir ei felldithion afrifed yn Uwyr oddiar wyneb y ddaear. Pe byth y digwyddai y fath anffawd, gellid dywedyd uwch ben ei gweddillion marwol, " Hon oedd yn llawn o weithredoedd da, a'r elusenau y rhai a wnaethai hi." Aphwy fedr ddweyd rhif y " gwragedd gweddwon safent yn ei hymyl yn wylo, ac yn dangos y peisiau a'r gwisgoedd wnaethai tra yr oedd hi gyda hwynt!" (Act. ix. 36, 39). Mae parhad cymdeithas yn ymddibynu ar uniondeb ei hegwyddorion, pwysigrwydd ei hamcanion, doethineb ac ymroddiad ei harweinyddion, yn gystal a ffyddlondeb ei haelodau. Tra yn credu yn mharhad Temlyddiaeth, rhaid credu hefyd fod y parhad hwnw yn gysylltiedig anwahanol âg amodau neülduol. Gofaler am yr amodau, ac fe ofala y bywyd Temlyddol am dano ei hun; esgeuluser yr amodau hanfcdol, a chymer marwolaeth alaethus le fel mater o angen- rheidrwydd anhebgorol. Gan hyny, cymered Temlyddion rybudd mewn pryd; bydded iddynt ymddwyn yn ddoeth, pwyllog, penderfynol, a gwrol, yn gystal a hunanymwadol. Ymddengys i mi fod bywyd Temlyddiaeth yn ymddibynu ar y pethau canlynol, a'u eyffelyb :— 1. MJwl swyddogion cymwys i lenwi yr lióll swyddi. Os yw rhai yn gosod pwys gormodol ar y swydddu, diau fod eraill yn eu dibrisio yn ormodol. Mae pwy's mawr yn yr iawn-gyflawniad o ddyledswyddau pob swydd berthynol i'r Urdd. Gan hyny, rhaid gofalu am swyddogion cymwys, îe, y rhai cymhcysaf. Ehaid i gariad at lwyddiant yr achos orbwyso pob teimlad hunanol neu gyfeillgar wrth ethol swyddogion, onidê, aiff cariad at hunan a chyfeillion yn ddinystr i'r Urdd. Ofnir fod pob ystyriaeth yn cael mwy o le, mewn rhai etholiadau, na chymwysder i'r swydd; a theimlir fod hyny eisoes yn effeithio yn niweidiol iawn ar weithrediadau y gymdeithas. Mab arweinyddion annoeth, anwybodus, angharedig, llwfr, musgrell, a hunanol, yn rhwym o rwystro llwyddiant y gwaith. Mae swydd y Teil- wng Brif Uwch Demlydd yn ddigon pwysig i hawlio y brawd • galluocaf, dysgedicaf, doethaf, gwrolaf, a flfraethaf yn y wlad. Àc y mae codi dyn cyffredin iddi yn rhwym o dynu y swydd i lawr yn ngolwg y frawdoliaeth, a gwneyd yr Urdd yn destyn dirmyg i'r wlad. Mae pob cymdeithas yn ethol ei dynion blaenaf i fod yn llywyddion. Mae Prif Demlydd pob Teml agos mor bwysig a'r Temlau eu hunain ag ydyẃ yr Uwch Demlydd i'r Urdd yn gyft'red- inol. Mae yn chwithig i'r eithaf gweled un yn llywydd ar Deml na fuasai o'r blaen yn IlyWydd ar neb erioed, neu ar unrhyw gyfarfod cyhoeddus, a brodyr cymwys yn ei ymyl yn gwrando arno, o bosîbl yn dangos diffyg medr a hurtwch nes cywilyddio drosto, a gofidio dros y gymdeithas. Mae gosod person anghymwys yn y swydd hon yn cadw hen ael- odau o'r cyfarfodydd, ac yn peri i aelodau newyddion ddi- fiasu ar y cyfarfodydd. Mae yn bosibl i'r Prif Demlydd siarad cymaint ei hun a'r holl aelodau eraill, nes gwneyd y cyfarfod yn ddiffrwyth, difudd, a diflas i'r pen. Mae y cytìe mynych sydd gan y swyddog hwn i siarad yn gofyn am wyliadwriaeth arbenig ar ei ran, yn enwedig os yn ddyn doniel, neu yn siaradwr amleiriog. Gwyddom nas gall yi un Deml wneyd yn well na dewis y goreu a fedda; nid am hyny yr ydys yn cwyno ; diolch i bawb am wneyd a allont. Ond ymddygiad annoeth a pheryglus iawn ydyw canvisio ymlaen llaw am swydd, ac enill pleidleisiau yn llechwraidd. Dyna ffordd siwr i ddistrywio yr achos rhag blaen. 2. Prymi Amser.—Arbed Traul Afreidiol—a Gwneya Gwaith. Hwyrach, ar y cyfan, fod cyfansoddiad yr Urdd yn tueddu at gymeryd gormod o amser gyda phethau dibwys. Mewn dwylaw anghielfydd, o leiaf, felly y gwelir pethau. Ychydig iawn o waith mewn Uawer o amser. Mae y drwg bwn yn