Skip to main content

mta5 CTLOHG-BAWN DIEWESTOL, 0 Dan Nawdd TJweh Deml Annibynól Urdd Y Temlwyr Da Tn Nghymru. CYF. I., HHIF 10. EHAGÍTR 1, 1873. [Pris Ceiniog* "Y TEMLYDD CYMREIG." Ernad ydym eto wedi bod ar y maes lawn deuddeng mis", yr ydym yn gweled nad oes ond rhyw adwy fach rhyngom â dechreu blwyddyn newydd, a naturiol ydyw disgwyl fod genym air i'ẃ hysbysu am danom ein hunain, a'n bwriadau gyda golwg ar y dyfodol. Dechreuodd y Temlydd gyd-redeg gyrfa â dau neu dri o gynorthwywyr ffyddlawna medrus iddo ar.y maes, ond mewn iaith arall; ac yn bresenol nid oes ganddo ond dyweyd, " A mi fy hunan a adawyd !" Ar ei gychwyniad cafodd dderbyniad gwresog a chyffredinol gan garedigion schos dirwest, acy mae eto yn meddu ar gylchrediad nad ail ond ychydig ymffrostio yn ei helaethach. Ond y mae genym o-ŵyn â rhan fawr o'r frawdoliaeth na byddai yn ddoeth, nae yn.gysurus i ni ei chelu. Cyn ymddangosiad y rhifyn cyntaf derbyniasom lythyrau oddiwrth ugeiniau o frodyr yn ein hanog i fyned "ymlaen, ac yn niwedd eu ìlythyrau yn ym- rwymo i gymeryd nifer penodol o'r TemlyDd am 12 mis. Tybiem ni fod ymrwymiad^'r natur yna mor gysegredig gan frawd ag ymrwymiad i beidio yfed y gwlybyroedd meddwol; a bod y dyn na feddai barch i'r naill yn lled debyg o an- mharchu y llall hefyd. Ond er ein syndod, cyn bod dau heu dri o rifynau allan, dyma i ni lythyrau oddiwrth yr un personau yn erfyn arnom beidio anfon ychwaneg iddynt! Nid awn i geisio ymresymu â bodau sydd yn sarhau cymaint ar eu dynoliaeth drwy ddibrisio eu haddewidion; ond yr ydymyn crybwyll hyn er addysg i ffyddloniaid ein temlau, ac i ddangos pe buasem yn ymddibyau ar gynorthwy y dosbarth anheilwng hwn o'r frawdoìiaeth mai cyff'elyb fuasai ein tynged ninau i eiddo y papyrau Seisnig a ymgymerasant â gwasan- aethu yr Urdd. Ond daeth cynorthwy o leoedd newyddion, a chyfeillion ffyddlawn eraill i wneyd y diffyg i fyny. ■ Yn awr, mae yn ymddangos i ni fod dosbarth mawr o'r bobl sy'n cyfansoddi y temlau Cymreig heb ddeall eu dy- ledswydd gyda golwg ar lenyddiaeth yr Urdd, ac y mae yn llawn bryd i rywun eu dysgu yn egwyddorion c; ntaf Teml- yddiaeth. Dylai pob Temlydd ddeall fod ganddo genadwri neillduol at y byd oddiallan, ac mai un amcan pwysig a ddy- lai fod genym mewn golwg ydyw gwasgar goleuni gwybod- aeth ymysg ein cydwladwyr ar ddrygedd y fasnach feddwol— canlyniadau arswydus ymyfed a diota—a dangos iddynt ffordd iawn ac effeithiol i roddi atalfa ar y dinystr ofnadwy a gynyrchir drwy hyny. Gwel pawb mai un o'r moddion tebycaf i gyrhaedd hyny ydyw gwneyd defnydd helaeth o'r wasg. „^„6. — ae gan bob teml hawl, yn ol egwyddorion sylfaen- ol Temlyddiaeth, i dalu am lyfrau a chyhoeddiadau dirwestol allan o gyllid y deml, a meiddiwn ddweyd fod derbyn a thalu am y Temlydd Cymreig—cyhoeddiad ag sydd wedi ei sefydlu yn arbenig i wasanaethu achos sobrwydd— ac erbyn hyn, unig gyhoeddiad dirwestol Cymru a'r Uwch Deml—allan o daíiadau yr aelodau yn Uawer iawn mwy rheolaidd na thalu am <c dê a bara brith " i borthi chwil- frydedd anniwall ychydig o feehgyn a genethod gwamal ein cyfrinfaoedd. A phe na buasai felly, dylasai fod rhyw un ymhob Teml yn gofalu na byddo yr aeiodau yn tyfu i fyny, ac yn byw fis ar ol mis, fel asynod gwylltion diddeall am natur a dibenion yr amryfal ddyledswyddau ag sy'n orphv/ysedig arnynt i'w cyflawni. Ond yn lle hyny, y mae mwy na haner Temlau Cymru yn caeleu hamddifadu o'r unig gyfrwng swyddogol a fedd yr Uwch Deml i siarad â hwy am eu dyledswyddau. Yn ddiau, ni ddylai y pethau hyn fod felly, ac os ces rhywbeth rhesymol ar ein rhan ni i'w wneydyn ychwaneg, ni chaiff fod ychwaith. Y mae aml un o'n gohebwyr wedi galw ein sylw at y dymunoldeb o gael erthyglau achlysurol gan rai o wýr cy- hoeddus Cymru, ar ryw fater neillduol, yn lle y darluniau a arferent ymddangos ar y wynebddalen gyntaf, yr hyn a sicr- heir i ni.sydd yn ymddangos yn lled blentynaidd i gorff mawr o'n darllenwyr. Gan dybied ein hunain y byddai yn welliant, yn ein rhifyn presenol yr ydym yn. ceisio arwain ein darlJenwyr gam ymlaen o ganol yr íc oruchwyliaeth ar- wyddluniol" i fwynhau un ragorach a pherffeithiach, a mwy teilwng o rai wedi cyraedd aeddfedrwydd oedran. Yn ein nesaf ceir erthygl o waith y dirwestwr doniol a thrylen y brawd Parch. M. Morgan, Aberdar. ílefyd, ymhellach, dymunir hysbysu y Temlau y géüir cael y Temlydd o hyn ailan gyda'r rJieilffordd (ond rhaid galw yn y gorsafoedd bob mis am y sypynau) yn ol naw ceiniog y dwsin. Nis gallwn wneyd un gostyngiad drwy'r llythyrdy am reswm digonol. Yn awr, pa beth a ddywed ein brodyr a'n cyfeülion dirwestol wrth hyn f Beth fyddai iddynt wneyd un egni adnewyddol ar ran y Témlydd Cymreig—gofalu ar fod dosbarthwyr yn cael eu penodi ymhob Teml, ac yn arbenig gofalu am fod y taliadau yn cael eu gwneyd yn rheolaidd bob tri mis. Cofier fod gofyn mynych am fân arian sydd yn wasgaredig dros y wlad yn gostus a helbulus i'r eithaf. Gan hyny, yn gyntaf peth, gofaled ein dosbarthwyr ymhob man anfon yr hyn sydd ddyledus i'r cyhoeddwr yn ddioed; onidê, rhaid atal y papyr at ddechreu y flwyddyn newydd oddiwrth y cyfryw rai.