'A tpt Jftaj íra ^ÿlJẄH. Cyf. 2. i¥ST, 1859.' Rhif. 10. IŴÉJ» ENWOGION' ANGHOFIEDiG CYMRU, At Olygydd y Brython. Sýr :—Er hod y Parch. R. William's wedi gwneyd cymmwynas a haeddai gael ei gwobrwyo yn flyddlonach nagy cafodd, trwy ei waith gwerthfawr —y Dictionary qf Eminent Welshmen^ neu Enwogìon Cymru—y mae, er hyny, luaws anferth o rai mor enwog heb eu cofrestru yn y gwaith hyglod hwnw. Tybiaf, gaii hyny, na byddai un peth yn dygymmod yn well ag amcan y Bíìython na Chofion Bugraffiadol am Enwogion Anghofiedig Cymru. Yr wyf yn eu galw yn Enwogion Anghofiedig, am eu bod wedi eu hanghofio gan ein cenedl, ac megys wedi eu colli iddi, fel nas gŵyr yr oes hon iddynt erioed fod yn y byd, llai o lawer iddynt fod yn enwog neu hynod yn eu hoes. JsTi bydd i mi gofnodi neb ag y mae eu henwau yng ngwaith Wiliams ; ac nis gallaf ddechreu yn well na chydag enw un o hen foneddigesau ein cenedl. Yr eiddoch yn ffyddlawn, ; Gwilym Llbyn. I. CATHERIN HUGHES ydoedd ferch y Parch. Jolm Jones, Person Llanegryn, yn sir Feir- ioitydd,* ac a anwyd yn y flwyddyn 1732. Yr oedd Mr. Jones hefyd yn athraw yr Ysgol Ead Waddolog sydd yn y plwyf hwnw, a. hyny'mewn amser pan yr oedd hòno mewn cystal bri ag yw YsgoIBan! or, Biwmare", neu Ruthyn, y dyddiau hyn, gan ei fod yn cael ei ystyried yn enwog yn yr amrywlol gangenau dysgeidiaeth angemheidioj er cymhwyso gwŷr ieuainc i gymmeryd y graddau uehaf yn y prifysgolion. Yr oedd o deulu athrylithgar—yr un teulu â Rhys Jones o'r Blaenau ; eanys arferai alw y gwr o'r Blaenau yn " gefnder." . Bu iddo ddeg o blant'—ped'war o feibion, a chwech o ferched. Bu dau fab yn yr Eglwys, un yn apothecari i deulu y Brenin Sior m, a'r lîall yn fasnachydd gwin. Yr oedd yn anrhydedd nid bychan i Berson Llanegryn allu dwyn i fyny y fath deulu lluos.og mor anrhydeddus, a'r gyflog, meddir, o ddim mwy na lOOp. yn y flwyddyu. Nid yn unig ihoddodd ddysgeid- iaeth ieithyddol i'w feibion, ond hefyd i'w ferched,. yn enwedig i'w ferch Catherin, yn yr hon y canfyddai athrylith foreuol. o'r hyn ý cymmerodd fantais i'w gwneyd yn helaethach ei gwybodaeth yn yr awduron dysgedig na nemawr o foneddigesau eihoes, ac o herwydd hyny "gellir ei galw yn Elisabeth Carter y Cymry. Dangosodd Catherin Il^ghei yn ei hieuenctyd siampíau awenyddol ag a fuasent yn anrhydedd i'r beirdd enwocaf. Priododd â Reis îíughes, Ysw., Cyfreithiwr o'r Cemmaes, yn. ,sir-Drefaldwyn; yr hwn oedd yn foneddwr cymdeithasgar, a pharod ei leferydd. Cafodd hi ei hanrhydeMu â chyfeillgarwch y rhai dysgedicaf yng Nghymru, yn enwedig yr hyglod Helicon Lloyd, o sir Feirionydd. Y mae (neu" yr oedd) rhai o'i llythyrau mewn rhyddiaith a barddoniaeth eto ar gael,.ac ef allai y caif y Brython olwg ar rai o honynt cyn hir- Yr oedd ỳn esarnpl o ymddygiad Cristionogol ym mhob sef- yllfa gymdeithasol. Bu iddi deuîu lluosog—un o ba rai oedd y Parch. Robert Hughes, diweddar Berson Dolgellau; ac y mae wyresaù a gorwyresau iddi, yr ydym yn tybied, yr awr yn trigiannu ym Machynlleth. Wedi marw ei phriod, yr hyn a gymmerodd le ym mlodau bywyd, gadawyd hi ar gylìid bychan ; ond medrodd drefnu hyny fel ag i allu gwneyd ym- ddangosiad parchus, a bod yn èlusengar, trwry drin fferm y Cemmaes Bychan, lle y bu farw yn 1813, yn 81 mlwydd oed. (Gwel y Genllemerìs Magazine am 1813; at yr hyn y chwaneg- wyd ymofynion personol ag amrai yng nghymmydogaeth Machynlleth, yn enwedig ei hwyresau, y Meistresau Hughes, b Heol Maengwyn.) II. JOHN PHICE a anwyd yn y Tŵr, ger Llangollen, yn sir Ddinbych, Mawj-th, 1734-5. Bu flynyddoedd yn Aelod o Goleg ýr lesü^ yn Rhydychain, ac wedi hyny o Goleg y Drindod, yn yr un Brif- ysgol. Cymmerodd ei raddau yn A. C. yn 1768. Cyfrifid ef yn ysgolhaig da; ac yr oedd yn wastadol yn barod i gyflëu gwybodaeth i'w gyfeillion a llenorion allan o Ystordy ei ofaî —y Llyfrfa Fodleiaidd, ceidwadaeth yr hon a gafodd yn 1768, ac y gwnaed ef yn Aelod o'r Gymdeithas Freninol. Yr oedd, trwy hir ymarferiad, yn hollol ymlynol wrth y Llyfrfa hòno, Fel cyfaill, yr oedd yn rhwydd a gwerthfawr. Yr oedd hefyd yn Ficar Llangatwg, yn sir Forganwg, ac yn beriglor Wolastor ac Ah'ington, yn sir Gaerloew. Nid ydys yn gwybod iddo gyhoeddi dim o"r eiddo ei hun, ond cynnorthwyodd i gyhoeddí The Livesof Lelanä, Llearne, and Wood, yn 177-2 ; açhy- hoeddwyd rhai gweithiau rhagorol yn ystod éi âmser 'fel ceidwad Llyfrfa Bodley, yn rhagymadrüddion y rhai ý íiiae ei wasanaeth yn cael ei gydnabod. Bü farw yn Rhydỳchains Awst 17, 1813, yn 79 mlwydd oed.—(/&.) III. EDWÄRD PÜGH. ^ A anwyd yn Rhuthyn, yn sir Ddinbych, ac a ddaeth, wrth ei athrylith ei hun, yn Lluniedydd rhagorol; a. chyflogwyd ef i dynu y golygfëydd i'r llyfr a elwir Modern London. Cyhoedd- odd hefyd waith o'r eiddo ei hun, o'r enw Cambrìa Depicta, yn 1813. Yr oedd hwnw yn cynnwys ei orchwyl am 10 mlynedd.