íifa Hftaji tra §t[|i|w< Cyf. 2. MAI, 1859. Rhif. 7. I1 abx'iti)r"gixm • YSTORI DARED. [ö Ysgriflyfr yn yr Amgueddfa Brydeinig."\ Prolog yw hwn în Ystoria Dared, yr hwn a draetha gwir am Ddistrywedigaeth Troea, ac fal y llas Gwtr Groeg a Gwyr Troea. CORNELIUS TN ANF03ST ANERCH AT SALURTIWS BENGRYCH. Pan ytoeddwn i yn llafuriaw yn Athenas, ac yn gwneuthur llawer o'm ystuwdiura, yn hyny y cefais Ystoria Dared. Gwr o Roeg oedd hwnw, gwedi ysgrifenu o'i law ei hun yr hyn sydd yn dwyn cof am a fu rhwng gwŷr Groeg a gwýr Troea: a'r llyfr hwnw a ym- chwelais innau â'm dyhewyd, hyd na thebygais ei fod fwy na llai yn amgen no ffurf ac achosa gweithred, yn herwydd y gellid ei weled yn y llyfr hwnw: ac wrth hyny y trosed yr ymadroddion a oedd yno yn Lladin, yn wir ac yn gwbl yng ngair yn eu gilydd, megys y gallo a'i darlleo etwa wybod megys y gwnaethpwyd y gweithredoedd, ac mal y tebyger, yn benaf, bod yn wir yr hyn a gahmoles Dared, i ddwyn ar gof yr hyn a fu o frwydrau y rhwng gwŷr Groeg a gwŷr Troea. A gwr a oedd Dared a.fu gydoeswr â marchog ac ymladdwr yn yr amser hwnw, a hyny o'r frwydr gyntaf a fu rhyngthynt, hyd pan orfu gwŷr Groegar wŷr Troea, ac ennill y y gaer. Àc am hyny, ys iawnach credu iddaw ef nog i Omyr, y gwr ni anesid hyd ym mhen llawer blwyddyn gwedi hyny. Ac am hyny y bu y frawd yn Athenas, pangymmerwyd Omyr yn lle ynfyd, o ddysgu o honaw ac o ddychymmygu bod ymladdau a brwydrau rhwng y Duwiau à'r Dynion. Ac o hyn allan mi a ymchwelaf at yr eddewid. 1. I Belews, brenin Pelopes, yr oedd frawd a elwid Eson ; a mab oedd i'r Eson hwnw a elwid Iason; a gwr ieuanc clodfawr oedd hwnw; ac ef a anrhydeddas y bòbl a oëdd dan ei arglwyddiaeth ei hun, fegys ped fyddent bellenigion, a phawb o naddynt wyntau a'i carai yntau yn wahanredawl. .2. Ác wedi gweled o Beiews, brenin Pelopes, Iason ei nai mor gymmeradwy gan bawb a hyny, ofhhau a orug ddyfod hyny yn afles iddaw rhag Haw, a'i fwrw o'i gyfoeth; sef a òrug Peleẃs, dýwedỳd bod yng Ngholcos, méwn ynys, groen euryn, teilwng ei gyíchu o wáith Iason, ac er ei gyrchu addaw iddo bob peth. «3. Pan gigleulason hyny, fal yr oedd ef gadarn ei fryd, ac y mynai yntau ymadnabod à phob lle, a hefyd tebygu bod yneglurach clod y neb a gyrchai y croen euryn 6 ynys Golcos, ac am hyny ymadaw oddi wrth Belews ei ewythr ar fyned i gyrchu y çroen euryn. 4. Pelews a elwis ataw Argws, pensaer, ac erchi iddaw wneuthur llong clecaf a'r allai fod, a hyny wrth ewyllys Iason ; â'r chwedl hwnw a gerddodd dros wyneb Groeg, nid amgen, bod adeilad llong i fynedi geisiaw y croen euryn parth ag ynys Golcos; a chyclym^ deithion a phellenigion a ddoeth hyd ar lason, i addaw myned y gydag ef. A phan oedd y llong yn barod, myned a orugant yaddi, a Iason yn dywysawg arnadclynt; sef oedd enw 'r llong Argo. 5. Pelews a erches ddwyn i'r llong bob peth a fai raid; a hefyd ef a annoges Iason a'i bobl ar fyned i berffeithiaw yr hyn yr oedd- ynt yn ei feddyliaw ; canys gwelid iddynt fod hyny rhag Ilaw yn eglurcler Groeg. Ni pherthyn i minnau henwi y nifer a aeth y gydag Iason ; namyn pwy bynag a fyno eu gwybod, darllëed y Jlyfr a elwir Llynges Argo. 6. Ac yna, pan ddoeth Iasonhyd ynPhrygia, ef a angores ei long ym mhorth Simoenta ; ac yna yr aeth pawb o'r llong i'r tir: ac yna y mynegid i Laomedon frenin Troea am ddyfod llong enrhyfedd ei maint i borth Simoenta, â llwyth o wŷr ieuainc o Roeg ynddi. Gwedi clybod o Laomedon frenin Troea hyny, cyffroi a orug, a medclyliaw cyffredin berygl y wlad, o gnotäi i wŷr ddyfod â'u llongau i'w porthladdoedd yntwy: ac am hyny, ef a anfones Laomedon i'r borth i erchi i wŷr Groeg adaw ei derfynau ef. A gorthrwm y cymmerth Iason arnaw greulonder Laomedon, ac yntau a'i nifer heb wneuthur neb rhyw argywedd o fewn ei derfynau ef, nac yn ei feddyliaw. A sef a orug lason, a'r gwŷr a oedd gydag ef, ofnhau o debygu yr amlhäi y genedl a oedd yn eu herbyn, a'i gywarsengu yntau, os ef a wnelai ohir dros orchymmyn Laomedon, a hefyd eu bod yn am- mharod i ymladd; ac am hyny eu llong a esgynasant, a chiliaw i wrth y tir a orugant, Ac wynt a ddaethant i ynys Golcos, ac a ddygasant groen y maharen euryn, ac a ddaethant adref. 7. Hercwlff a ddaliodd orthrymder mawr yn ei galon, rhag mor filain ac mor gywilyddus y gwnaethoedd Laomedon ag ef, a'r nifer a oedd y gydag ef. .. .. Iason i Colcos; a sef a orug, myned at Castor * Pholucs hyd yn Yspiradi (ynys yng ngwlad Groeg oedd hòno); ac ỳn íle, ymwneuthur ag wynt ar ddyfod i ddial ar Laomedon y sarhaed a gawsynt ganthaw, nid amgen nog am eu gwrthladd o'i borthloedd ac o'i derfynau, gan addaw bod yn borth iddynt, od ymgynnwysynt am hyny. Castor a Pholucs a addawsant wneuthur pob peth agyr oedd Ercwlff yn ei adolwyn. Odd ynaef aeth hyd