:..•■■ ; ■■.*. ■ ■.-.* .» ■ . ■ ■....- f ■-. ■ .■■ ■■■■. : : Bìfì Dfcorç in SẄfttt ■ r »'.(,/,. Cyf. 2. EBHILL, 1859. Ehif. 6. Y MADOGWYS. GA.JS THOMÂS STEPHÜSrS. II. HOLÍABAU AM DANYNT. Hhoddais yn yrhifyn diweddaf ■ grynodeb o dystiolaethau yng nghylch pobl a elwid "Indiaid Cymreig," ac a dybid eu bod yn ddisgynyddion Madog ab Owain Gwynedd, a'r canlynwyr a roddir iddo yn y traddodiad Cymreig. Gwelwyd fod y tystiolaethau am danynt yn helaeth, yn lluosog, ac yn amrywiol; ac yn cynnwys traethiadau eu bod yn siarad Cymraeg gyda mwy o burdeb na'r Cymry eu hunain; wèdi etifeddu pethau nad oedd gan Madog a'u cyn- deidiau canoloesol yng Nghymru, sef Beiblau Cymreig; ac wedi bod yn fwy gofalus. na'r Cymry eu hunain, trwy gadw cof am for-' daith Madog, yr hon sydd heb un son am dani yn y Croniclau Cymreig. Hefyd bod yr Indiaid hyn yn wynion; eu bod yn pre- swylio yn agos pob rhan o'r Cyfandir Americanaidd; ac eu bod olì. yn siarad Cymraeg, er eu bod yn wyth neu ddeg o lwythau gwa- hanol. Yn awr, yr oedd un gofyniad yn tarddu yn naturiol oddi ar yr adroddiadau hyn; sef, òs oedd y cyfryw mewn bodoliaeth, ac os nad anwiredd gwirfoddol neu hunan-dwyllol oedd y tystiolaethau hyn, dylesid cael gwybodaeth fwy awdurdodol am danynt, a dyfod o hyd, iddynt. Yr oedd amryw o'r tystion yn addef na wyddent hwy Crymraeg eu hunain, ac ereill yn dyweyd anwireddau amlwg, fel y teimlid hyd yn oed gan Gymry crediniol y buasai yn fwy boddhaol pe buasai rhyw Gymro o gymmeriad uchel a gonest yn myned i'w plith, ac wedi hyny yn cadarnhau y tystion ereill. Cynnygiai y Parch. Mórgan, Jones arwain holwyr at y Daegiaid; ond nid oes un hanes fod neb wedi derbyn y cynnygiad—hyd yn oed Thomas ■Llwyd, yr hwn a ddanfonodd yr hanes gyntaf i Gymru. Ond gWnaeth" yr hanes argraff ddofn ar feddyliau y Cymry, ac yn neill- ^uol wedi cyhoeddiad yr hanes yn Nrych y Príf Oesoedd; cyn- ^yrchodd deimladau moesol a chrefyddol yn gystal a chenedlaethol; gwelwyd Ehagluniaeth ryfeddol iawn yn nhreiglad y welygordd ^°n. o Gynlry mewn oes dywell, ac yn eu darganfyddiad wedi hyny ^ cenedl luosog yng nghanol gwlad anghysbell; a theimlwyd fod ^yledswydd ar y Cymry eu dwyn i adnabyddiaeth o wirioneddau y ^■efydd Gristionogol:— " Taened goleu, tywyniad gwiwlon, I'r gorllewinol gyrau llawnion; Gwawr o ddiwygiad gywir ddigon, , Draw i Fadogwys—drefedigion;" oedd gweddi Dafydd Ddu Eryri; a than ddylanwad y teimlad cenadol hwn,yn y flwyddyn 1792, cymmerodd dyn ieuanc o'r enw John Evans, o'r Waen Fawr, yn Arfon, at y gorchwyl pwysig o fyned at y Madogwys, a phregethu'yr efeugyl iddyht. " Yr ydwyf,:' (medd efe, mewn llythyr ateì frawd yn Arfon, dyddiedig Baltimor, dydd gwyl Stephan, I792,)(<ynmeddwl mai fy nyledswyddyw gogonedduenw Iesu, os gallaf, drwy agor y drws i'r efengyl dragwyddol fyned i blitb. ytrueiniaid hyn, fy mrodyr; am hyny yr ydwyf wed'i offrymu fy mywyd i waith yr Arglwydd, ganymddiried y gofala ef ahí dänaf." Cyrhaeddodd Baltimor yn Hydref 1792; ymwelodd â'r Dr. Sanmel Jones o Philadelphia, aelod o Senedd America, yn fuan wedi hyny, ac addawodd hwn iddo ugain o wŷr arfog i fyned gŷdag ef i'w ddiogelu rhag yr Indiaid ereill; dychwelodd i Baltimor, â threuliodd y gauaf yno fel derk marsiandwr, am gyflog o 50 purit y flwyddÿn; ail ymwelodd â'r Dr. Jones yn y gwanwyn, a chy- chwynodd o'i dy ef ar ei daith tua'r gorllewin trwy Kentucky yû nechreu Ma-wrth 1793, er y cynghorai y gwr hwnw ef i aros nes y cawsai ragor o gyfeillion. Mae y rhan nesaf o'r hänes yndywyll. Bwriadai fyned o Baltimor i Ffort Pitt, ac oddi yno i lawr yr afon Ohio tua St. Louis, mewn cwch arfog; ond pa un a aeth felly, a pha rif o gyfeillion oedd ganddo, os oedd neb, nid yw hysbys. Yr hanes nesaf am dano yw ei fod wedi ei gymmeryd yn garcharor gan yr Yspaenwyr, y rhai oeddynt ar y pryd mewn meddiantn Louis- iana; ac oni buasai i'r swyddog Yspaenaidd ddyweyd am dano wrth G. Turner, un o brif Farnwyr Americanaidd y diriogaeth ogledd- orllewinol, ac i hwnw bleidio drosto, dichon y buasaì iddo drengu fel carcharor yn St. Louis; ond gan farnu y buäsai ei daith o les cyfîredinol, cafodd y Barnwr Turner gan yr Yspáenwyr riid yn unig ei ryddhau, ond hefyd roddi iddo bassporís (diolched y Cymro na ŵyr yn ymarferol beth ydynt) yn Yspaeneg, Ffrancaeg, a Seison- aeg, i rwyddhau ei daith. Bernid y pryd hyny fod yr Indiaid Cymreig yn preswylio ar yr afon Missouri, ac mai y Padoucas oeddynt. Esgynödd y Missouri gyda'r ìndian Traders yn 1775,