Cyf. 2. MAWHTH, 1859. Rhif. 5. Y MADOGWYS. # GAN THpMAS STEPHENS. Llawer iawn o son sydd wedi bod am lwyth o Indiaid Cymreig ar y Cyfandir Americanaidd; llawer iawn o dystiolaethau yn eu cylch ; a llawer o ddadleuon dros ac yn erbyn eu bodoliaeth. Gwreiddyn yrhanes oedd y traddodiad i un o feibion Owain, Tywysog Gwynedd, yn y 12fed canrif, sef yn O.C. 1170, fyned i'r môr gyda thrichant o'i gydwladwyr, mëwn deg llong, heb fod neb, fel y dywed y Trioedd, yn gwybod i ba le yr aethant. Dyna ffurf y traddodiad cyn darganfyddiad America yn y flwyddyn 1492 gan Ci.isto.pher Columbüs; ac er y dichon fod tybiad iddo dirio mewn rhyw ẃlad ddyeithr, nid oes un prawf ysgrifenedig fod y cyfryw dybiad mewn bodoliaeth; ond wedi darganfyddiad Columbus aeth y dybiaeth yngyffrediniddoefdirioynyr Amerig. Honodd Humphrey Llwyd hyny yn ei gyfieithad ef o'r Croniclau Cymreig yn 1559, er nad oes dim o'rfath yn y Croniclau gwreiddiol; ac yn 1554 cyhoeddoddy Dr. Dafydd Powel honiadau Llwyd, gyda thybiadau ac ychwaneg- iadau o'i eiddo ef ei hun; ond dywed Llwyd yn bendant i'r Cymry golli eu hiaith, ac" ymgymmysgu â thrigolion y cyfandir; y mae Powel yn ail adrodd yr honiad heb arwyddo un gwrthwynebiad; ac y mae yn ämlwg nad oedd na Llwyd na Powel, nac hyd yn oed James Howel, yr awdurdod gyntaf am yr honiad yng nghylch " beddargraff Madog ym Mecsico," yn breuddwydio dim fod canlynwyr honedig Madog yn hanfodi fel llwyth annibynol, ac yn parhau i siarad ýr iaith Gymraeg. Am hyny gellir rhanu hanes mordaith dybiedig Madog oddi wrth hanes y Madogwys, a thrin hwn ar wahan, gan Sdael y llall hyd rhyw gyfnod arall. Bydd yn gyflëusddosbarthuhanesy Madogwys yn dair rhan, sef: 1. Y Tystiolaethaü yn eu cylch. 2. Holiadau ani danynt. 3. Beirniadaeth ar yr hanes. A thriniwn y pynciau hyn yn y drefn ragflaenol. 1. Tystiola.ethau am y Madogwys* Hwyliodd Columbus tua'r deheu-orllewin, a thiriodd ar\Ynysoedd Bahama, yng Nghyfyngfor Mecsico; ond y cyntaf a ddarganfu y * Ehoddir y tystiolaethau fel y maeat, heb awgrymu un farn am eu ^ìnriredd, ne* y deuir at y rhan olal. rhân ogleddol, a elwir yn awr yr Unol Daleithiau, oedd Sebastian Cabot, yn 1497, o dan awdurdod oddi wrth Harri'r Seithfed, brenin .Prydain. Cymmerwyd meddiant o'r wlad yn enw Lloegr, ac aeth Uawer o Brydeinwyr yno i fyw. Yn ystòd amser sefydlwyd trefed- igaethau yno; ar annogaeth Siarls y Cyntaf aeth llawer o drîgölion Lloegr i'r wlad hòno; a gyrodd gormes y brenin hwnw lawer ereill i ddilynyr esiampl. Yn 0. C. 1680 arweiniodd y Crynwr Wiliam Penn amryw o ganlynwyr yno, a Uawer o honynt yn Gymry, a sefydlodd Dalaeth Pennsylvania. Ym mhlith ei ganlynwyr yr oedd Crynwrf o'r enw Thomas Llwyrì ; yn New Iorc cyfarfu ef ag un Morgan Jones, offeiriad, a mab i John Jones, o Faesaleg, Sir Fynwy; oddi wrth y gwr hwn y cafwyd y crybwylliad cyntaf ám y Madog- wys. Ysgrifenodd Jones lythyr, dyddiedig Mawrth lOfed, 1686, yn yr hwn y traethai fel y canlyn:—- "Tra yr oeddefe yn aros mewn lle a elwid Oyster Point, pen- derfynodd efe a phump o gyfeillion, o herwydd ofn newynu, fyned tiwy yr anialwch tua thref a elwid P^oanoc ; ond cymmerwyd hwynt yn garcharorion gan lwyth o'r Indiaid Tyscoraraidd ; a bwriadwyd eu rhoddi i farwolaeth, gan dybied mai ysbiwyr oeddynt. Pan glywodd Jones y penderfyniad hwn llefodd yn yr iaith Gymraeg [ysgrifenai yn Seisoneg], 'A ydwyf wedi dianc rhag cymmaint o beryglon, i gael fy nharo yn awr yn fy nhalcen fel ci î' Ac yna daeth Indiad tuag ato, a chymmerodd ef yn ei freichiau, a dywed- odd yn Gymraeg, ' Na chai farw,' a thalodd i Ymherawdwr y Tyscorariaid am ei gael yn rhydd. Un o flaenoriaid milwrol y Daegiaid oedd hwn; cymmerodd hwn" ef a'i gyfeillion i dref y Daegiaid, lle y cawsant gyflawn groesaw am bedwar mis. Siaradai Jones ä hwynt yn y iaith Gymraeg; pregethai iddynt dair gwaith yr wythnos yn y iaith hòno; ymgynghorent ag ef yng nghylch unrhyw beth a fuasai yn dywyll yn y bregeth ; ac ar eu hymadawiad rhoddasant iddynt bob peth ag oedd yn angenrheidiol arhynt^ Yr oedd yr Indiaid hyn yn trigfanu ar afon Pontigo, yn agos i Benryn Atros." Danfonodd Thomas Llwyd y llythyr at èi fi/awd, Charles Llwyd o Ddolobran, yn Sir Drefaldwyn; defnyddiwyd ef yn Nrych y Prif Oesoedd; ac y mae wedi ei gyhoeddi amryw weithiau. '.f