!|ä |fëfff3 ira §îîfìí Ctf. 2. CHWEITtOR, 1859. Rhif. 4. GOEESGYNIAD PRYDAIN .GAN Y SEISON. Nid ar unwaith y goresgynwyd Ynys Prydain gan y ciwdodau gormes o wlad yr Ellmyn ; ond gwaith ydoedd a gyflawnwyd ar wahanol brydiau, gan wahanol Iwythau, a than arweiniad gwahanol flaenoriaid. Y mae yn dyb led gyffredin ym mhlith y werin bobl yng Nghymru, mai Hengist a Horsa oedd yr unig rai a dywysasant y gormeswyr estron i'r ynys hon ; a darfod i'r gwŷr hyn ddaros- twhg braidd y cyfan o.Loegr o dan eu hawdurdod: ond go afraid crybwyll fod y golygiad yma ym mhell iawn oddi wrth y gwirion- edd ; canys ni thywysodd y ddau frodyr hyn namyn un o'r gwa- hanol giwdodau a ymsefydlasant ym Mhrydain, ac a yrasant y Prydeiniaid i gilio; ac nid Sacson, yn yr ystyr priodol, oedd y ddau flaenor hyn, na'r gwŷr a'u canlynent. Ciwdod o'r un han a charennydd â'r Sacson oeddynt, ond ni alwent hwy mo'u liunain, ac níd adwaenitl hwynt gan ereill, wrth yr enw hwnw. Gwŷr o Ogìedd yr Almaen ydoedd y goresgynwyr hyn oll; a'r parth neillduol o'r wdad hòno y daethant allan o hono, yw y rhan höno sy'n gorwedd gyda glan y môr o Orynys lutland yn nheyrnas Denmarc, i aber yr afon Ehein yn Holand. Yr oedd eu gwlad, gan hyny, yn gorwedd rhwng yr afon Eider yn y Gogledd, a'r Rhein yn y Deheu, gan gynnwys taleithiau Iutland, Sleswig, Holstein, Ffrisland, a Westphalia. Ond pa ryw barth yn neillduol y cychwyn- odd pob un o'r llwythau hyn o hono, nid ydys yn gwybod gydag eithaf sicrwydd. Mwyaf tebygol yw i'r Angliaid ddyfod o D'dûg- iaeth bresennol Sleswig; y Iutiaid o Ddeheubarth Iutland; a'r Sacson, o rywle rhwng yr Elb a'r Bhein. . Trefn ac amser y gwahanol oresgyniadau Sacsonig ar Ynys Prydain sy fel y canlyn :— 1. Y sefydliad cyntafa fu yn y flwyddyn 449. Y goresgynwyr cyntefig hyn a alwent eu hunain Iutiaid: eu tywysogion oedd Hengist a Horsa,- ac yn Ynys Daned, ar oror Caint, y tiriasant 'ac yr ymsèfydlasant; a chyn pen chwech mlynedd wedí glanio, yr °eddynt■ wedi' sefydlu teyrnas Caint. Canfyddhy gan hyny, mai Caint a"r cj'ffiniau oedd y lle cyntaf y cafodd yr estroniaid hyn droediant ynddo, a dyma y rhan gyntaf o'r ynys a gollödd y Cymry üeu'r Prydeíniaid. 2. Yr ail sefydliad a fu yn y fìwyddyn 477. Ar oror Sussecs y tiriodd y gormeswyr Almaenig y tro hwn ; ac nid hir y buant cyn Sefydlu teyrnas y Sacson Deheuol (Soutìi Saxons ) neu Sussecs. ^alwent éu hunain Saxon; ac oddi wrthynt hwy y gaíwodd y Cymry yr holl estroniaid hyn yn Seison. Eu blaenor oedd Elia. ^ussecs, gan hyny, oedd yr ail barth o'r deyrnas y difuddiwyd y Cymry o hono. 3. Y trydydd sefydliad a fu yn y flwyddyn 495. Gororau Swydd Hants oedd y lle y tiriodd y goresgynwyr arno. Yr un fath ar rhai o'r blaen, Sacson ydoedd y gormesiaid hyn ; a gelwid eu blaenor Cerdic. Sefydlasant deyrnas y Sacson Gorllewinol ( We&t Saxons) neu Wessecs. Swydd Hants oedd y trydydd parth o'r deyrnas a gollwyd gan y Cymry. 4. Y pedwerydd sefydliad a fu yn y flwyddyn 530. Sacson y gelwid y goresgynwyr hyn liefyd ; ac yn Essecs (Easi Saxons) y tiriasant. Ni wyddys enw eu blaenor. Essecs oedd y pedwerydd parth yr enciliodd y Cymry o hono. 5. Y pmnmed sefydliad ni wyddys yn hollol pa flwyddyn y dygwyddodd; ond cymmerodd le rywbryd yn ystod teyrnasiad Cërdic yn Wessecs. Gelwid y goresgynwyr y tra hwn yn Angl- iaid neu E'ingl;■ ac oddi wrthynt hwy y galwyd Lloegr yn Eng-. land (sef gwlad yr Angliaid), a'r iaith yn English. Yn Norffolc a Suffolc yr ymsefydlodd yr An.gliaid hyn. Dyma bummed coll y Cymry. 6. Y cliwecìied sefydliad a fu yn y flwyddyn 547, ar fin can mlynedd ar ol y sefydliad cyntaf yn Ynys Daned, o dan Hengist a Horsa. Ym mharthau de-ddwyreiniol yr Alban, rhwng yr afonydd Twid a'r Fforth, y tiriodd y goresgynwyr y pryd hwn. Llwyth o'r Angliaid oeddynt, a'u blaenor ydoedd Ida. Dyma'r chweched tro y difuddiwyd y Cymry o ran o Loegr. Dyma oresgyniadau cyntefig' Ynys Prydaiu gan y ciwdodau gor- mes o'r Almaen ; ac o dipyn i beth, helaethodd y goresgynwyr hyn eu terfynau, nes cael holl Loegr i'w meddiant; a gorfu ar y Cymry, ar ol llawer brwydr galed, a Ilawer buddugoliaeth ogon- eddus, ymgilio yh raddol o'u blaen tua'r gorllewin, ac ni fedrasant gadw o'r ynys a fuasai unwaith oll yn eu meddiant, ond gwlad Oymru yn unig. Bwriwn oîwg eto a.r'y teyrnasoedd a sefydlwyd gan y gwahanol giwdodau anaddwyii hyn. 1. Megys y crybwyllwyd eisys, gyrwyd y Prydeiniaid o Gaint, a meddiannwyd eu lle gan y lutiaid, o dan Hengist a Horsa. Ymsef- ydlodd rhai o'r Iirtláid hèfỳd mewn rhan o Sussees ac yn Ynys Wyth. O'r tair ciwdpd ormes a ymwthiasant i'r ynys yn y pummed a'r chweched canrif, y Iutiaid oedd y llwyth lleiaf ei bwys, a'i gryfder, a'i enwogrwydd-; er bod llâwer' mwyo son yng Nghymru am'eu' blaenoriaid hwTynt, nag am flaenoriaid neb o'r lleill. Oddi wrth Aesc neuEric,mabac olynwr Hengist, ycafodd breninoedd Cainteu galw yn Aescingas. Parhaodd Caint yn deyrnas annibynol nes y gorchfygwyd hi gan Cenwulff, brenin Mersia, yn 796. Yn y flwyddyn