. ■ ■ . ■. . ... §% Jffâf íra IfîgffÄ Í^SSeaiiSaBB^SaaBBES Cyf. 2. 'IONAWR, 1859. Rhif. 3; IDA PFFEIFFER, Y DEITHYDDES O G-YLCH Y BYD. Bu farw y foneddiges ryfeddol hon yehydig wythnosau yn ol. Yr oedd hi yn un o'r benywod mwyaf nödedig a welodd y byd niewn unrhyw oes. Y mae hanes ei hanturiaethau yn ei ' Thaith o Gylch y Byd,' yn darllen megys chwedl wneuthur yn y ' Nos- weithiau Arabaidd.' Ganed Ida Pffeiffer yn Vienna, tua diwedd y y canrif diweddaf; a bu fyw yn dawel, fel rhyw ddynes aralí, fryd nes oedd yn saith a deugain oed; er ei bod y rhan fwyaf o'r amser hyn â'i bryd ar dramp, pa bryd bynag y caniatäi amgyichiadau iddi. Yn yfiwyddyn 1842, cychwynodd ar ei thaith gyntaf. Trafael- iodd trwy Dwrci, Palestina, a'r Aipht; a chylioeddodd hanes ei thaith, ar ddull dyddlyfr, mewn dwy gyfrol fechan. Yn 1845, hí a ymwelodd â Gogledd Ewrop, gan fyned mor bell ag Ynys yr Ia ; ac ysgrifenodd hanes dyddorol am y gwledydd hyn. Ar ý cyntaf o fis Mai, 1846, a hi yn 51 mlwydd oed, ymadawodd â Vienna, a chychwynodd ar ei thaith gyntaf o amgylch y byd. Ar y dechreu yr oedd ganddi yr Iarll Berchthold yn gydymaith iddi; ond yn ystod eu taith trwy Brasil, pallodd nerth y pendefig hwnw, ac aeth hithau rhagddi ei hunan i ymweled â'r Pwri, neu gynfrodoiion Indiaidd y wlad hòno; ac aeth yn y cyfamser trwy lawer iawn o anturiaethau tra rhamantol. 0 Brasil, aeth yn eí blaen, trwy Benryn Horn, i Chilj; ac oddi yno i Tahiti, a thrychwiliodd yr ynys hòno o gwr bwygilydd mewn pythefnos. Yn nesaf, hi a gyr- haeddodd Cbina; ond methodd yn ei hamcan i dreiddio i ganol- barth y wlad nodedíg hòno. Aeth ym mlaen wedi hyny i Calcutta, ac oddi yno ar hyd y tir i Bombay. Gwedi aros ychydig yn Bom- bay, cychwynodd tua Bassora, ar ei ffordd i Bagdad. O'i- lle hwn, hi a ddechreuodd daith o'r fwyaf peryglus i Mosul. Teithiai y tro hwn yn niwyg yr Arab tlotaf; ac wedi llawer iawn o ahturiáèfhau rhyfeddol a diangfäu nid llawer llai na gwyrthiol, rhag ysbeilwyr, a rhag twyll a brad ei hunig arweinydd, hi a fedrodd fyned trwy fwlch y Mynyddoedd Cwrdaidd, a chyrhaeddodd yn ddiogel orsaf genadol Orwmîah. Oddi yno aeth rhagddi ar ei thaith trwy Persia; a dychwelodd i dir ei gwlad trwy Rwssia, Caergystenyn, ac Athen, a chyrhaeddodd ddinas Vienna ym mis Tachwedd, 1848. Yn 1851, caniataodd Ilywodraeth Awstria iddi gant o bunnau tuag at ddwyn ei thraul, a hwyliodd hithau tua Phenryn Gobaith Da, gan fwriadu cylchdeithio'r byd yr ail waith. Ei hamcan penaf oedd treiddio trwy Gyfandir Affrica, luag at Lyn Ngami, yr hwn, y pryd hwnw, oedd newydd ei ddargänfod; ond cymmaint oedd y Jraul, fel y gorfu arni roi'r bwriád hwnw heibio. Yna hi a ym- roddodd i drychwilio Ynysoedd Sunda. Yn nechreu y flwyddyn 1852, yr oedd hi yn Sarawac, yn Ynys Borneo ; ac ymwelodd â chloddfëydd aur a diemwnt Sandac. Gwedi hyny ymwelodd â Iava a Sumatra, lle yr aeth i ganol y llwythau anwar a elwir y Bataciaid, y rhai sydd yn bwytá cnawd dynol. Anfynych erioed o'r blaen yr ymwelodd Ewropiaid â'r anwariaid hyn; ond aeth Mrs. Pffeiffer i'w plith yn ddiofn ac yn ddiarswyd, heb un math o amddiffyn ganddi; ond medrodd hi, trwy ei hymddygiad tawel a liariaidd, ddofi eu hanian ffyrnig a bwystfìlaidd; ac ymddengys iddi, i gryn raddau, ennill eu parch ; canys dywedent nad neb ond rhywun mwy na dyn a fuasai byth yn anturio i'w plith, heb am- ddiffyniad o fath yn y byd, ond gwendidau. Arosodd yn ddigon hir ym mhlith y Bataciaid i ddyfod yn gydnabyddus â'u defodau a'u harferion ; a threiddiodd ym mhellach r w plith nag y treiddiasai un teithydd erioed o'r blaen. • Gwedi ymweled ag Ynysoedd Molucca, aeth i Califfornia; a hwyliodd i lawr gyda glenydd gorllewinol America ; cyrhaeddodd darddle yr afon fawr Amason; croesodd fynyddoedd yrAndes; gwelodd drumiau eiryog y Chimboraso a'r Cotapacsi; ac wedi hyny yinwelodd â'r rhan fwyaf o brif olygfaoedd America Ogleddol; a daeth i Lundain, yr ail waith yn ystod ei hymdeithiau, yn niwedd y flwyddyn 1854. Er ei bod weithian yn tynu ar ei hoed, ac heb'feddu ondychydig foddion, hi a gychwynodd drachefn i'w thaith; a'i hamcan penaf y pryd hwn oedd fforio ynys wyllt ac anwar Madagascar. Cyrhaedd- odd yno; eithr nid hir y bu cyn i dwymyn ymaíiyd ynddi; ac o'r dwymyn hon ni wellodd hi byth yn iach, ac o honi y bu farw ychydig yn ol yn ei dinas enedigol Vienna—wedi cyflawnu gorchestion na chyflawnodd gwraig mo honyht erioed o'r blaen.