, / . ; -®i[E-píq M §î(gíím Cyf. :f. TACHWEDD, 1858. Ehìf. 1, ERTHYCLAÜ CYSSEFi "l¥. PEYDLONDEB. Y mae prydlondeb yn dal neillduol berthynas a dyn fel creadur rhesymòl, fel aelod o'r gymdeithas ddynol, fel proffeswr crefydd, ac fel deiliad byd tragywyddol. Prydlondeb ydyw un o'r iheolau euräidd a fedd cymdeithas. Dyma'r cylch cadarn ag sydd yn dal ei amrywiol olwynion wrth eu gjlydd. Nis gall un olwyn weitliT redu yn deg hebddo. Fr dyben o ddwyn y byd i'w ogoniant cyntefig rhaid cael ei gynnorthwy ef, onite ni bydd ond annhrefn yn teyrnasu yn oes oesoedd. Anhawdd fyddai rhoddi dysgrifiad o'r filfed ran o'r colledion, a'r trueni a achoswyd drwy anmhryd- londeb. * Y mae yn amlwg. fod pob peth yn nhrefn fawr anian yn dilyn y Prydlondeb manylaf. Pe byddai i ni roddi tro o ran ein meddyliau i fysg y planedau afrifed sydd yn britho yr eangderau uwchben, ni a g$$fyddem yn amlwg m bod oll, er amled eu rhifedi, yn dilyn eu hamserau priodol i'r foment; pe byddai un o honynt eiliad ar ol eì amser achosid anhrefn drwy yr holl gyfundrefn. Gellir yn hawdd sicrhau codiad a machludiad yr haul, a'r lleuad, Hanw a thrai y môr, ám eu bod oll yn dilyn yr un reol euraidd o Brydlondeb er pan alwyd hwynt i fod o groth diddymdra gan y Creawdwr Hollalluog. A cheir hefyd yn y gyfrol ysbrydoledig, " Ni phalla amser hau a medi holl ddyddiau y ddaear." Ond i ddyfod yn fwy manwl, sylwn ar Brydlondeb mewn gwahanol amgylchiadau yn y dull canlynol. I. Pbydlondeb Teuluaidd. Mae prydlondeb teuluol yn cael ei esgeuluso yn fawr yn ein gwìad. Pa sawl teulu sydd yn Nghymru wedi dyrysu eu bywiol- iaethau, a'u holl gysuron teuluaidd wedi ehedeg ymaith o herwydd esgeuluso eyflawnu yn brydlon eu gwahanol ddyledswyddau. Aml y gwelir y tadau a'r mamau, drwy naill ai hofijder neu esgeulusdra o'u plant, yn arbed y wialen yn ei hamser priodol, a'r canlyniad yw fod'y plant hyny, fel y cynyddorit mewn oedran, yn myned yn fwy ystyfnig y naill ddydd ar ol *y lla.ll, nes o'r diwedd yr heriant eu rhieni; ac y cymmerant y llywodraeth yn holloí i'w dwylaw eu hunain, ac nid anfynych y gwelir y cyfryw rai yn syrtliio yn druenus i bydewau dinystr; a'r cwbì wedi ei'achosi o herwydd difiyg ceryddu yn ei.amser priodol. Ond o'r tu,arall, lle y mae y Hywodraeth dëùluaidd yn cael ei chario yn mlaen yn briodol, yno y mae tangnefedd yn teyrnasu. Y mae talu UfuddHlod mor naturiol i'r gWahanól aelodau ac anadlu. " Hyfforddia blentyn yn mhen ei ffordd, a phan heneiddio nid ymedy a hi." Dylai penau teuluoedd arferyd prydlondeb yn nygiad yn mlaen .eu gwahanol prchwylion. Y mae gan y fam swydd bwysig i'w chyfiawnu yn ■ffurfió nodweddiad da ar ei phlant, drwy arferyd y prydlondeb a weddai iddi yn ei chylchoedd priodol, yn yr ymarfer- iad a'i gwahanol ddyledswyddau. ■ Y mae "yn ffaith anẅadadwy, föd cymmeriad dyfodol y plant yn ymddibynu i raddau helaeth iawh ar yr esiamplau a dderbyniant oddi wrth eu mamau, byddent hwy dda neu ddrwg. Y mae diofaîwch ac esgeulusdra gyda gwisgoedd y plant, wedi achosi i lawer un droi allan yn grwydryn carpiog i hel ei gynnal- iaeth o'r nailll ddrws i'r llall. Ond drwy drugaredd y mae genyin enghreifftiau lluosog o famau yn deilwng o gymmeriad y wraig rinweddol. Y rhai hyn, pan welant y rhwygiad Ueiaf ŷn ngwis'g- oedd eu plant, nid ymgynghorant â diogi, ond gwyliánt yn fanẁl yr adeg i'w hail drwsio, yr hyn a achosa daclusrwydd, ac arbeda y costau o bwrcasu rhai newyddion yn eu lle. Y maent yn gwirio y ddiareb hòno, " Ún pwyth mewn pryd a arbed naw." Y íriae gwragedd o'r cymmeriad ymayn g^^ur i'w gwyr, ac yn feridithíw hiliogaeth. Yn nesaf, nodwn ychydig ar amgylchiadau ag y dylai y gwyr arferyd prydlondeb yn eu cyfìawniad ; os amaethwyr fyddant, rhaid iddynt ofalu am drin eu tiroedd yn ei amser priodol ; ni thal aredig y tir yn mis Mai, a dysgwyl cael ymborthi ar ei ffrwyth y flwyddyn höno, ac er aredig, hau, a llyfnu mewn pryd, rhaid sylwi yn fanwl ar ol hyny ar y ffrwyth yn tyfu, rhag i chwyn ladd yr egin tyner pan yn ieuanc; a phan ddelo amser y cynauaf, mae yn gofyn diòsg y fraich wrth gywair y grawn i ddiddosrwydd, " fel y byddo had i'r hauwr a bara i'r bwytawr." Dylai y gwahanol grefftwyr hefyd fod yn brydlon o ran amser gyda eu gwahanol alwedigaethau. Os chwech o'r gloch yn y boreu fydd yr awr benodol i ddechreu ar waith y dydd, dylent ofalu am fod wrth eu gorchwylion y pryd hwnw, ac nid caru hepian nes ỳ bydd wedi myned yn Uawer o'r dydd. Yr ydym felly, drwy éin syrthni a'n diogi, yn lladrata oddiar ein teuluoedd ran o'r unig gysur a osododd Rhagluniaeth yn ein cyrhaedd er mwyn dedwyddu èin hunain a'n teuluoedd. Mae dyn wedi ei fwriadu i weithio, ac y mae ei weithredoedd wedi eu bwriadu i sicrhau claioni iddo. Gall y dyn gysuro ei'. hnn, am yr oriau a dreuliodd mewn segurdod, y gwneiíf hwynt i fyny eto ryw amser dyfodol, trwy dtíyblu ei ddiwydrwydd, oncl dylai gofio na ddaw hwnw ddim heb ei ddyled- swyddau yn gyssylltiedigagef; y maegwaitb. priodol i bob diwrnod. Y mae un bai arall ag y mae penau teuluoedd yn syrthio idcìo yn fynych yn y dyddiau presennol, sef eu hymarferiad anghymedrol â'r diodydd meddwol. Dyma sydd wedi bod yn brif ddinystrydd cysuro» teulyaidd. Truenus yw gweled dyn, ar ol llafurío yn gaied