rgtlurjt RhifII.] TREMÀDOG: I>YDD GWENER, MEDI 3, 1858. [Pris 2g. AMERIC OGLEDDOL. Y maë yr Araerig Ogleddol yn fyw ae yn ferw o gwr bwygilydd. Ymddengys fel pe bae wedi ei tbrydanu (' gwefreiddio/ yn iaith y beirdd,) gan y wifren fain sydd yn gorwedd ar waelod Môr y Wer- ydd, ag un pen iddi yn Iwerddon a'r llall yn Newffoundland. Y mae yno laweuhau, a gwledda, a goleuannu, a saethu, a cbyflegru, gorymdeitbio, llosgi coelcerthì, canu clychau, a mwy na mwy o bethau cyffelyb, a byn oll o orfoledd bod y Rbaff Drydan wedi cyssylltu'r ddau Gyfandir a'u gilydd. Ond tra y mäe cymmaint cyffro yn ffynu o'r herwydd ym mhlith pobl y Taleitbiau Cyfunol a'r Tiriogaethau Prydeinig o du gorllewin yr Âtlantig, y mae pobl yr hen wlad yn edrych ar y dygwyddiad pwysfawr hwn mor dawel a digyffro a phe na buasai dim yn y byd wedi dygwydd. Ond er yr holl wahaniaeth hyn yn ymddygiad y ddeubar bobl, nid ydym i feddwl fod prif ddygwyddiad y pedwerydd canrif ar bymtheg yn cael ei werthfawrogi yn llai yn ein plith ni nag ym mblith ein caredigion yn America. Nid yr un ffordd sy gan bawb i ddangos eu cymmeradwyaeth o beth, ac nid yr un ffordd y maent yn dangos eu brwdfrydedd o herwydd ei lwyddiant. u Basaf dwfr pan yd lefair." Nid ein difaterwch mewn un modd yw yr achos o'r tawelwcb bwn o'r eíddom. Yr ydym ni, pobl yr hen wlad, wedi myned Weíthian yn hen bobl, ac felly wedi myned yn bur sad a difrifol, ac o herwydd hyny nis gellir ein cylcharwain, megys plantos, gan unrhyw newyddbeth, pa mor ryfeddol ac aruthrol bynag y byddo. BRYSFYNAG MOR Y WERYDD. " Y mae yn ddiddadl gan y Frenines y bydd i'r Llywydd gyduno â hi obeithio y» hyderus y bydd i'r Rhaff Drydan, sydd yn awr yn cyssýUtu Prydain Fawr a'r Taleithiau Cyfunol, brifio yn ddolen chwanegol rhwng y ddwy genedl. y rhai y mae eu cyfeillgarwch wedi ei sylfaenu ar eu lles cyffredin a pharch y naill tuag at y llall. " Y mae yn hyfrydwch mawr gan y Frenines gael ymohebu yn ddigyf- rwng fel hyn â'r Llywydd, ac adnewyddu iddo ei ddymuniadau gwresocaf am Iwyddiant y Taleithiau Cyfunol." Anerch Brenines Prydain Fawr at Lywyddy Tal- eithiau Cyfunol. A ganlyn yw yr Anercbiad a ddanfonodd ei Mawrhydi, trwy gyfrwng Brysfynag Môr y Werydd, at Lywydl Taleithiau Cyfunol America, yng nghyd ag Atebiad y Llywydd i'w Mawrhydi. Yr oedd atebiad y Llywydd yn cynnwys 143 o eiriau, a chymmerodd ddwy awr i'w ddanfon ar hyd y^rhaff, a ebyfrif yr ail adroddiadau a'r cyweiriadau angenrheidiol. " Y mae y Frenines yn cydlawenhau â'r Llywydd ar lwyddiannus or- pheniad y gorchwyl mawr hwn rhwng y ddwy wlad, yr hwn y mae'r Frenines wedi cymmeryd y dyddordeb dwysaf ynddo. Y Llywýdd at y Frenines. "Y mae'r Llywydd, o'i du yntau, yn cydlawenhau â'i holl galonog â'i Mawrhydi y Frenines ar lwyddiant yr anturiaeth fawr hon rhwng y ddwy genedl, yr hon a gwblhawyd gan fedrusrwydd, gwybodaeth, ac egni anor- fod y ddwy wlad. " Y mae yn oruchafiaeth fwy gogoneddus, gan ei fod yn llawer mwy defnyddiol i ddynolryw, nag a ennillwyd erioed gan un gorchfygwr aç faes y gad. Bydded i Frysfynag Môr y Werydd fod dan fendith y nef, yn rwymyn gwastadol tangnefedd a chyfeillgarwch rhwng y cenedloedd cydgarennydd, ac yn offeryn wedi ei fwriadu gan Ragluniaeth i daenu crefydd, gwareiddiant, rhyddid, a chyfraith trwy yr holl fyd! " Yh y golygiad yma, oni bydd i hoU genedloedd Cred gydunaw o hon- ynt eu hunain 1 ddadgan y caiff hi fod byth yn ammbleidiog, ac y caiff gohebion trwyddi eu cyfrif yn gyssegredig, a'u hanfon i ben eu taith, hyd yn oed yng nghanol gweithredoedd rhyfelgar ? (Llofnodwyd.) ' JAMES BUCHANAN." Bwriísdir estyn rhaffbellebroldanforawl igyssylltu Placentia Bay â Sydney, Penryn Breton, neu â Portland, Main, a gwneir paratoadau i chwilioansawdd y gororauhyny gyda golwg o ddwyn y bwriad i ben. Dywedir fod rhaff drydàn danforawl yn Uawer gwell na llinell ar hyd y tir, gan nad ydyw yn ddarostyngedig i ystormydd y gauaf, y rhai sy mor ddinystriol i wifr ar byd y tir. 0 Portland i Gaerefrog Newydd y bydd y llinell nesaf, a dywedir y bydd i hòno ddilyn hon yn bur ebrwydd. Hefyd y mae y gynnadledd bellebrol y Uefarwyd cymmaint yn ei cbylcb wedi ymgjŵrfod yn Berne. Dybenion y cyfarfod hwn ydyw rhwyddbau trosglwyddiad cenadwriaethau tramor, gwneyd trefniadau i estyn y gyfundrefn bellebrol trwy holl Ewrop, a threfnu prisiau cenadwriaethan, &c. Y mae llwyddiant pellebyr Môr y Werydd wedi dwyn allan amryw gynlluniau ereill i gys- sylitu rhanau pellenig o'r ddaiar.. Cynnygir gwneyd llinell bellebrol rhwng terfyn y Uinell fwriadol Indiaidd yn Singapore a China ac Awstralia. Bwriedir hefyd estyn rhaff bellebrol Môr y Werydd, mewn rhan dros y tir, ac raewu rhan o dan y môr, i Havana, Mexico, Panama, a San Fransisco.