Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

S9> Rhif 7.] TREMADOG: DYDD GWENER, AWST 6, 1858. [Pris 2g. POBL HYNOD. Mewn eaethiwed a cbarcbar y cyfansoddwyd rliai o'r gweithiau rhagoraf a welodd y hyd erioed. Yn y carchar y cyfansoddodd Boethiüs ei waith ar Gysuron Atl roniaeth ; ac yn y carchar yr ysgrifenodd Geotius y rhan fwyaf o'i Esboniadau, ei Draethawd godidog yng nghylch Gwirionedd y Grefydd Gristionogol, ac am- ryw o'i weithiau mwyaf dysgedig ereill. Mewn daiardy mewn naynachlog yn Portugal y cyfansoddodd Bucheman y hardd Lladin Ysgotaidd, ei AUeiriad o Salmau Dafydd. Ein cydwladwr James Howell, awdur Dodona's Grove, Epistolae Hoelìan, Lexicon Tetraglotton, ä ìluaws mawr o weithiau dysgedig a dyddorawl ereill, ag ysgrifenodd amryw o honynt pan yr oedd yn garcharor am ddyled yng ngharchar y Fleet, yn Llundain. A phan yn son am Gymro, gallwn gryhwyll gyda llaw mai mewn cyflwr caeth yng Nghasteli Caerdydd, yr oedd Bhobeet, Tywysog Normandi, pan y canodd ei Englynion "Dar a dyfwys ar y çlawdd, '*' &c. Tynodd Voltaire gynilun ei Henriade, a chyfansoddodd y rhan fwyaf o honi, yn ystod ei garchariadigaeth yn y Bastil: a gwyddys yn eithaf da mai dan amgylchiadau cyíFelyh y cj/fansoddodd Bun- yan ei Daitji y Pererin, a Deffoe amryw o'i ysgrifeniadau yntau. Ysgrifenwyd un o'r gweithiau hynotaf yn holl llenoriaeth Ewrop mewn caethiwed ym mhlith pobl anwar ; nid amgen Don Cwisot gan Ceevantes. Cyfansoddodd yr Yspaeniad anfarwoljy rhan fwyaf o'r gwaith dihafal hwn pan oedd yn gaethwas yn Barhari, lle y gorfu aros yn ddrwg ei gyfiwr am hum mlynedd faith o amser. Ysgrífenodd Lydiabt ei sylwadau ar y Cronicl Pariaidd pan yr oedd wedi ei fwrw yng ngharchar y Llys Penadur am cldyled ; a gorphenodd Syr William Davement ei gerdd Gondibert yn ys- tod ei garchariad yng Nghastell Carisbrwc, yn Ynys Wyth. Pan yr oedd yr awdwr Ffrengig Ffbeeet yng ngharchar y Bastil yn Paris, ni chaniateid iddo un cydymaith ond Geiriadur Boyl yn unig. Yr oedd y llyfr hwn o'i flaen boh amser, a dÿwedir ei fod mor hyddysg yn ei gynnwysiad, fel y gallasai, braidd, ei adrodd ar ei gof; ac i"r amgylchiad hwn yr ŷm yn ddyledus am amryw o'i weithiau; a hwyrach mai hyn a barodd eu bod mor Uawn o ammheugarwch. Dyddir gwaith cywrain Wicque- ffort a'i Lysgenadon o ystafell me«n carchar, lle y caethiw- asid ef am ryw achosion perthynol i'r wladwriaeth. Hanes y Byd gan Syr Walter Baleigh a ysgrifenwyd ganddo yn ystod y tair blynedd ar y deg y bu yng ngharchar. Dyn mawriawn ei ddoniau, ei athrylitb, a'i wybodaeth oedd Baleigh ; ac er mai yng nghanol berw rhyfel ar fôr a thir yr ydoedd wedi cael ei ddwyn i fyny, gellasid meddwl wrth ei waith llcnyddol nad oedd wedi gwneuthur dim trwy ei holl oes oad ymroddi i'w lyfrau a'i fyfyrion, allan o dwrf byd a thrafferthion bywyd. Ni chafodd yr awdwr fyw i orphen ei waith, canys, ar ol ei hir garchariad, torfynyglwyd ef dan rith cyhuddiad o deyrn- fradwriaeth yn y flwyddyn 1618. Ysgrifenwyd gwaith o'r enw Fleta gan rywun yng ngharchar y Fleet, yn Llundain. Y mae enw'r lle y cafodd y gwaith ei ysgrifenu ynddo ar gadw yn enw y Uyfr, tra mae enw yr arcdur wedi myned ar goll. Ysgrifenwyd gwaith arall, d an yr enw " Fleta Minor, neu Ddeddfau Anian a Chelfyddydí" gan Syr John Pettus, yn yr un carchar, yn y flwyddyn 1G83; a galwyd y gwaith felly er cof am garchariad yr awdur yn ys- tod ei gyfansoddiad. Caethiwyd y Dug Orleans, wedi hyny Lowy s xij. o Ffrainc, yng ngharchar Bourges, am ysbaidmaith o amser ; ymosododd yntau yn y cyfamser i ddiwyllio ei feddwl a goleuo ei ddeall, yr hyn a esgeulusasid ganddo i raddau hel- aeth hyd hyny ; a'r canlyniad fu, dyfod o hono yn un o'r penadur- iaid mwyaf deallus yn ei oes. Pan yr oedd Maeged, brenines Henri IV. o Ffrainc, yn garchares yn y Lwfr, ymroddai yn wresog í fyfyrio llên a cheinddysg, a chyfansoddodd esgusawd dros ei hym- ddygiadau afreolaidd. Bu y Frenines Elisabeth mewn carchar am îiir amser trwy orchymmyn Mair eichwaer; ac ynystod eichar- chariad cyfansoddodd amryw ganiadau, y rhai nis medrai ysgrifenu dim cystal a hwy wedi cael o honi ei rhyddid. A dywedir î'r an- íFodus Faie Brenines brydferth yr Aiban, yr hon' a g&rcharwyd, ac wedi hyny a ddienyddíwyd gan ei chyínither Elisabeth, gyn- nyrchu llawer o ddarnau prydyddol pur dlysion pan yn nìiy ei ehaethiwed.