Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'n jrrçrtrc Irgtlm Rhif 6.] TREMADOG: DYDD GWENER, GORPHENAF 30, 1858. [Pbis 2g. POBL HYNOD. Ys oedd Petrarc mewnrhan yn gyfoeswr a Dafîdd ab Gwilym, ond bod yr Italiad o ddeutu deng mlynedd ar hugain yn hynach na'r Cymro. Ond nid o biegid eu bod yn gyfoedion y derbyniodd Dafydd ab Gwilyra jr enw " Petrare Cymreig." Yr oedd cryn debygolrwydd mewn rhai pethau rhwng y ddaufardd anfarwol hyn. Yr oedd gan Dafydd ab Gwilym ei Forfydd ; yr oedd gan Petrarc ei Laura. Ond yr oedd Petrarc yn fwy anffodus nag hyd yn ojed Dafydd ab Gwilym yn newisiad gwrthddrych ei serch ; canys yr oedd Laura de Sade yn briod â gwr arall cyn i'r bardd erioed ei gweled. Ond nid llai hoffder Petrarc o honi er hyny, canys ymddengys iddo barhau mewn math o dwymyn o'i serch tra pajrhaodd ei angyles i rodio dafer; a pban y bu hi farw, ni ddilewyd ei ddelw o'i fryd, ac ni thynwyd ei hargraff byth oddi ar ei galon. Parhaodd ei gyd- nabyddiaeth a hi am ugain mlynedd ; ond dywedir fod ymserch Petrarc a Laura o natur gwbl rinweddol. Canodd Petrarc luaws mawr o ganigion er clod a moliant iddi; a phan hunodd yn yr angeu, y gorchwyl cyntaf a wnaeth efe oedd cyfansoddi ei marwnad, a marwnad gwerth yr enw ydyw. Yn y cyffelyb fodd, gwnaeth Dâfydd ab Gwilym ddim llai, >*'' " Saith gywydd i Forfydd fain, Seth hoyw-gorff, o saith ugain." Megys y gnroesodd Petrarc ei Laura, felly hefyd y goroesodd Da- fydd ab Gwilym ei Forfydd. Gwedi colli o honynt ddymuniant eu llygaid, dinasodd y ddau ar y byd; nid oedd ynddo ddim ond gwagder a dyeithrwch bellach iddynt hwy; a phrin y teimlent mwy- ach eu bod mewn un modd yn ymglymedig ag ef. Y mae Petrarc yn ei hen ddyddiau yn ysgrifenu fel hyn at ei gyfeillion:—"Yr wyf yn bwrw y rhan fwyaf o'r flwyddyn yn y wlad: yr wyf yn darllen, yr wyf yn myfyrio, yr wyf yn ysgrifenu. Dyma fy modoliaeth megys yn nyddiau fy ieuenctyd gynt. Y mae yn syn iawn genyf ddarfoddi.mi fyfyrio cyhyd, a dysgu mor ychydig. Nid wyf yn casäu neb, nac yn cenfigenu wrth neb. Ym more fy oes, amser ilawn o ryfyg a chyfelliorni, yr oeddwn yn.-dirmygu pawb ond fy hunan; mewn oedran addfetach, dirmygwn fy hun yn unig; yn íÿ henaint, yr wyf yn dirmygu braidd bawb, a myfi. fy hun yn fwy na neb. Modd na chelwyf ddim oddi wrthych chwi, yr wyf wedi cael gwahoddiadau ar wahoddiadau odui wrfch y Pab, oddi wrth frenin Ffrainc, ac oddi wrth yr Ymherawdwr ; ond mi a'u gwrth- odais hwynt oll; gan fod yn well genyf ryddid na dim arall.5* Dyma fel y mae Petrarc Cymru yntau, yn ei ddyddiau blin a'i fìynyddoedd annyddan, yu ymiachau a'r byd, pan ar fin difìanu oddi ar chwareufwrdd amser :— " Galar ar ol mabolaeth Y sydd i*m gwanu fal saeth! Gwae-fyd yw 'mywyd i mi; Galwaf am nerth ar Geli! Darfu'r ienenctyd dirfawr, 0 dewr fu 'nydc!, darfu'n awr! Darfu'r pen a'r ymenydd; Dial serch i'm dal y sydd; Bwriwyd awen o'm gehau,—<■ Bu hir â chân i'm bywhau! Mae Ifor a'm gynghorawdd, Mae Nest oedd unwaith i'm nawcld; Mae dan wŷdd Morfydd fy myd;— Gorwedd ynt oll mewn gweryd! A minnau'n drwm i'm heinioes, ' Dan oer lwyth, yn dwyn hir loes! Ni chanaf gerdd na'i chynnyg 1 goed, mwy na chwyn agw^^g: Ni ddoraf, yng ngwj'dd eirian, Na chog nacEos â chân; Na chusan merch a serchais, Bun wâr; na'i llafar, na'i Uais ! Mae gwaew i'm pen o'm henaint! Mwy nid sereh hardd-ferch yw'r haint! Aeth cariad â'm llad o'm llaw, A ^ofid yw ei gofiaw! Usyn wyf, ae eisiaw nerth, Ae angenyn ogyngherth: Y Bedd sydd i mi ar bar, A diwedd oes, à daiar! Crist fo'm porth a'm cynnorthwy, Amen! ac nid achos mwy!" Yn 1615, yr oedd bachgenyn pum-mlwỳdd oed, a anesid ym Mhlwyf Llanfachreth, Sir Feirionydd, yn medru canu telyn yng ngynganeddol gywir dnnau, ym marn pob telyiitwr a'r a'i clybu ef; ac os byddaí dant allan o'i gywer, efe a'i gwyddai, ac a barai ei droi i'w gywer ei hun: nis galìai ei droi ei hunan can eiddiled ei law bach. Tiwniech y gaim; a fynech, yntau a'i canai hi. Ac yr oedd ef yn myned ar fraieh ei dad, am nas galiai gerdded o ran ei oedran: yr oedd yn myned i Sessiynau Gwynedd, ac i Siroedd ereill hefyd. 0 Hjen Ltfb.