sas Rhif 4.] TREMADOG: DYDD GWENER, GORPHENAF 16, 1858. [Pius 2g. POBL HyNOD. Y mae enwogion pob oes wedi bod, i raddau mwy neu lai, yn bobl hynod; ac y mae hurthgenod wedi toeddwl mai yn eu nwythas ne'u hynodrwydd y mae eu henwogrwydd yn gynnwysedig ; heb ystyried nad yw pob dyn nwythig yn ddyn mawr, er bod pob dyn mawr yn ddyn hynod. Ni a gofnodwn yma ychydig grybwyllion am nwyth ac odrwydd rhai o enwogion a nodedigîon byd. Nid ymgadwn at ùn drefn o ran ainser, na gwlad, na chenedl; ac nis gwnawn unrhyw ddosbaith gyda golwg ar y nwythau chwaith. Rhyw fath o " ystên Sioned," gan hyny, a fydd ein hysgrif; a hyny yr amcanwn iddi fod. Dywedir fod Homer raor gas ganddo beroriaeth naturiol, fel na cheid ganddo un amser rodio ar hyd glenydd afonig sisellog neu ffrwd yn goddyar. Ânhawdd credu hyn am awdur yr Iliad a'r Odí/sseia. Mynegir hefyd ei fod yn ddall, ac yn arfer canu ei gerddi, yn debyg fel y gwnelai yr hen Glerwyr ym mhlith y Cymry yn yr oesoedd gynt. " Thamiris ddall, a dall Maeonides." Yr oedd Virgil mor hoff o halen, fel mai anfynych un amser y byddai heb fiychaid o hono yn ei logelL Arferai ei gymmeryd o bryd i bryd, ỳn gyffelyb i'r modd y gwelir pobl y dydd heddyw yn arfer ffwgws. 0 ran hyny, yr oedd arfer Bardd Mantua yn fwy rhesymol näg arfer gwŷr y ffwgws a'r trewlwch yn ein hoes ni. Y mae halen yn beth peraidd a hyfryd wrth y pethau adgas a gwe- nwynig hyn. Soroaster, er ei fod yn un o athronyddion penaf yr oesoedd, ni fedrai bob amser gadw tymmer athronydd yn ei feddiant. Hawdd iawn, meddir, oedd ei yru i natur ddrwg; ac adroddir iddo unwaith dori bwrdd mynor yn dipiau mân â mor hwyl, o Megid iddo ef ddygwydd taro yn ei erbyn yn y tywyll. Os nad oedd y brofedig- aeth yn gref, yr oedd yn un galed. Mae'r chwedl am Aesop yn ddigon hysbys, ond bernir mai chwedl wag ydyw, ei fod yn hagr tu hwnt i ddysgrifìad, er bod ei synwyr a'i arabedd yn tynu sylw pawb. Caethwas ydoedd ef ar y cyntaf, ac y mae enwau tri o'i feistriaid eto ar gadw. Nis gwyddys pa le y ganed ef, mwy nag y gwyddys pa íe y ganed Homer. Yr oedd yn gyfoed â Solon a Pisistratus, ac felly rhaid ei fod yn byw tua chanol y chweched canrif cyn Cred. Y mae Chwedlf.u Aesop, neu o leiaí, Chwedlau a dadogir ì Aesop. yn hysbys ddigonvgan*eu bod wedi eu cyfieithu i'r rhan fwyaf o ieithoedd Ewrop. Troes Nicander amryw o honynt ar fesur cerdd yn Gymraeg gyda med- rusrwydd anarferol. Diogenes sarig a berthynai i'r blaid o athronyddion a elwid y Cynigiaid. Rhyw fath o Iolo Morganwg Groegaidd ydoedd. Nid oedd dim ond gwawd a chellwair du a ddeuai alkn o'i eneu. Pan y ffodd i Athen, aeth i wrandaw yr Athrouydd Antisthenes yno, yr hwn a'i cilgwthiodd ef yn sarhäus, yn ol ei arfer, ac a fygythiocld ar ryw amgylchiad, ei daro: " Taro di fi," ebe Diogenes, " Ni cheí di byth bren yn ddigon caled i'm gyru i oddi wrthyt, tra y ìlefarot, yr hyn a ystyriaf fi yn werth ei glywed." Boddaodd yr ateb hwn yr athronydd craseiriog i'r fath raddau fel y derbyniodd Diogenes yn llawen ym mhlith ei ddysgyblion. Ni ofalai Diogenes am gysuron personol, nac ymddangosiad allanol. Ynhyn ymdebygai i Dic Aber- daron. Ymwisgai â gwisg arw, yrhon a wasanaethai iddo yn Ue mantelî y dydd, ac yn lle huling y nos; a chariai gydag ef gwd i dderbyn cardod- au o ymborth. Arferai fyw mewn twba, yn Nheml Cybele, ac o'r twba ni ddeuai allan er neb, ond pan fyddai hyny yn taro ei archwaeth ef ei hun. Yn yr haf arferai ymdreiglo yn y tywod chwilboeth, ac yn y gauaf ymlynai wrth y delwau eiryog yn yr heolydd, er mwyn ymgynnefio â phob math o dywydd. Pan geisiodd Alecsander Fawr ganddo ofyn iddo ef am beth bynag a ddymunai, " Paid a sefyll rhyngof fi a'r haul," oedd holl ateb a hollgais yr athronydd. Tarawodd gwreiddioldeb y fath ateb Alecsander i'r fath raddau, fel y dywedir iddo wáeddi.—"Pe na buaswn yn Alecsander, yn Ddiogenes y dymunaswn fod." Bu ef ac Alecsander Fawr farw .tua'r un flwyddyn, sef 323 cyn Cred. Yr oedd ymroddian y bardd Italîg Dante i'w fyfyrion Henyddol yn nodedig dros ben. Y mae un hen awdur yn crybwyll am dano ddarfod iddo ryw dro fyned i dy llyfrwerthwr, ac o un o ffenestri y ty hwn yr oedd i fod yn edrychwr ar ryw ddangosfa gyhoeddus fawreddog, ag oedd yn cymmeryd Ue mewn petryal agored is law iddo. Dygv/yddodd ár ddamwain gymmeryd llyfr yn ei law ; a phan ddechreuodd ddarllen, tynodd y ìlyfr ei sjlw mor Ilẃyr, fel, wrth ddychwelyd adref, wedi myned o'r olygfa drosodd, y dywedodd y bardd yn ddifrifol nad oedd efe wedi gweled na chlywed dim yn y byd o'r hyn a gymmerasai le yn ei ymyì, ac o flaen ei Iygaid. Arferai Cleanthes, yr athronydd Stoicaidd, drin ei ardd yn y nos, fel y galîasai gael amser i fyfyrio yn y dydd.