Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DeongltDtt. Cyf. VI.] RHAGFYR, 1908. [Rhip 12. Nodiadau Misol. YR ydym wedi darllen yn fanwl y ddwy gyfrol gyntaf o " Gofìant Charles o'r Bala," gan y Parch. D. E. Jenkins, Dinbych. Gyda y parodrwydd mwyaf, addefwn y ceir yma ffrwyth llawer o lafur, nad yw yr awdwr wedi arbed na thraul na thrafferth yn ei ymchwiliadan, a'i fod wedi dyfod o hyd i liaws o ffeithiau nad oeddent o'r blaen yn gyffredinol wybyddus. Hyder- wn y caiff nid yn unig ei ad-dalu ond ei wobrwyo am y boen a gymerodd. Ar yr un pryd, ein barn onest yw fod Cofìant Mr. Charles heb gael ei ysgrifennu eto. Anurddir y gwaith ger ein bron gan liaws o feiau sydd yn lleihau ei werth yn ddirfawr. Yn un peth rhed tôn o anffaeledigrwydd drwyddo hollol annheilwng o hanesydd gofalus. Pan yn tybio ei fod wedi darganfod yr haneswyr blaenorol yn cyfeiliorni, nid digon ganddo bwyntio allan y camgymeriad a'i gywiro, ond rhaid iddo gael ffonodio yn ddidrugaredd y rhai ddarfu lithro i'r fath gamsyniad. Ac eto, yn bur fynych, yr hyn a eilwT ef yn gywiriadau sydd yn gyfeiliornus, a'r haneswyr a gondemnir ganddo sydd yn eu lle. Peth arall, ceir yn y Cofiant doraeth o fater hollol ammherthynasol; o fewn Cofiant Mr. Charles y mae llu o gofiannau ereill, nad ydynt o nemawr ddyddordeb, ond a chwyddant y llyfr i faintioli dirfawr. I'n tyb ni, trosedd ar chwaeth dda oedd dwyn i mewn ddegau o lythyrau carwriaeth Mr. Charles, y rhai a fwriedid i fod yn gys- egredig, ac i gael eu darllen yn unig gan un ; a thu hwnt i bob dadl, y mae yn beth newydd mewn Cofiant. Nis gallwn weled fod yr awdwr, er yr holl drafferth agymer, wedi llwyddo i brofì mai yn Llangeitho y clywodd Mr. Charles bregeth ryfedd Daniel Rowland, yr hon a brofodd yn dro-bwynt ei fywyd. Nid yw yr hyn a ddygir yn mlaen fel profìon ond tybiaethau hoilol ddisail. Nid oes hanes am neb yn ga\vr yr addoldy Methodistaidd, a adeiladwyd yn y pentref i Rowland, yn