Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DeongltDtf* Cyf. VI.] TACHWEDD, 1908. [Rhif 11. Nodiadau Misol. UN o'r cyfrolau mwyaf dyddorol a ddaeth i'm llaw er's amser yw eiddo y Parch. John Evans, Abermeurig, ar " Hanes Pedwar-ar-bymtheg o Weinidogion Ymadawedig Sir Aber- teifi." Yr oeddem yn adwaen yr oll o'r pedwar-ar-bymtheg, ac ar delerau tra chyfeillgar â rhai o honynt ; felly, yr ydym mewn sefyllfa i allu tystio i gywirdeb yr hanes. Atnrywiai y rhai hyn yn fawr parthed gallu meddyliol a safle yn y weinidogaeth. Gellir dyweyd am rai o honynt eu bod yn oleuadau mawrion ac yn llewyrchu yn ddisglaer, tra yr oedd eraill a'u goleuadau yn fwy pŵl. Ond perthyn dyddordeb i ddarlun pob un. Medd y Parch. John Evans holl anhebgorion hanesydd. Perchenoga lawer o allu i holi a dyfalu a chwilota, nodi allan y naill adrodd- iad a'r llall er cael allan pa un yw y gwir, ac nid yn aml y ceir neb â mwy o fedr i ddarllen cymeriad. Uwchlaw pob dim y mae yn ffyddlawn i'r gwirionedd. Na, wedi gwlychu ei ysgrifell mewn tiriondeb, ac yn ysgrifenu mewn ysbryd hollol garedig, nid yw heb awgrymu weithiau y diffygion bortreadir ganddo, fel nad yw ei ddarJuniau mewn un modd yn rhai unochrog. Perygl hanesydd yw bod yn oiiym neu ynte gyfansoddi molawd. Ceidw Mr. Evans ar y canol, trwy wneyd chwareu teg â rhinweddau cymeriad, ac eto peidio gorfoli. Yr oedd eisieu cryn ddewrder i ddyweyd am weinidog adnabyddus mai ei brif nodwedd oedd " Y meddwl mawr oedd ganddo am dano ei hun ac o'i bethau ;" ac i awgrymu am weinidog arall, gŵr o safle uchel yn y Cyfundeb, ei fod wedi dal ei afael yn y fugeiliaeth yn rhy hir. Ac eto y mae Mr. Evans yn llygad ei le yn y naill sylw a'r llall. * # Cawsom ni bleser dirfawr wrth ddarllen y desgrifiad o'r Parch. John Jones, Ceinewydd. Y mae yn ammheus genym a gynyrchodd Sir Aberteifi weinidog o alluoedd naturiol mwy dis- glaer. Ar gychwyn ei yrfa fel pregethwr, adwaenid ef fel John