Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DeongltDtt. Cyf. VI.] HYDREF, 1908. [Rhif 10. Nodiadau Misol. YN y byd crefyddol, un o brif ddigwyddiadau y mis diweddaf oedd y Gynhadledd Babaidd a gynhaliwyd yn Llundain. Amcan y gynhadledd oedd gosod arbenigrwydd ar yr atbrawiaeth a gredir yn ddiamheu ym mysg y Pabyddion parthed presenoldeb corphorol yr Arglwydd Iesu yn y sacrament, a bod yr elfenau yn rhinwedd cysegriad yr offeiriad yn troi yn wir gorph ac yn wir waed Iesu Grist. Diau i'r gynhadledd gael ei chynal yn Llundain er dylanwadu ar drigolion y wlad hon, a'i bod yn rhan o'r cynllun i geisio dwýn Prydain dan iau y Pab. Daeth miloedd ynghyd o gardinaliaid, archesgobion, ac esgobion o bob rhan o'r ddaear, gan gynwys America a Chanada, yn ogystal a gwledydd Ewrob. Anhawdd peidio cymharu y rhai hyn, yn eu syched am ogoniant daearol, a chyda eu gwisgoedd costus a'u sidanau amryliw, â'r addfwyn Iesu y proffesant fod yn ganlynwyr iddo, ac am yr hwn y dywedir, " Ni waedda, ni ddyrchafa, ac ni phair giywed ei lef yn yr heol." Ym mha beth bynag y canlyn- ant Grist ni wnant hyny yn ei ostyngeiddrwydd. Buasai y gynhadledd wedi pasio yn bur ddi-sôn am dani oni- bae am benderfyniad y Pabyddion i orymdeithio trwy heolydd Llundain, gan gario gyda hwynt yr elfenau cysegredig, er mwyn i'r bobl y pasient trwyddynt eu haddoli. Ymddengys y byddai hyn yn drosedd pendant ar gyfraith y wlad. Dywedir, hefyd, na oddefìd y cyfryw beth yn un o brif ddinasoedd Ewrob, hyd yn oed yn Rhufain ei hun. Ond daethai arweinwyr y gynhadledd i ddealltwriaeth â'r heddgeidwaid na chai y gyfraith eu gosod mewn grym. Modd bynag, cynhyrfodd y Gymdeithas Brotestanaidd, yn enwedig John Kensit a'i ddisgybìion, a llwyddasant i ddeffro teimlad gwrthwynebol cryf ; a diau pe y cawsai hyn ei wneyd y buasai terfysg yn cymmeryd lle. Nid ydym ni mewn cydym- deimlad â'r gwrthwynebiad a ddangoswyd. Yr ydym am i'r Pabyddion gael mwynhau pob rhyddid ag a feddiannwn ni ein