Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DeongltDiî* Cyf. VI.] MEHEFIN, 1908. [Rhif 6. Nodiadau Misol. AR lawer cyfrif, un o'r cyfundebau crefyddol mwyaf dyddorol yw y Crynwyr. Buont unwaith yn nodedig o liosog yn y wlad ; adeg teyrnasiad William a Mari rhifent dros drigain mil o aelodau, ac edrychid arnynt fel yn cynwys llawn hanner Ymneillduwyr y deyrnas. Ceid llawer o honynt yng Nghymru, yn enwedig yng nghymydogaethau Dolgellau yn y Gogledd, a Llanddewi Brefi yn y De. Ond tua hanner olaf y ddeunawfed ganrif a dechreu y bedwaredd-ar-bymtheg, gwanhau a wnaethant, a lleihau mewn rhif, fel mai tuag ugain mil y cyfrifir eu cyfan- swm ym Mhrydain, ac nid yw eu holl aelodau yng Nghymru ond tua dau cant. Ym mysg y rhai hyny nid oes yr un gynulleidfa Öymreig ; ond ceir cymdeithasau bychain Seisnig yn nhrefydd Caerdydd, Castellnedd ac Abertawe, ac yn rhai o ardaloedd Maes- yfed. Fel rheswm dros eu lleihad, cyfeiriai tyst ger bron Com- misiwn yr Eglwys at y gorthrwm a ddioddefasant. A rhaid addef iddynt am dymhor gael eu camdrin yn enbyd yn y wlad hon, cawsant eu dirwyo, eu carcharu a'u hysbeilio o'u meddian- nau, fel yr ymfudodd miloedd o honynt i'r Unol Dalaethau, gan ymsefydiu yn benaf yn nhalaeth Pennsylfania. Ond prin y gallwn edrych ar y gorthrwm fel rheswm digonol pahamy darfu iddynt wanychu. Fel rheol, enill nerth a wna cyfundeb tan erledigaeth. " Gwaed y merthyron fu yn had i'r eglwys." Rhaid priodoli y lleihad yn benat i'r pwys a roddent ar bethau byehain, i'w dysgyblaeth lem, i'w gwaith yn gorfodi eu haelodau i wisgo mewn arddull penodol, ac i'w neillduad oddi wrth y teimlad crefyddol cyffredin. * • Ar yr un pryd, yr ydym yn cael yn y blynyddoedd diweddaf arwyddion amlwg o adfywiad yn eu mysg. Y maent wedi cyn- yddu o ran rhifedi, ac wedi lliosogi o ran eu cynulleidfaoedd. Ceir dros saith mil o bobl mewn oed nad ydynt yn aelodau pro-