Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Deongltoiî. Cyf. VI.] IONAWR, 1908. [Rhif 1. Nodiadau Misol. YR oeddem wedi addaw i ni ein hunain na wnaem sylw mwy oV Parch. R. J. Campbell a'i dduwinyddiaeth, ond y mae ei gyf undraeth, os cyfundraeth hefyd, yn ymddadblygu mewn cyfeiriadau mor hynod, ac y mae yntau yn chwareu ystranciau mor rhyfedd ger bron y cyhoedd, fel ag i'w gwneud yn amhosibl i atal beirniadaeth. Yn ddiweddar, y mae wedi myned i gredu fod pawb a ddaliant olygiadau gwrthwynebol i'r eiddo ef yn euog o anonestrwydd. Taera yn hyf am doraeth y gweinidogion a bregethant yr efengyl a ystyrir yn uniongred eu bod yn euog o ragrith, a'u bod yn pechu yn erbyn eu gwir argyhoeddiadau. Pa hawl sydd ganddo ì daeru byn ? Ai nid dyma yr efengyl a bre- gethai ef ei hunan yn Brighton ? ac ai nid ar sail cred yn ei union- grededd y cafodd alwad i'r City Ternple ? Os nad oedd ef yn rhagrithio y pryd hwnw, pahatn y cred fod ei frodyr a barhantyn yr un ffydd yn rhagrithio yn awr ? Ond os mai rhagrith oedd ei weinidogaeth yr adeg yr ydym yn cyfeirio ati, adgofiwn ef o'r hen ddiareb, fod yn rhaid cael genau glân i oganu. Daw y wasg grefyddol hefyd o dan ei fflangell. Yn ol ei farn ef, y mae yn bob peth sydd yn isel, a gwael, a diegwyddor. Tybed am y dyn sydd yn gweled y byd i gyd o chwith nad yw yn brydiddo fyned i chwilio ai nid oes rhywbeth allan o le yn ei lygad ? Ac y mae y fath anghysondeb yn ei syniadau fel y tybiwn weithiau nad y w yn eu meddwl cyn eu traethu, ond ei fod yn cael ei gario i ffwrdd gan ryw ddylifìant geiriau sydd yn perthyn iddo. Mewn pregeth o'i eiddo ar Dlodi yr Iesu, a gyhoeddwyd yn y CommonweaUh, ceir meddylddrychau hynod o amrwd. Ebai, " Meddyliwch am dano (am yr Iesu) fel dyn, a chofiwch pan yr wyf yn dywedyd hyn nad wyf yn cyffesu nac yn gwadu ei ystad oruwchnaturiol." Tÿbed, mewn difrif, nad \w wedi gwneud ei feddwl i fyny ar hyn, sef a ydyw yr Iesu yn rhywbeth mwy na dyn ? Os nad ydyw, eynghorem ef i fyned i fyfyrio a chwilio, a setlo ei feddwl ei hun ar y pwnc oll-bwysig hwn ym mlaenaf, cyn anturio i'r pwlpud i ddysgu ereill. Peth anghyson iawn yw