Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Deongliptf* Cyf. V.] RHAGFYR, 1907. [Rhif 12. GOLYGYDDOL. DDECHREU y mis diweddaf daeth Archesgob Caergaint i lawr i Gasnewydd, er cyífroi meddwl puraidd yr Eglwyswyr yn esboba^th Llandaf, a'u hannog i haelionni mwy, er cyfarfod âg anghenion crefyddol y rhan hon o'r wlad. Cafodd ei Ras dderbyniad tywysogaidd. O'i gwmpas ar y platfform ceid arglwyddi, barwniaid, marchogion, a chyfoethogion íychain a mawrion. Wrth ddarllen yr enwau daeth y syniad i'n meddwl, pe bae y pandefìgion hyn yn gosod eu dwylaw yn eu llogellau ac yn cyfrannu at yr achos fel y cawsent eu llwyddo gan Dduw, y cyrhaeddid yr amcan yn llawn, heb apeìio at y werin boblogwbl. Nis gwyddom pa fath araeth a ddisgwyliai yr Eglwyswyr, ond yr hyn gawsant oedd molawd i'r Ymneillduwyr. Daliai ei Ras hwynt ger bron, yn eu haelioni crefyddol, ac yn eu haberth er cyfarfod âg angenion ysbrydol y boblogaeth, fel esiampl i'r Eglwyswyr ei hefelychu. Gwarchod pawb ! A ydyw yr Arch- esgob am fendithio Anghydffurhaeth ? Pe felly, byddai ei ym- ddygiad yn waeth nag eiddo Balaam yn bendithio Israel, ar ol cael ei gyflogi gan Balac i'w melldithio. Credwn fod clustiau rhai o'r clerigwyr yn merwino wrth wrando ar ei Ras o Gaergaint. # # Ond yr ydym yn rhwym o draddodi dedfryd o gondemniad ar un o frawddegau yr Arehesgob, sef nas gallai ef na'rgynulleidfa gymeradwyo y moddion a ddefnyddiai yr Ymneillduwyr i gasglu arian. Nis gwyddom paham y llefarodd y fath eiriau, os nad oedd yn teimlo fod y bilsen a roddasai i'r gynulieidfa yn un dra chwerw, a'i fod am ei chuddio a rhyw gymaint o siwgr. Yr ydym yn gydnabyddus a Chymru oll, ac nid ydym wedi darganfod Ymneillduwyr yn defnyddio moddion anheilwng. O'n rhan ni, nid ydym yn hoffì cyfarfodydd tê, darlithiau, a chyngherddau er cael arian at grefydd ; gwell gennym gyfraniadau uniongyrchol ; ond yn sicr nid oes dim anheilwng yn y pethau ydym wedi nodi. Defnyddia yr Eglwyswyr bethau llawer mwy amheus. Cìywsom am eglwys yn ddiweddar lle y telir cyfìog y clerigwr, ac y cedwir yr achos ynddi, yn bennaf trwy yr elw a wneir o gyfarfodydd