Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Deonglu>n* Cyf. V.] TACHWEDD, 1907. [Rhif 11. GOLYGYDDOL. DAETH i'n rhan i yinddangos unwaith drachefn ger bron Comisiwn yr Eglwys yn Llundain. Cyrhaeddasom yno yn union gwedi brwydr, a gwelem olion yr ystorm ar ein mynediad i'r ystafell. Mynnai y Cadeirydd oedi tystiolaeth Mr. John Owens, Caer, hyd gwedi i'r gwahanol siroedd roddi eu tystiolaethau. Ei ddadl ydoedd nad dros ei Gyfundeb yr oedd Mr. Owens yn ymddangos. Ymgynhorodd y tystion Methodist- aidd â'u gilydd, teimlent mai anheg gofyn iddynt gyfìwyno eu hachos oni chaent wneud hynny yn ei gyfanrwydd, adywedisant wrth y Cadeirydd y rhaid iddynt wrthod rhoddi tystiolaeth nes ymgrynhori â'a pobl. Dygodd hyn ef at ei bawl, a chafodd Mr. Owens roddi ei dystiolaeth. Ond nid oedd hosibl darbwyllo y Cadeirydd nad tyst y Pwyllgor Ganolog ydoedd, er y gwadai Mr. Owens hynny yn y rnodd mwŷaf pendant. Ond rhoes Mr. Owens dystiolaeth odidog, yr oedd yn drech na'r Archddiacon a'r Cadeirydd ynghyd, a bu dan arholiad am ddau ddiwrnod a hanner. * * Y mae yn amlwg fod yr adroddiad a wnaed gan gynrychiol- wyr y Methodistiaid parthed y gwaith a wneir gan y Cyfundeb yng Nghymru wedi gadael dylanwad dwys ar y Comisiwn. Bu raid i'r Archddiacon Evans ganmol ein hymdrechion yn gy- hoeddus. Dygodd dystiolaeth hefyd i lwyddiant ein cenhadaeth ar Fryniau Cassia. Yr oedd eglurhad y Parch. John Owen Thomas, M.A., ar ein nodweddion fel Cyfundeb, y modd yr ydym yn addysgu ein pregethwyr, yn derbyn aelodau, ac yn gweinyddu dysgyblaeth, yn rhagorol iawn. Felly hefyd papyr y Parch. R. J. Rees, M.A., ar yr Ysgol Sabothol. Gwedi iddo ddangos cynllnn y safonau a'r gwahanol arholiadau, dywedai yr Arch- ddiacon fod trefniant godidog o arholiadau gennym. Ond ceisiai wneud allan fod yr arholiadau hyn i raddau yn anfanteisiol i ysbryd crefydd. A fu erioed y fath ffiloreg ? Nid yw yr arholiad ond prawf ar wybodaeth, a syniad rhyfedd ydyw fod gwybodaeth Feiblaidd yn anfanteisiol i grefydd. Y mae yn berthynasagos i'r dywediad Pabaidd, " Mai mamaeth duwioldeb yw anwybodaeih."