Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DeongliDit. Cyf. V.] HYDREF, 1907. [Rhif 10. GOLYGYDDOL. DRWG gennym weled ddarfod i Undeb y Bedyddwyr Cymreig, yn eu cyfarfodydd blynyddol yn Llanelli, basio penderfyn- iad o blaid troi y Beibl allan o'r Ysgolion dyddiol. Dywedai eilydd y penderfyniad mai dyna farn y Bedyddwyr o'r cychwyn. Efallai mai dyna farn y mwyafrif, ond nid dyna farn pawb o honynt ; ac, hyd yr ydym yn cofio, dyna y tro cyntaf i benderfyniad o'r fath gael ei basio yn e\\ Hundeb. Yr oedd y Parch. Ẅ. Morris. Treorchi, yn Llanelli. Arferai ef fod yn gryf o blaid y Beibl, a bu iddo ran ílaenllaw yn ei ddygiad i mewn i ysgolion dyddiol Cwm Rhondda. Tybed ei fod wedi newid ei farn ? Neu, ynte, a ddeallodd fod y galluoedd gwrthwynebol yn rhy gryfion iddo godi ei lef yn eu herbyn ? Os cau y Beibl allan, rhaid er cysondeb rhesymegyddol gau allan bob llyfr y byddo naws y Beibl arno. Yno nis gellir gofyn i'r ysgolheigion ddysgu darnau o Goll Gwynfa Milton, rhaid cau Shakespeare allan yn yr oerni ; ond gadewir i lyfrau anffyddwyr, megys Tyndall a Herbert Spencer, gael drws agored. Nis geill ein teyrngarwch ni i Grist, na'n syniad am foesoldeb, ddygymod â'r fath beth. * # Heblaw ein bod yn edrych ar orfodi addysg y plant i fod yn secularaidd yn gamwri,acyn taroyn erbynmoesoldeb a chrefydd, credwn ei fod yn gamsyniol o ran ijolicy. Medd y rhieni dros y wlad barch i'r Beibl. Os nad ydynt, lawer o honynt, yn ei werth- fawrogi fel y dylent eu hunain, y maent yn awyddusami'wplant gael eu hyfforddi yn ei egwyddorion. Y mae hyn yn wir hyd yn nod am y rhieni hynny a gyfrifant eu hunain yn inffìdeliaid ; anaml y bydd yr un o honynt yn anfon i warafu addysg Feiblaidd i'w plant. Yn nyfnderoedd eu calon teimlant mai y Beibl ydyw brenhin y llyfrau, ac mai mantais i'w plant fyddai cael eu trwytho yn ei addysg. Yn awr, gan mai hyn yw y teimlad cyffredinol, canlyniad troi y Beibl allan o'r ysgolion anenwadol fyddai anfon y plant yn llu i'r ysgolion eglwysig. Manteisiai enwadaeth yn ddirfawr ar ein ffolineb. Byddai yn well gan liaws o Fethodistiaid anfon eu plant i'r ysgolion yn y rhai y dysgir catecism Eglwys Loegr, nag iddynt fyned i ysgolion lle y bydd yr awyrgylch yn ddigrefydd, os nad yn anffyddol.