Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Deongliütt. Cyf. V.] MAI, 1907. [Rhif 5. GOLYGYDDOL. YN sicr, y mae yn llawn bryd i'r Parch. R. J. Canipbell a'r Dduwin- yddiaeth Newydd gael llonydd; ac yr ydymyn addaw i'n darllen- wyr oni chyfyd rbyw reswm nas gwyddom ynawr am dano ein bod y tro hwn yn ysgrifennu y llinell olaf ar y mater yn Y Deonglwr. Rhaid i ni ym mlaenaf oll brotestio yn gryf ya erbyn y dull anheg a •chamarweiniol y defnyddir termau duwinyddol ganddo ef a'i bleidwyr. Gellid meddwl, wrth y geiriau a ddefuyddiant, eu bod yn rhodio canol ffordd Uniongrededd; ond erbyn nianylu gwelwn eu bod yn rhoddii'r geir- iau ystyr newydd a chroes. Y maent yn cadw plisgyn y gwinoendd, ond y mae y cnewyllyn wedi ei golli. Er engrhaifft, cyfeiria Mr. Campbell yn ei bregethau at Iesu Grist fel Duw. Trosodd a throsodd dywed fod yr Iesu yn Dduw. Gallai y gwrandawr arwynebol ofyn, " Betb ych- waneg sydd arnoch eisiau': Y mae can belled oddiwrth Undodiaeth ag yw y dwyrain oddiwrth y gorllewin." Ond erbyn manylu gwelwn ei fod yn rhoddi i'r gair Duw ystyr newydd. Dywed fod pob dyn yn Dduw. Yr ydym oll yn ddwyfol fel yr lesu ; nid ydym efallai wedi tyfu mor dàl ag efe, nid yw y dwyfol ynoai wedi cyrhaedd cymaint per- ffeithrw}7dd, ond yr ydym bob un o howun yn perthyn i'r un dosparth a Iesu Grist. Nid yw y gwahaniaeth rhyngom ond gwahaniaeth graddau. Nid gonestrwydd yw peth fel hyn. * * Yr un fath gyda golwg ar yr Iawn. Cyfeiria Mr. Campbell yn fynych yn ei bregethau at Iawn Crist, a gwna hynny gyda'r fath barcli- usrwydd, a chyda y fatli bwyslais fel y gellid meddwl mai Iawn y Testament Newydd sydd ganddo, Iawn Archoffeiriad y cyfamod neAvydcl. yr hwn a aeth i mewn i'r cysegr yn ei waed ei hun, gan gael i ni dragwyddol ryddhad. Ond erbyn syllu gwelwn nad yw iawn Mr. Campbell ond edlych, nid yw namyn cysgod y gwir beth, yr ydym ni yn gwneud iawn cyfí'elyb bob dydd o'n bywyd. Yn ol y Dduwinyddiaeth Newydd nid oedd a fynnai yr Iawn à gorsedd Duw, dj^chymyg bardd- onol camarweiniol yw y syniad am farwolaeth Crist yn boddloni cyf- iawnder; pan f}'ddo dyn yn edifarhau am ei ddrwg, ac yn gwneud rhywbeth tuag at ddyrchafu cymdeitìias, dyna iawn o'r un natm' ag a wnaed gan yr Iesu. I'n bryd ni y mae y dull hwn o wthio damcan- iaethau ar y wlad yn hollol anheilwng. Os yw Mr. Campbell wedi gwneud darganfyddiadau mewn duwinyddiaeth, os oes gwirionedd yn ei ddysgeidiaeth, ar bob cyfrif dylai gyílwyno y cyfryw dan eu henwau jpriodol, ac yn y dillad sydd yn gweddu iddynt. Ỳr ydym yn wastad yn