Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DeongltDît. Cyf. V.] CHWEFROR, 1907. [Rhif 2. GOLYGYDDOL. PARHEIR i ysgrifennu am y genedl Gymreig, weithiau i'w beirniadu yn llym a phryd arall i'w chanmol hyd y sêr, gan bersonau nas gwyddant ond y nesaf peth i ddim yn ei chylch. Yr engrhaifft ddiweddaf a ddaeth dan ein sylw ydyw erthygl yn y Sunday School Ghronicle. Tybiwyd yr ysgrif hon o'r fath bwysigrwydd gan bapyrau dyddiol y Dywysogaeth fel y codasant hi i'w colofnau yn ei chrynswth, ac y gwnaethant sylwadau beirniadol seiliedig arni. Cychwyna yr awdwr trwy ein cyhuddo o fethu gwneud y defnydd priodol o'r Diwygiad ; tra y cynyrchwyd cryn lawer o ager, i hwnnw gael ei oddef i fyg- darthu i ddiflandod, heb gael ei droi i gyfeiriad gweithgarwch. O'i gymeryd yn y wedd gyilredinol yr ydym yn ofni fod gormod o wir yn y cyhuddiad. Cafwyd dau neu dri o Ddiwygiadau nerthol o fewn cylch yr oes bresennol; deífrowyd teimladau cryf- áon a phoethion ; ond nid ydym heb ofn iddynt ddianc mewn \anu a gorfoleddu, heb gael eu troi yn egni. Modd bynnag, pan y daw y cyhuddwr i ddesgrifio y ffurfiau ar waith y dylasem fod wedi ymroddi iddynt, y bradycha ei anwybodaeth. Dylasem, meddai, fod wedi parotoi moddion i gadw gafael ar yr ieuenctyd, rhwng pedair-ar-ddeg a deunaw oed, y rhai ydynt wedi myned yn rhy hen i'r Ysgol Sabothol. Pe y buasai wedi taro i mewn i un o Ysgolion Sul Cymru, hyd yn nod am dro, daethai i ddeall nad oes neb yn ein mysg yn ystyried ei hun yn rhy hen i'r Ysgol Sul; y ceir ynddi y llanc ieuanc nwyfus, y canol oed, ac hyd yn nod yr hen ẃr a'r hen wraig bedwar ugain. Sefydliad i blant ydyw Ysgol Sul y Saeson, ond sefydliad i bob oed ydyw yn ein mysg ni. Nid ydym ychwaith, medd ein cyhuddwr, wedi darpar cyfarfodydd darllen i'r dychwel- edigion. Ond yr oedd dosparthiadau darllen mewn bodolaeth yn ein gwlad eisioes ; o'r braidd yr ydym ym meddwl fod capel yn ein mysg lle na cheir dosparth Beiblaidd yn ystod yr wythnos, er hyfforddi athrawon, ac er gwthio yn fwy i'r dwfn nag y gellir gwneud ar brydnhawn Sul.