Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Deongltpt?. Cyf. V.] IONAWR, 1907. [Rhip 1. GOLYGYDDOL. UN o'r llyfrau mwyaf dyddorol a ddaeth dan ein sylw er's amser yw The Bihle in Wales, gan Mr. John Balìinger, Llyfrgellydd, Caerdydd. Ynddo cawn hanes eyfieithiad y Beibl i'r Gymraeg, ac hefyd hanes pob argraffiad o hono, neu o rannau o hono, o'r cychwyn hyd yn awr. Ynglyn â hyn rhoddir engrhaifft o wyneb-ddalen pob argraffiad. Y mae y llyfr yn waith celfydd ; ni arbedwyd traul er ei wneud yn deilwng, a dengys ôl ymchwiliad manwl a llafurus. Ymddengys mai yn y flwyddyn 1546 yr argraffwyd yr adran gyntaf o'r Beibl yn y Gymraeg ; ni chynwysài hwnnw ond Gweddi yr Arglwydd, y Deg Gorchymyn, a dwy neu dair o adnodau ; a dechreu eì deitl oedd, " Yn y Lhyvyr hwn." Cawsai hwn ei olygu a'i ddwyn allan gan Syr John Prys, o Frycheiniog. Ymhen pum' mlynedd, sef yn y flwyddyn 1551, trwy lafur gŵr nad ä ei enw byth yn anghof yng Nghymru—William Salesbnry, dygwyd allan adran lawer helaeth- ach, yn cynwys yr oll o'r Efengylau a'r Epistolau sydd i'w cael yn y Llyfr Gweddi Gyffredin. Gelwir hwn " Kynniver lith a ban." Bu raid i'r Dywysogaeth aros am un-mlynedd-ar-ddeg yn ychwanegol cyn derbyn yr oll o'r Testament Newydd, a thrwy William Salesbury ei caed y pryd hwnnw. Erbyn hyn, sef y flwyddyn 1567, yr oedd Mary Waedlyd wedi marw, ac Elizabeth yn teyrnasü yn ei lle. Pa feiau bynnag a berthynent i Elizabeth, ac nid oeddent mewn un modd yn ychydig, yr ydoedd yn Brotestant i'r carn. Nid anhebyg hefyd y teimlai naws y gwaed Cymreig yn ei gwythîennau, oblegyd yn y flwyddyn 1563, y bumed o'i theyrnasiad, rhoes orchymyn ar i'r holl Feibl gael ei gyfieithu i'r Gymraeg, o dan arolygiaeth esgobion y Dywysogaeth, ynghyd ag Esgob Henffordd. Gorchymynnodd ym mhellach ar i hyn gael ei wneud erbyn y dydd cyntaf o Fawrth, 1566, o dan ddirwy o ddeugain punt yr un oni ehaffai hyn ei gyflawni. * * Naill ai o herwydd anallu, neu ynte o herwydd difaterwch, troi y clust byddar at y gorchymyn wnaeth yr esgobion, ac aros- odd y ddeddf yn llythyren farw o'u rhan hwy. 0 herwydd hyn cafodd y Cymry eu gadael am bum-mlynedd-ar-hugain ychwan- egol heb gael yr oll o'r Beibl yn eu hiaith. Ond pan yn con-