Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DeongltDi*. Cyf. IV.] TACHWEDD, 1906. [Rhif 11. GOLYGYDDOL. DRWG gennym fod Mr. Owen M. Edwardsyn parhau i ddwrdio ac i gernodio y rhai a wrthwynebant gau y Beibl allan o'r ysgolion elfennol. Yn y rhifyn diweddaf o'r Gymru dywed fod y bobl dduwiolaf yr un ochr ag ef, ac fel prawf cyfeiria at anerchiad y Prifathraw Edwards, o Gaerdydd, allan o gadair Undeb Bedyddwyr Cymru. Hynny ydyw, y mae y bobl dduw- iolaf am gau ailan o'r ysgolion bob cyfeiriad at Dduw, a Christ, a chrefydd. Gyda phob dyledus barch yr ydym yn amheu cywirdeb y gosodiad. Yr ydym yn credu mai y dymuniad y w tad y drych- fecldwl. Gwir fod rhai pobl dduwiol yn tueddu at addysg secu- laraidd ; yn eu mysg, fel rhai nad oes amhenaeth gyda golwg ar eu duwioldeb, gellir rhestru Mr. 0. M. Edwards a'r Prifathraw Edwards. Ond y mae rhai llawn mor alluog a llawn mor dduwiol yn barnu fel arall. Gallwn gyfeirio fel esiampl at y diweddar Ddr. Lewis Edwards, gŵr llawn mor nodedig am ei dduwioldeb ag am ei allu fel duwinydd. Un o'r pethau diweddaf lefarwyd ganddo oedd crefu ar Gymru am beidio cau Gair Duw allan o'r ysgol. Cawn engrhaifft arall yn Dr. William Morris, Treorci, ar lawer cyfrif y pregethwr galluocaf a fedd y Bedyddwyr yng Nghymru, y mae yntau yn gryf am gadw y Beibl i mewn. Ac ar yr un ochr y mae cyfangorll' Methodistiaid y wlad, ac er nad ydynt yn rhydd oddiwrth ddiffygion, nid ydym ym meddwl fod pobl dduwiolach ar wyneb y ddaear. * # O'r braidd yr ydyrn yn tybio fod y rhai a waeddant am gau crefydd allan o'r ysgolion yn gweled i ba le y mae eu cyfundrefn yn arwain. Pe y caent hwy eu ffordd byddai yn rhaid gwarafun He yn yr ysgolion i'r farddoniaeth gyfoethocaf a mwyaf uchelryw, megys eiddo Miltwn, Shakespeare, Lougfellow, a Wordsworth. Ni oddefid gosod yn llaw plentyn lyfr gwyddonol yn cyfeirio at greadigaeth fel ffaith, oblegyd y mae creadigaeth o angenrheid- rwydd yn rhagdybio Creawdwr. Felly byddai rhaid tafiu gwaith Barwin dros y bwrdd, oblegyd deil ef ddarfod i elfennau cyntaf y bydysawd gaei eu creu. Pan yn dysgu moesoldeb i'r plant ni chai yr athraw gyfeirio at y Deg Gorchymyn. Pan yn annog plant i ufuddau i'w rhieni, ni chai son am y pumed gorchymyn,