Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DeongluM** CTF. IV.] MEHEFIN, 1906. [Rhif 6. GOLYGYDDOL. TEIMLWN ein hunain dan orfodaeth i brotestio yn erbyn gweddau diweddaraf y cyffro crefyddol yng Nglìymru, yr hwn gyffro a elwir y " Diwygiad Newydd." Nis geill neb rhesyrnol ameu am y diwygiad gafwyd ddechreu y flwyddyh ddiweddaf a diwedd yr un flaenorol, ei fod yn gynnyrch union- gyrchol Ysbryd Duw. Sobrwyd miloedd o feddwon ynddo, gwaghawyd y pyllau glo o regfeydd a llwon a swn maswedd, llanwyd hwynt â sain gweddi a mawl, a dygwyd Uiaws o bobl ieuainc ein heglwysi, nad oeddent erioed wedi teimìo pethau cryfion, dan ddylanwadau hynod o ddwys. Ond am y " Diwygiad Newydd," ymddengys 3*11 rhywbeth cymysgryw o nwyda chnawd. Nid ydym am eistedd mewn barn ar y rhai a flaenorant ynddo, ond y maent yn amlwg wedi colli ysbryd pwyll, ac yn arddangos gwanc afiach am y cynhyrfus. Nid crefydd ydyw hysterics. * * CJywsom am rai blaenllaw ynglyn á'r mudiad yn myned í lan yr afon, gyda'r bwriad, meddent hwy, o gerddedar y dyfroedd megys Petr gynt. Cynygiwyd hyn hefyd gan y Mormoniaid tua hanner can' mlynedd yn ol, a boddodd amryw o honynt yn yr ymgais. Darllenasom am eraill yn myned o gwiupas, gan honni fod ganddynt hawl i iachau clefydau a bwrw allan gythreuliaid. Nis gwyddem ni fod y cyfryw ysbrydion yn cymeryd meddiant corfforol o ddynion y dyddiau hyn, fel yn amser Crist. Ond os mai yr hyn feddyllir wrth ysbrydion aflan ydyw egwyddorion llygredig y natur, yn cael eu corddi i bwynt uchel o weithgarwch gan ddylanwad Satan, anturiwn ddweyd nad ä y rhywogaeth hon allan ond trwy gydweithrediad calonnog y dyn ei hun, mewn tristwch duwiol ac edifeirwch ain bechod. * # Nid ydym yn petruso dweyd fod rhai o'r cyfarfodydd diwygiadol, a gamenwir felly, yn cymeryd gwedd gableddus, os yw yr adroddiadau a ddarllenasom yn gywir. Meddylier am ddyn yn syrthio i trancc fel un o'r ysbrydegwyr, ac yn y cyflwr hwnnw yn baldordd toraeth o bethau gwirion, a'r bobl oeddent yn bresennol yn bloeddio mewn cyffro, " Diolch ! Dyma ddiwyg-