Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Deonglujit. Cyf. IV.] MAI, 1906. [Rhip 5. GOLYGYDDOL. ARFEREM ni edrych ar Weddi yr Arglwydd fel uwchlaw beirniadaeth, fel gemwaith aur heb na diffyg na bai. Gw\*ddem fod amheuwyr ac anffyddwyr yn c^'dnábod ei rhagpriaeth, a'u bod yn ymgrymu yn ei phresenoldeb. Oud fel y darfu i rywun enwogi ei hun trwy ddarganfod brychau ar yr haul, y mae gweinidog g3*da'r Cynulleidfaoiwyr yn Llundain, E. W. Lewis wrth ei enw, wedi hynodi ei hun trwy ei sylwadau ar y weddi hon. Nis gwyddom ddim am y Parch. E. W. Lewis, heblaw ei fod yn olynydd i'r Parch Dr. Guinness Rogers, ac nid ydym yn teimlo gronyn o ddyddordeb i holi yn ei gylch. Ym- ddengys ei fod yn traddodi cyfreso ddarlithiau ar y Pader, a rhyw Sul daeth at y cymal, " Acnac arwain ni i brofedigaeth.1' Dywed- odd wrth y gynulleidfa ei fod jn methu deall y deisyfiad. " Nid yw profedigaeth," meddai, " o angenrheidrwydd i'w gochel, am rnai trwyddi, a thrwyddi hi yn unig, y cyrhaeddir y cymeriad uchaf, a'r grâs ysbrydol meìusat'." Ychwanegodd ei fod yn gwrthod credu fod temtasiwn yn dod oddiwrth y diaful. Oddiwrth bwy y mae yn dyfod, ynte ? Nid oddiwrth Dduw yn sicr, oblegỳd dywe'd yr Apostol Iago nad yw efe yn temtio neb. Aeth Mr. Lewis ymlaen i ddweyd fod gweddio am gael ein gwaredu rhag temtasiwn yn gyfystyr â gosod y nailì du un o brif foddion dadbl}^giad cymeriad. Diweddodd trwy ofyn i'r gynulleidfa am gymeryd wythnos i ystyried y mater, a dyfod a'n hesboniad iddo ef v 8ul canlynol. Deffry yr ymddygiad hwn amryw ystyriaethau yn y meddwl. Yn un peth'cyfnewidia clrefn gyffredin y berthynas rhwng pregethwr a'i wrandawyr. Yn lle ei fod ef yn arwain y gynull- eidfa, gofynna i'r gynuileidfa ei arwain ef. Swydd y pregethwr yw eglurô méddwl Duw ; i hynyna y mae wedi ymgysegru ; ond dyma esiampl o swyddog yn ym'ddihatru oddiwrth ei swyddogaeth yn gyhoeddus, ac yn dymuno ar y bobl wneud iddo ef y peth y dylai ef ei wneud erddynt hwy. Byddai ymddygiad fel hyn mewn athraw ysgol, neu mewn proffeswr ìuewn coieg. yn tynnu sylw ar unwaith. Yn nesaf, braidd nad yw yn cymeryd arno ei