Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Deongltpit» Cyp. IV.] EBRILL, 1906. [Rhip 4. GOLYGYDDOL. EFALLAI nad yw pawb o'n darllenwyr yn gwybod am fodolaeth cyindeithas yn dwyn yr enw Cymdeithas yr Ymchwiliad Eneidiol. Aelodau y gymdeithas ydynt ddynion dysgedig, yn wasgaredig dros wyneb yr holl ddaear, ond wedi ymuno i geisio olrhain i'w gwraidd yr ymddangosiadau a briodolir yn gyffredin i ddylanwadau goruwchnaturiol. Y mae ganddynt oruchwylwyr ymhob parth o'r byd, hyd yn nod yng Nghymru. Os bydd swn anaearol mewn tỳ, yn afìonyddu ar gwsg y teulu ; os y clywir fod bwgan mewn rhyw gymydogaeth, yn dychrynu nos- deithwyr ; neu os bydd rhywun wedi gweled goleuni cyffelyb i ganwyll gorff, bydd un o'r goruchwyìwyr yno ar unwaith, yn holi, yn manylu, ac yn ceisio esbonio. Cafodd y Gymdeithas faes helaeth i*w hymchwiliad mewn ysbrydegaeth, mesmeraeth, a'r cyffelyb. Ond yn awr y mae wedi troi ei llusern ar y diwygiad crefyddol yng Nghymru. Ni edrychai yr aelodau ar y diwygiad fel ymweliad oddiwrth yr Arglwydd, ni chymerent yn ganiataol fod elfen ddwyfol yn y cyffro ; yn hytrach, gwnaethant ymdrech i geisio esbonio y ewbl ar dir natur. Gwnaed yr ymchwiliad ar ran y Gymdeithas gan y Parch. A. T. Fryer, Caerdydd, gweinidog o Sais nad yw yn deall gair o Gymraeg, a rhaid fod hynny yn gryn anfantais iddo. Gan mai Mr. Ëvan Roberts sydd wedi bod yn fwyaf amlwg yn y cyffro, rhoed ef dan yr x-beiydrau, o ran ei gorff, ei hanes, ynghyd â'i nod- weddion meddyliol ac ysbrydol. Hawlia Mr. Fryer glod nid bychan iddo ei hun, am ddarganfod ffaith nad oedd neb wedi ei dwyn i sylw o'r blaen, sef ddarfod i Mr. Evan Roberts gael dyrnod ysgafn ar ei wyneb pan rhwng unarddeg a deuddeg oed, ac mewn canlyniad iddo ddangos arwyddion cyffro g'ieuol (neruous shock). a Geill y digwyddiad gael ei wadu gan rai o'i gyfeillion," ëbai Mr. Fryer, " ond y mae gennyf sail gref i gredu fod gwir yn yr.háhes." Paham y rhaid i'w gyfeillion geisio celu ÿ ddamwain ös y cŷmerodd le, nis gẃyddom, na pha gysylltiad eill fod rhyngddi a'r diwygiad. Modd bynnag gwedi yr ymchwil