Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Deonglunt* Cyf. IV.] MAWRTH, 1906. [Ehip 3. GOLYGYDDOL. DYMA lyfr arall eto er amddiffyn yr Eglwys Wladol yng Nghymru, ac yn dwyn y cyfenw " Tarian yr Eglwys." Y mae wedi cael ei ysgrifennu gan ddau lenor profiadol, y naill yn offeiriad urddedig, a'r llall yn dal cysylltiad â newydd- iadur poblogaidd. Rhagora y llyfr, fel y gallesid disgwyl, mewn purdeb iaith a diwyg llenyddol ar liaws o gynyrchion y wasg Eglwysig. Ac er mor unochrog ydyw, a'i fod yn edrych ar bob cwestiwn o safle plaid, teifì dros y bwrdd yn ddiseremoni dybiaeth Rheithor Llangeitho, sef na chafodd Daniel Rowland ei droi o'r Eglwys gan yr Esgob Squire. Ar dudalen 89 cawn a ganlyn :— " Pwyir îlawer ar yr Esgob Squire am dynnu trwydded Rowlands yn ol ; ond y ffaith yw yr achwynid arno am fyned i blwyfau eraill, ac yr oedcì dysgyblaeth eglwysig yn galw am gyfryngiad yr esgob. Anffawd fawr a fu hynny, ond dylid edrych yn deg ar ffeithiau. Ni byddai y Methodistiaid eu hunain heddyw yn foddlawn gweled pregethwyr diawdurdod yn llenwi eu pwlpudau hwy. Rhaid i'w gweinidogion hwy ddyfod atynt o dan gomisiwn a sel y Corff. Yr oedd yr offeiriaid yn gyfrifol am y plw3Tfi hynny yr elai Rowlands a'r Tadau Methodistaidd i bregethu heb ganiatad iddynt. Yr oedd eu gwaith yn gwneud hynny yn tueddu at ddinystrio trefn a llywodraeth a dysgyblaeth eglwysig. Gwir i'r apostolion gael eu danfon i'r holl fyd, ond nid oedd y byd yr adeg honno wedi ei dorri allan yn blwyfau." ŵ * Yr ydyin wedi dyfynnu y paragraff air am air, ac yn ei lawn hyd, er dangos fod yma gydnabyddiaeth bendant ddarfod i'r Esgob Squire gymeryd ei drwydded i ffwrdd oddiar Daniel Rowland. Gelwir y weithred yn " anffawd," a gwneir ymgais gwannaidd i gyfiawnhau yr esgob. Dywedir na wnai y Method- istiaid oddef pregethwyr diawdurdod i lenwi eu pwlpudau. Ond yr oedd Daniel Rowland wedi ei awdurdodi; cawsai ei urddo yn gyflawn i waith y weinidogaeth, ac yr oedd yr Eglwys Sefydledig, trwy gyfrwng y swyddog priodol, wedi rhoddi ei sel wrth ei gomisiwn. Anhawdd peidio gwenu wrth ddarllen cymal olaf y paragraff. Tybed mewn difrif y tybia yr awdwyr fod gwaith