Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DeongltDi** Cyf. IV.] CHWEFROR, 1906. [Rhif 2. GOLYGYDDOL. YN un o gyfnodolion y mis diweddaf ceir ysgrif nodedig o alluog ar yr Iuddewon, yr hon sydd wedi bod i ni yn agoriad llygaid. Arferem ni feddwl fod yr Iuddewon yn aros tua'r un rhif ag yn amser Moses, sef rhwng dwy a thair miliwn ; nad oeddent yn cynyddu nemawr mewn adeg o lwydd- iant, nac yn lleihau lawer pan dan erledigaeth. Yn y gred hon y cawsom ein dwyn i fyny. Ond yn ol yr erthygl a nodwyd y maent wedi cynyddu yn ddirfawr yn y canrifoedd diweddaf, ac y mae eu rhif yn awr yn holl wledydd y byd dros un miliwn ar ddeg. " Yn ol pob deddf hanes y gwyddom am dani," meddai yr awdwr, " dylasai y genedl fod wedi difiannu ganrifoedd yn ol. Ni feddant elfennau cenhedlaetholdeb, sef iaith a gwlad yn gyffredin i'r 011." Ni chafodd cenedl ei chashau yn fwy. Nid yw yn ymgymysgu â chenhedloedd eraili ; ceidw Saboth gwahanol, ymbortha ar fwyd gwahanol, a hwnnw wedi ei ddarpar mewn dull gwahanol. Ni chafodd unrhyw geuedl ychwaith gymaint o'i herlid. Cafodd yr Iuddewon eu rhostio yn fyw gan y Chwih s, eu dirmygu fel rhai afian, eu hystyried ymhob gwlad fel ebtroniaid, eu hesgymuno o gymdeithas, ac yn fynych eu hyspeilio o'r oll a feddeni. Yn ol pob deddf hanes dyìasai y genedl ddiflannu, Ond ni fynnai ddifiaunu. A mwy, ymddyrchai agos ymhob gwlad i safle anrhydeddus. Daeth yn allu ymysg cenhedloedd y byd. Yn yr ystyr hwn nid oes ei chyffelyb ymysg yr holl gen- hedloedd. Cynyddodd y Negroaid mewn rhif yn yr Amerig, er gwaethaf caeth-wasanaeth, ac er cael eu gweithio a'u camdrin yn fynych gan feistriaid creutetwn. Ond ni fedrodd y Negro ym- ddyrchafu. Saif yn isel 'yng ngraddfa bodolaeth, yn aflan ei arferion, yn ddiog ei dymheredd, yn hurt ei feddwl, ac yn amddifad o ddylanwad. Ónd am yr Iuddewon, ceir rhai o honynt yn y safleoedd uchaf, bu un o honyht yn brifweinidog Prydain Fawr, a cheir eraill yn enwog mewn celf, lienyddiaeth, cerddoriaeth, a phob aeth arall. Myn yr awdwr hefyd en bod yn cael eu cam- ddarlunio pan eu desgrifìr fel usurwyr, casglwyr arian, a rhai yn sugno gwaed. Cymaint o wir ag sydd yn y cyhuddiad nid yw namyn cynnyrch erledigaeth.