Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Deonglton. Cyf. I.] TACHWEDD, 1903. [Rhif íl. GOLYGYDDOL, YMDDENGYS, yn ol erthygl yn Hibbert Journal, y bodola plaid o Ryddfrydwyr ymysg Pabyddion y deyrnas hon. Cydweithia amryw ddylanwadau tuag at ei ffurfio, megys eynnydd addysg, dylanwad y Prifysgolion ar y Pabyddion ieuainc a ânt yno, gwrthnaws at draws lywodraeth yr offeiriaid, gwrth- wynebiad i ddyfodiad mynachod tramor i'r wlad hon, a diffyg ered yn y creiriau a werthir. Ceir felly nifer o ddynion deallus a galluog, a gredant yn y grefydd Babaidd, ond a wrthwynebant yr awdurdodau Pabaidd yn Westminster. Nid yw llywodraeth dym- horol y Pab yn erthygl yn eu ffydd. Teimlant atgasedd dirfawr at y Jesuitiaid, y rhai ydynt yn fwy eu dylanwad nag erioed ym Mhrydain yn bresennol. Y maent yn wladgarwyr trwyadl, ac felly nis gallant ddygymod â'r elyniaeth at y wlad hon a arddang- osir gan liaws o'r offeiriaid tramor. Hawliant iddynt eu hunain ryddid i bleidleisio ymhob etholiad yn ol eu barn a'u cydwybod, ac nid fel y byddo yr offeiriad yn gorchymyn. Eu harwyddair ydyw diwygiad. * # Oud y peth y cwynant fwyaf o'i herwydd yw y cyhoeddiad parthed anffaeledigrwydd y Pab. Yn íiaenorol i 1870 gobeithient na chai yr athrawiaeth hon mo'i gwneud yn erthygl o ffydd. Ond bellach nis gwelant y posiblrwydd i gyfnewid, gan ddarfod i'r Pab ddatgan ar gyhoedd nad yw yn bosibl iddo gyfeiliorni pan yn llefaru o'i gadair ar fater o ffydd neu foesoldeb ; ac nid hynny yn unig, ond na chyfeiliornodd y Pabau a fu o'i íiaen, er bod yn eu mysg hereticiaid a gwallgofion, heb son am greaduriaid anfoesol. Cred naw o bob deg o'r offeiriaid eu hunain fod hyn yn gamsyn- ied dybryd. Yng Nghatecism y Tad Keenan ceir yr ateb a ganlyn i'r gofyniad, " A ni ddylai y Catholiciaid gredu fod y Pab ynddo ei hun yn anffaeledig ?" " Na ddylent; nid yw yn erthygl o gwbl yn y ffydd Gatholig ; nis gall unrhyw benderfyniad o eiddo y Pab fod yn rhwym o dan boen heresiaeth, oddigerth ei fod yn cael cymeradwyaeth y corff addysgol, sef yr esgobion." Teimla llu o'r Pabyddion hefyd anfoddlonrwydd na fyddai yr awdurdod- au yn cydnabod urddau Eglwys Loegr. Gwelant y Defodwyr yn cynyddu yn gyfiym, ac yn troi llawer i gredu athrawiaethau Pab-