Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Deongltoit. Cyf. I.] HYDREF, 1903. [Rhip 10. GOLYGYDDOL. UN o'r pethau da iawn yng Nghymdeithasfa Pwllheli oedd papyr y Pareh. R. Jones, Glanalaw, ar " Y budd o ymgydna- byddu â'r llenyddiaeth oreu." Yr oedd y testyn yn un tra amserol, pan y mae y fath gruglwyth o ysbwrial yn tramwyo tan yr enw llenyddiaeth ; a llwyddwyd i gael meddyliwr cryf a gwreiddiol i draethu arno. Yn ol Glanalaw, medd y llenyddiaeth oreu dri nôd angen. Ym mlaenaf, y mae yn cynyrchu y meddyl- garwch dyfnaf. " Y mae llyfr mawr fel udgorn mawr, fel udgorn Duw, yn defîro gwledydd ; ac ar yr un pryd, y mae fel llong marsiandwr yn dwyn ei chyfoeth o bell, ac heb ei brinhau yn ei gyfrannu mewn helaethrwydd i bawb a'i derbynia." Yr ail nôd arni yw, ei bod yn gwella dyn o ran ei feddwl, ei galon, a'i ysbryd. Y llyfr da yw hwnnw " sydd gyfled a'i ddarllenydd, sydd yn darllen iddo ei holl ddirgelion, yn cyflenwi ei holl anghenion, ac yn llanw ei holl obeithion." A'r nôd olaf arni yw, mai hi a gyn- yrcha fwyaf o lenyddiaeth dda y tn allan iddi ei hun. Rhaid i ni deimlo fod Glanalaw wedi gosod ei fys ar brif anhebgorion 11 en- yddiaeth ddyrchafedig. Ac nid oes yr un llyfr yn dwyn arno yr holl nodau hyn i'r fath helaethrwydd a'r Beibl. " Pa lenyddiaeth a ddadebrodd ac a gyfoethogodd gymaint ar feddyliau ? Pa ddy- lanwad fu mor bur, eang, a threiddiol, ac a gynyrchodd y fath chwyldroadau anhraethoì eu maint ? Y mae hwn ynddo ei hun fel mynydd Duw ymhlith y bryniau. Y mae fel y Gwaredwr ei hun wedi disgyn o'r nef." Gwir bob gair ; ac onid yw yn rhyfedd fod lliaws o'n merched a'n bechgyn ieuainc yn darllen íîug-hanes- ion glasdwraidd, ac yn edmygu cymeriadau na feddant gymaint a gronyn o wir arwriaeth, tra yn esgeuluso yn llwyr wroniaid y Beibl, megys Abraham, Moses, a Dafydd ? Pel llenyddiaeth, ar wahan i'r elfen ddwyfol a gynwysa, saif yr Ysgrythyr yn hawdd ar ben rhes y llyfrau. # # Gofynnir y cwestiwn weithiau, a oes y fath beth yn bod a llen- yddiaeth Gymreig ? A oes gennym ryw gynnyrchion gwreiddiol, ag y mae yn werth cadw yr iaith yn fyw er eu mwyn ? Cyfarfu- asom y dydd o'r blaen â chlerigwr, gawsai ei fagu a'i ddwyn i fyny ymhlìth Methodistiaid sir Aberteifi ; ond er mwyn tamaid o fara