Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DconuliDit. Cyf. I.] MEDI, 1903. [Rhif 9. GOLYGYDDOL. PRAWF yr ymdriniaeth fu yn y Gymanfa Gyffredinol yn Amlwch nad yw stâd yr Ysgol Sul yn ein mysg cystal ag y byddai yn ddymunol. Dywedai yr ystadegwyr fod y cyf- rifon yn anfoddhaol. Ac yr ydym yn ofni nas gellir dibynnu yn gyfangwbl ar gywirdeb yr ystadegau. Ond a chymeryd y cyfrif fel un cywir dengys fod gafael yr Ysgol Sabothol ar y wlad yn gwanhau. Tra y mae poblogaeth y Dywysogaeth yn cynyddu gyda chyfiymdra, a thra y cymer cynnydd parhaus le yn rhif y gwrandawyr a'r cymunwyr perthynol i'r Cyfundeb, y mae rhifedi athrawon a deiliaid yr Ysgol Sul yn aros yn yr un fan, os nad ym myned yn llai. Dichon fod i hyn amryw achosion. Honnir gan rai fod amcan gwreiddiol y sefydliad, sef dysgu yr anllythyrennog i ddarllen, yn cael ei gyrhaedd yn awr, i raddau helaeth, trwy yr ysgolion dyddiol, ac felly fod yr Ysgol Sul wedi myned mewn rhan yn ddiangenrhaid. Nid ydym yn cyduno â hyn o gwbl. Os dibynnir ar yr ysgolion dyddiol am ddarllenwyr Cymreig, nid hir y bydd y Beibí Cymraeg heb gael ei anghofio, a llenyddiaeth Gymreig heb gael ei hesgeuluso. Efallai fod y duedd sydd yn y Cymry i efelychu y Saeson, ac i fabwysiadu arferion Seisnig, yn cyfrif i raddau am ddirywiad yr Ysgol Sul. Tan ddylanwad y duedd hon teiinla merched ieuainc, unwaith yr ânt i'r ystâd briod- asol, fod cadw eu haelodiaeth yn y dosparth yn yr Ysgol Sui yn anghydweddol âg urddas y sefyllfa newydd. Ond diau y gellir edrych ar eiddilwch y sefydliad fel rhan o'r marweidd-dra cref- yddol sydd yn awr wedi goresgyn y genedl. Diffyg ysbryd sydd wrth wraidd y dirywiad. Pe y gellid adnewyddu ein sel o'i phlaid, bnan y lliosogai ei deiliaid. * * Cwynid yn y Gymanfa hefyd nid yn unig fod rhif y rhai a fynychant yr Ysgol Sabothol ym myned yn llai, ond fod ansawdd yr addysg sydd yn cael ei gyfrannu ynddi wedi gwaethygü. Priodolai rhai hyn i'r arholiadau. " Y mae gormod o swn arholiad yn y dosparthiadau yn bresennol," meddent. Yr ydyin ni yn credu fod yr arholiadau yn cyfarfod âg un o anghenion yr oes, a'u bod wedi gwneud lles dirfawr ; ac eto rhaid i ni addef y gall fod rhywbeth yn y gwyn. Dylai y sefydliad fod yn rhywbeth amgen,