Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DconyliDi;. Cyf. I.] AWST, 1903. [Rhip 8. GOLYGYDDOL. FEL y disgwyliem, y mae amryw wedi dyfod allan i ateb Dr. Oldfield, yr hwn a daerai fod y cenhadaethau Cristionogol yn yr India yn fethiant. Un yw y Proffeswr Armitage, o Bradford. Y mae ef wedi bod yn yr India fwy nag unwaith, ac yno y treuliodd y gauaf diweddaf. Bu am ran o'r amser ym mysg yr Hindwaid, ac am ran arall gyda y cenhadon Saesnig, yn sylwi arnynt yn gweithio. A'i brofiad yw nas gwelodd well gwaith erioed. Er prawf o ddylanwad y cenhadon ar yr Hindwaid, dywed iddo fyned i dŷ cenhadwr, ac iddo gael Hindw yno yn perthyn i'r bendefigaeth, yr hwn a ddaethai i lawr o'i gastell rhwng y bryniau i gael ymddiddan â'i hen gyfaill, ac i'w geryddu am na ddaethai ato i dreulio wythnos. Drannoeth, aeth y Proffeswr a'r cenhadwr i'r ddinas. " Dowch gyda mi," ebe'r cenhadwr, "í weled Brahmin sydd wedi colli ei fab, bachgen rhagorol, oedd yn gwneud yn gampus yn y Brifysgol." Cyfar- fyddodd yr Hindw hwy, a datganodd y cenhadwrr ei gydymdeim- lad â'r tad galarus. Ebai y Brahmin yn ol, " Y mae fy mywyd i wedi ei orffen ; y mae yn y bedd gyda fy mab ; ond 0 ! paham y mae y byd mor llawn o dywyllwch ?" " Aroswch," ebai y cen- hadwr, " y mae gennyf air atoch. Yr oedd yna ddafad a dorrai allan yn barhaus o'r gorlan. A phan y dygodd oen, hi a ddysgodd hwnnw i grwydro. Gofidiai y bugail, a cheisiodd ei rwystro mewn llawer ffordd; ac o'r diwedd, efe a gymerodd yr oen ac a'i rhwymodd wrth ei eisteddle ei hun. Ac yna ni chrwydrodd y ddafad mwy." Gan yr arfera y Brahminiaid siarad mewn ffugrau, deallodd yr Hindw y gyffelybiaeth ar unwaith. " Gwir," meddai, " fy mod wedi bod yn grwydrwr ; ai dyna y rheswm paham y cymerwyd fy oen, ac y rhwymwyd ef wrth eisteddle y Bugail ?" Dyma gyfle ardderchog i'r cenhadwr i ddweyd am yr Iesu, y Bugail da, ac ni esgeuluswyd ef ganddo. Amcan y Proffeswr, yn yr hanesyn, ydyw dangos fod y cenhadon Cristionogol yn yr India ym medru ennill cydymdeimlad y dosparth uchaf o'r Hindwaid, er nad ydynt eto wedi cael eu dwyn i gredu. * * Un ai*all sydd wedi dyfod allan i ateb Dr. Oldfield yw y Prif- athraw Adeney, o Goleg Lancaster. Cyfeiria at honiad Dr.