Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Decngltott. Cyf. I.] MEHEFIN, 1903. [Rhip 6. GOLYGYDDOL. YR ydym yn argyhoeddedig fod tynged yr iaith Gymraeg, o leiaf yn y Deheudir, yn dibynnu ar yr hyn a wneir yn yr ugain mlynedd nesaf. Y mae y Saesneg yn ennill tir yn gyflym dros yr holl wlad. 0 fewn côf pobl sydd yn awr yn fyw, yr oedd agos yr oll o Sir Fynwy, a'r holl ardaloedd gweithfaol o'i mewn, yn Gymreig hollol. Cymraeg geid ar yr heol, yn y gwaith, ac yn y capel ; mewn Cymraeg y chwareuai y plant : ac os deuai un o estron genedl i breswylio i'r gymydogaeth, bydded Wyddel, neu Sais, neu Ysgotiad, buan y clywid yntau yn siarad iaith y werin. Ond yn awr, fel y mae gwaethaf y modd, ychydig iawn o Gymraeg a geir yn Sir Fynwy ; anaml y deuir o hyd i blentyn wedi ei eni a'i fagu o'i mewn a fedr ddeall yr hen Omeraeg, chwaethach ei siarad ; ac y mae addoliad yr Arglwydd yn cael ei ddwyn ymlaen agos yn hollol yn yr iaith Saesneg. Cymreig oedd y Cyfarfod Misol, ac mewn Cymraeg pur y pregethid ; ond yn awr, nid oes nemawr gapel o fewn y sir lle na cheir rhyw gymaint o Saesneg, yn enwedig nos Sul, " er mwyn y bobl ieuainc'' Y gwir yw fod yr hen iaith anwyl yn y rhan hon o'r wlad yn yr act o drengu. Nid yw Sir Forgannwg lawn cynddrwg, am ei bod yn nes i'r adrannau Cymreig, ac am fod mwy o bobl o'r ardaloedd hyn yn dylifo iddi. Ond hyd yn nod yma cymer trawsífuríìad eyflyni le. Am yr hen frodorion, dealla y rhieni Gymraeg, darllenant y Beibl Cymraeg, ac yn yr un iaith y gweddiant ac yr hoffant wrando pregethu ; ond am y plant y maent yn Saeson hollol, ac ymffrost- iant yn eu hanwybodaeth o iaith eu tad a'u mam. Y canlyniad yw fod lliaws o achosion Cymreig eisoes wedi cael eu troi yn Saesneg, ac y mae eraill yn cyfeirio at yr un pwynt. Y dyfodiaid i'r sir sydd yn cadw y Gymraeg yn fyw o'i mewn. Am Sir Frycheiniog, yn ol y cofrifiad diweddaf, yr oedd mwy na hanner y bobl heb fedru cymaint a gair o iaith y Cymry. Am Sir Benfro, gwyddis fod rhan helaeth o honi yn Saesneg er's cannoedd o flyn- yddau. Yr unig ddwy Sir yn y De nad ydynt wedi cael eu lefeinio â Saesneg yw Ceredigion a Chaerfyrddin. Nid yw ein