Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Deongluw. Cyf. I.] EBRILL, 1903. [Rhip 4. GOLYGYDDOL, YN y dyddiau hyn y mae y pwlpud, yr un fath a phob sefydliad arall, wedi cael ei ddarostwng i feirniadaeth. Pe y gofynnid pwy yw y beirniaid, atebem yn ddiofn—pawb ar sydd yn gwrando yr efengyl. Teimla yr eiddilaf ei amgyffredion, sydd agos am y clawdd ffin a'r anifail direswm, fod ganddo hawl i osod unrhyw bregeth yn ei glorian, ac y medr ddweyd i'r owns faint yw ei phwysau. Achwynai y diweddar John Evans, New Inn, ar hyn. " Yr ydym ni," meddai, " sydd yn pregethu y Gair ar ein prawf bob dydd." "Efallai, Mr. Evans," ebai rhywun yn ol, " y cewch eich condemnio ryw ddiwrnod." " 0, na," meddai yr hen weinidog ffraeth, " 'does un perygl, druan ; chyduna y rheith- wyr byth." Cwynai newyddiadur poblogaidd yn ddiweddar fod llawn hanner can mil yn y deymas yma yn unig yn esgyn y pwlpud bob Sul, a'u bod yn cael llefaru yr hyn a fynnent, ac na feiddiai neb sefyll i fyny i'w beirniadu. Ychwanegai yr un newyddiadur fod yr areithyddiaeth yn fynych yn llaprog, y rhesymeg yn aml yn dwyllodrus, a'r cymhariaethau yn anaddas ; a bod llawer yn " gwrthod dyfod i wrando ar y cyfryw am na feddant hawl i ateb." " Hoffai llawer o honom," ebai yr ysgrifen- nydd, " ddweyd gair yn ol." Addefai hefyd y byddai hyn yn dinystrio yn hollol gymeriad crefyddol y gwasanaeth. * # Clerigwr yn ninas Llundain yw y cyntaf y clywsom am dano yn gwahodd beirniadaeth. Cyhoeddai ef un boreu Sabath y byddai y noson honno yn traddodi pregeth, yr hon y dymunai i'r gynulleidfa ddatgan ei barn arni y nos Lun canlynol. Ni chlyw- som ddim parthed llwyddiant yr anturiaeth. Ond y mae ar y wyneb ddau reswm cryf yn erbyn yr arfer hon, y gall y mwyaf disgraff eu canfod. Un ydyw, na fyddai pregeth wedi ei pharotoi yn arbennig ar gyfer beirniadaeth yn debyg o fod yn esiampl gywir o bregethau arferol y cyfryw weinidog; teimlai lygad manwl y beirniad arno wrth ei chyfansoddi, a byddai yntau yn debyg o fod yn llawer mwy gofalus o'r herwydd. Y mae y rheswm arall yn gryfach. Tynnai yr arfer hon ymaith oddiwrth grefyddolder yr odfa ; byddai pawb yn pwyso y bregeth yn lle