Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Deongluw. Cyf. I.] CHWEFROR, 1903. [Rhip 2. GOLYGYDDOL, BETH sydd wedi dyfod o'r mudiad i -gael credo i'r Cyfundeb ? Gan y brys gymerwycl i apelio at y rhai a dybir eu bod yn golofnau, ynghyd â'r cyhoeddusrwydd roddwyd i syniadau y cyfryw yn y Goleuad, tybiem fod y mater yn cael ei ystyried yn gwestiwn llosgawl, yn galw am sylw uniongyrchol, ac felly y byddai ymdrafodaeth faith a phwysig ar y pwnc yng Nghymdeith- asfa Abergele. Ond pasiodd y Gymdeithasfa heb na siw na miw ynghylch y peth. Yr ydym wedi bod yn ceisio dyfalu beth achosodd y cyft'ro. Hysbys yw y medd y Cyfundeb gredo eisoes. Nid yw y Gyffes Ffydd ond. datganiad cyhoeddus o"r hyn a gredir yn ddiameu yn ein plith. Ac wrth ei hochr cymer Hyfforddwr Mr. Charles ei le yn anrhydeddus. Ai tybied yr oeddis fod y ddau hyn bellach yn myned yn henaidd, nad ydynt yn fynegiant o'r syniadau newyddion sycld yn cael eu lledaenu, a bod eisieu rhywbeth mwy up-to-dateì Neu ynte a ystyrid eu bocl yn rhy faith, ac y dylid eu berwi i lawr fel ag i beidio bod yn ormod o dasg i ysbryd diog yr oes ? Nid ydym yn glir iawn ychwaith gyda golwg ar y defnydd a amcenid wneud o'r gredo ar ol ei chael. Meddyliem weithiau y bwriedid ei darllen yn y gwasanaeth cref- yddol cyhoeddus yr un fath ag y gwneir yn Eglwys Loegr, a'r holl bobl yn cyd-adrodd. Yn y niwl yn hollol yr ydym ar y pethau hyn, ae yn sicr dylai y niwl gael ei chwalu, a'r tywyllwch ei wasgar cyn symud gyda pheth o'r fath. Ymddengys i ni fod o leiaf ddau reswm cryf paham y dylai y Methodistiaid bwyllo cyn penderfynu llunio credo ychwanegoì. Un ydyw na wnai hi mo'r oes sy'n codi yn dduwinyddion. Ofnwn y ffynna anwybodaeth dirfawr parthed athi-awiaeth. Clywsom y dydd o'r blaen am nifer o flaenoriaid yn cael eu derbyn mewn Cyfarfod Misol nad oeddent wedi cymaint a chlywed am y Pum Pwnc, chwaethach meddu dirnadaeth o honynt : gwybodaeth a sugnai ein tadau i'w cyfansoddiad agos gyda llaeth en mam. Y mae y newyddiadur, y nofel, ynghyd â'r cylcligronau ysgafn wedi gwthio dros yr erchwyn lyfrau trymion, y rhaid wrth'egni medd- yliol tuag at eu meistroli. Ond tybed mai credo ychwanegol yw y