Skip to main content

Cnídjgnitoii ||ltsoí aí toasamictj) Cerbíroriacíb ;t |hrìjbontactlj (öptmcf. CY^O%ííDDEDIG AR V CYNTAF O EOB MIS Rhif88. CYF. IX. IONAWE, 1881. Pris 2c. ORIEL Y PRIP FEISTRL B EET HO VE N. Parhad. Wedi perfformiad cyntaf Fidelio, cyfnewidiodd ac ail ysgrifenodd Beethoven amryw ddarnau o honi, a chyfnewidiodd ei henw—Lenore oedd ei henw cyntaf. Dywedir mai Mozart ydoedd Creawdwr yr opera Germanaidd, efelychwyr o'r arddull Italaidd oedd ei flaenoriaid; ei Figaro a'i Don Juati a effeithiodd y chwyldroad yn y byd cerddorol. Lleis- iau'r cantorion ac níd y cyfansoddwr a edmygir wrth wrandaw yr Italian opera, ac nid y eyfan- soddwyr, am nad oes dim ynddynt all dreiddio yn mhellach na'r glust; mae ynddynt mae'n wir fireiniwch melodawl, ond y maent yn amddifad o'r meddwl byw hwnw a dreiddia ac a gynhyrfa deimlad u dyfnaf y galon, Priodol iawn y sylwa un nad yw Don'Juan Byron ond dybiryn gwaljgof digon cyffredin, ond am Don Juan Mozart—y mae yn ellyll, a gwyllt waed ei wythienau yn rhedeg fel ufel berwedig, ai ysbryd m r ffyrnig a chyfrwysd'rwg ac uchel- geisioi a Satan ei hun m; a phä faint bynag ryfeddir at yr ysbrydion a ddychyrnygwyd gan athrylith ffrwythlawn Shakspear, nid oes yr un o'i ddrychioì- aethau yn gwneud "i flew ein cnawd sefyll, ac i'n holl esgyrn grynu,'' yn gymaint ag a wna cerfddelw — Arlywydd dinas Seville, wrth siglo'r ddaear a'i gamrau trymion pan yn ymwythio yn anysgwyliadwy i Neuadd gwledd Don Juan, a phortreadir yr oll gyda y gerddoriaeth fwyaf annaearol a ddaeth erioed i ran'-meidrolion i'w gwrando. Nid oes neb wedi dyfod byth yn ag >s i Mozart am opera, ond Weber a Beethoven Pe cymodai rhywbeth ein meddwl ag i un werthu ei hun i'r ysbryd drwg .credwn mai yr anffawd ofnadwy hwnw a achlysurodd y fath anrheg ag a geir yn Der Freischutz Weber, a wna hyny, eto, er hyn yna, hawlia Fidelio Beeth- oven ei rhestru yn mysg y ceinion penaf, os nad ar ben y rhestr ö'r oll o honynt, Nid yw y rhanau lleisiol o honi, feallai. yn llawn mor felodaidd ag yw alawon Mozart a Weber, on ! y maent yn llawu ^jior glasurol. Mae ei phwyntiau cerddorol yn fwy amrywiol, a'i chynghanedd yn llawn mor gyfoethog. Ceir amrywiaeth a symledd, hudolus Haydn, cynghanedd gyfoethog a dwfndreiddiol Mozart, a gwylltineb pruddglwyfus a rhamantus Weber, yn cydgyfarfod yn null Beethoven o drafod cerddoriaeth offerynol ei opera, nes ydyw trwy bobpeth yn cario dylanwad ymherodrol ar bob grandawr a fedda wreichionen o'r awen gerddorol yn ei enaid." Nid barn y cerddor y cyfeiriwn ato yn unig ydyw hon yna ond dyna farn prif gerddorion y byd, gyda eithrio ambell i Wagnerian, hunan dybiol. Yr oedd dieithrwch testynau Mozart a Weber yn ddiameu yn ychwanegu at eu hynodion cerddorob Ond testyn syml a chyffredin sydd i Fidelio—Stoii arn wraig ieuanc wrol a ffyddlwan yn gwaredu ei phriod o garchar, i'r hwn y taflwyd ef trwy eidd- igedd, ac anghyfiawnder. Mae Fidelio fel cyfansodd- iad yn profi y dywediad—mai mewn gwir symledd y mae gwir fawredd pan ei trinir gm athrylith. Wedi y performiad llwyddianus y cyfeiriasom ato, dywed un hanesydd i ymwelydd dieithr dalu ymweliad a Beethoven, "Tra yr oedd ef yn eistedd wrtho ei hun yn ei fyfyrgell. Dyna ergyd ysgafn wrth y drws " "Deuwch i mewn" ebe Beethoven heb gymaiut a chodi ei olwg oddiar ei opera yr hon eto a fwriadai dalfyru a'i pherfteithio. (Dyma wers—i'r corddorion hyny sydd yn cyfansoddi wrth y llath ac yn tybio fod pobpeth a wnant yn werth ei wthio i'r cyhoedd,^ Aeth yr ymwelydd at y bwrdd heb i Beethoven gymeryd un sylw o hono, tybai fe ddichon mai un o'i gydnabyddion oedd yno. ond pan gododd ei olwg canfyddai ei gamsynied Wedi i'r cyfansoddwr aíl-fcddianu ei hun, dywed- odd wrtho yn serchog. !'Eisteddwch," "Gyda phwy y caf yr anrhydedd o ffurfio adnabyddiaeth mewa dull mor anghyfî'redin." " Nid yw o fawr pwys pwy ydwyf, na beth yw íy enw, os gwna fy nghynghorion am cydymdeimlad rywfaint o ddaioni i chwi, bydd yn dda genyf, ond os na Avnant, gwell genyf ymgolli yn mysg eich cyfeillion siomedig, heb i neb fy adnabod na chlywad dim am danaf,"