Skip to main content

GERDDORFA CYHOEDDEDIG AE Y CYNTAF O EOB MIS.. Rhif 77 CYF. VII. MAWRTH, 1879. Pris 2g ORIEL Y PRIP PEISTRI. B EET H 0 VE N. Parhad. Pan yfai pawb "iechyd da'' i'r ymwelydd gyda banllefau uchel, edrychodd Beethoven i fyny gyda threni o laweuydd a syndod, gwelai yn eistedd yn union ar ei gyfer, ar y llaw dde i Waldstein, yn aghanol y bwrdd. ddyn bychan penllwyd, gyda gwynebpryd llawen llygaid bywiog, ac ymddygiad yn anilygu cyfuniad o ewyllys da, direidi, a phlentyneiddiwch. Erbyn hyn yr oedd meddyliau pruddaidd Beethoven, er mor drymed oeddynt yn gorwedd yn ei galon. yn dechreu rhoddi lle i deimladau llawen ; ac yn fuan cymerodd Waldstein y cyfleu-dra i gyflwyno yr hen gerddor a'r cerddor ieuanc i'w gilydd. Erbyn fod y wledd ar ben, yr oedd Haydn a Beethoveu wedi dyfod yn gyfeillion mynwesol, ac yn siarad yn wresog yn nghyich y gelfyddyd gerddorol, yr hyn oedd prif at-dyniad meddyliau y ddau; ac yr oedd Beethoven wedi cydsynio i chwareu i Haydn ar y berdoneg mewn ystafell arall. Fel ar am- gylchiadau blaenorol, efe a arddangosodd allu a llawnder o ddrychfeddyliau dychmygol, pa rai a alwent allan y gymeradwyaeth fwyaf oddiwrth yr hen gyfansoddwr. " Diolch i Dduw" ebai ef, "mae y gelf yn anfarwol. Gluck, prif feistr ei oes, nid yw mwy; Mozart hoffddyn y duwiau, yntau, sydd wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Yr wyf finau yn hen ddyn, a'm dyddiau wedi eu rhif-j ; ond y mae athrylith newydd wedi cyfodi, yr hwn, os bydd byw, a'n tafla ni oll i'r cysgod." Gyda hyn efe a gydiodd yn llaw Beethoven ac a'i cusanodd. Yr oedd teimladau Beethven wedi eu cyfíwrdd gymaiut fel na allai roddi un atebiad, Pan oedd Haydn yn ymadael a Beethoven, efe a ddywedodd. "Rhaid i chwi ddyfod atom ni i Vienna. Oé liydd fy hen alluoedd i o ryw ddefnydd i chwi, cewch (iderbyuiad calonog. Cerd ioriath nis gallaf ei ddysgu i chwi, yr ydych yn ddigon cyfoetlug n hyny yn awr. Ond mewn miterion ereill, dichon y ga laf fo:l o wasanaeth i chwi. Byddwn mewn angen am alluoedcl newyddion ar ol y colledion trymion sydd wedi ein goddiweddyd yn cldiweddar, ac ar ol i minau fyned. Bellach, ffarwel hyd nes y cyfarfyddwn, yn Vienna.'' Fel hyn hwy ymadawsant. Ond cododd y cyfarfod hwn luoedd o feddyliau newyddion yn Beethoven. Meddyliai yn aml am ddilyn awgryni Haydn, a uiyned i Vienna; ond yr oedd serch at ardal e enedigaeth a chariad at ei frodyr a'i gyfeillion fel yn ei ddal yn ol. Iê, yr oedd meddwl arnll yn cael lle gwresog yn ei galon—meddwl arn enill calou Adelaide. Yn cael ei ysprydoli gan y teimlad hwn, un dydd, efe a gurai wrth ddrws Palas ei ddysgybles— ei Adelaide Wedi iddo gyrhaedd i'r ystafell yn yr hon yr arferai roddi ei wersi, efe ai cafodd yn eithriad i arfer— yn wag. Nid oedd y rian yr athrawes, nar Arglwyddes yn yr ystafell. Efe a eisteddodd wrth y berdoneg, ac a ddechreuodd chwareu gan ollwng ei fysedd i ganlyn y medclyliau oedd yn berwi yn ei fynwes—mewn gwirionedd, yr oedcl yn nofìo mewn mor o feiodedcl—yr oedd weithiau yn chẃyddo yn donau o lawenydd, ac weithiau yn eithafion mwyaf poenus trallod—yn ddrych o'i enaid ystormus. Yn fuan aeth i'r fath deimlad fel mai prin y gwyddai yn mha le yr oedd, yr oedd wedi anghofìo y lle a'r amser. Yr oedd wedi ymgolli yn ei gelfyddyd. Tarawodd ymaith eto mewn melodeld gynhyrfus. Syrthiodd ei ddwylaw oddiar yr ofíèryn. Edrychai yn wyllt o'i amgylch. Pryd hyn, clywai lais tyner wrth ei gefn yn dweyd "0! yr oedd y chwareu yna yn hyfryd." Edrychodd o'i amgylch. Llais Adelaide ydöedd. Edrychodd arni, ond nis gallai siaracl gair. Ai nid hi oedd nod ei freuddwydion ? Ac yr oedd wrthi ei hun. Curai ei galon yn gyflym, tra ei anadl brou a sefyll. Neidiodd i fyny, ai ẅyn_b yn dân o wrid, gan osod ei law ar ei wefusau, ac ymdrechu síarad. Ond yr oedd y tafod a'r gwefusau yn pallu eu gẅasanaeth. Yna gan syrthio ar ei liniau, efe a at'aelodd yu llaw y foueddiges, gan ei chuddio a chusanau, a sibrydodd y frawddeg, '' Yr wyì yn eich caru."